Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
MT10510
Teitl y Modiwl
Algebra
Blwyddyn Academaidd
2021/2022
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Pre-Requisite
Mathemateg Safon Uwch neu gyfatebol
Co-Requisite
Exclusive (Any Acad Year)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   (Arholiad Ysgrifenedig)  100%
Arholiad Semester 2 Awr   (Arholiad Ysgrifenedig)  80%
Asesiad Semester Gwaith Cwrs  Marc yn seiliedig ar bresenoldeb mewn darlithoedd a thiwtorialau ac aseiniadau a gyflwynir  20%

Canlyniadau Dysgu

Ar gwblhau’r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
1. defnyddio'r nodiant ar gyfer setiau a mapiadau;
2. llunio profion gan ddefnyddio'r Egwyddor o Anwythiad Mathemategol;
3. defnyddio'r Theorem Binomial ar gyfer esbonydd cyfanrif mewn amryw o sefyllfaoedd;
4. darganfod symiau cyfresi rhifyddol a geometrig;
5. ymdrin â rhifau cymhlyg a defnyddio Theorem DeMoivre;
6. defnyddio'r Algorithm Rhannu ar gyfer polynomialau;
7. deillio hafaleddau ar gyfer gwreiddiau a chyfernodau polynomialau.

Disgrifiad cryno

.Mae'r modiwl hwn yn dysgu'r algebra sy'n hanfodol i astudio Mathemateg.

Nod

I gyflwyno myfyrwyr i'r syniadau o algebra trwy astudio rhifau cymhlyg a pholynomialau.

Cynnwys

1. SETIAU A MAPIADAU: Cyflwyniad i systemau rhifau a mapiadau.
2. SYMIAU MEIDRAIDD: Theorem Binomial, cyfresi rhifyddol a geometrig. Egwyddor Anwythiad Mathemategol.
3. RHIFAU CYMHLYG: Dadansoddiad geometrig. Theorem DeMoivre.
4. POLYNOMIALAU: Yr Algorithm Rhannu a Theorem y Gweddill. Ffwythiannau cymesur. Y berthynas rhwng israddau polynomial a'i gyfernodau.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd y myfyrwyr yn cadw dyddiaduron adlewyrchol o’u profiadau ar leoliad gwaith ac yn ysgrifennu portffolio yn crynhoi’r profiad. Byddant yn rhoi cyflwyniad llafar unigol i weddill y dosbarth yn ogystal â chyflwyno gwers yn yr ysgol. Bydd yr holl weithdai a’r aseiniadau yn cynnwys trafod ar lafar yn ogystal â chyfathrebu ysgrifenedig.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd y modiwl yn rhoi cyflwyniad i’r myfyrwyr o’r sialensau sydd ynghlwm ag addysgu Mathemateg mewn ysgol uwchradd ac o bosib yn eu hysgogi i fynd ymlaen i ddilyn gyrfa yn y maes.
Datrys Problemau Bydd yr aseiniadau yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr i ddarganfod datrysiadau yn greadigol ac i ddatblygu eu sgiliau datrys problemau.
Gwaith Tim Bydd trafodaeth grŵp yn chwarae rhan allweddol yng ngweithdai’r modiwl. Bydd yn gyfle i’r myfyrwyr rannu eu profiadau a syniadau all fod o gymorth i eraill.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Disgwylir fod graddedigion Mathemateg cyfrwng Cymraeg wedi datblygu sgiliau datrys problemau ac amryw o dechnegau Mathemategol yn ogystal â’r gallu i ymdrin â’r pwnc yn hyderus yn y ddwy iaith. Mae’r modiwl hwn yn ffocysu ddefnyddio’r sgiliau yma yn y gweithle.
Rhifedd Disgwylir i’r myfyrwyr gymorthwyo â tasgau rhifyddol mewn dosbarth yn ogystal â gosod tasgau Mathemategol yn eu gwers ar ddiwedd y tymor.
Sgiliau pwnc penodol Yn ehangu profiadau'r myfyrwyr mewn pynciau mathemategol.
Sgiliau ymchwil Bydd disgwyl i fyfyrwyr ymchwilio i’r syniadau a’r theoriau dysgu Mathemateg gan ddefnyddio’r rhestr ddarllen a roddir.
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i’r myfyrwyr i ymchwilio i gefndir a chyd-destun y syniadau a theoriau a gyflwynir gan ddefnyddio chwiliadau rhyngrwyd a llyfrgell. Caiff canlyniadau o’r chwiliadau eu cyflwyno o fewn yr aseiniadau a’r portffolio.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4