Gwybodaeth Modiwlau

Module Identifier
VS10220
Module Title
Systemau Gardiofasgwlar, Resbiradol, Ymsymudol a Chroen (blwyddyn 1)
Academic Year
2021/2022
Co-ordinator
Semester
Semester 2 (Taught over 2 semesters)
Pre-Requisite
Creiddiol i'r BVSc Gwyddor Filfeddygol - nid yw ar gael i fyfyrwyr eraill
Co-Requisite
Creiddiol i'r BVSc Gwyddor Filfeddygol - nid yw ar gael i fyfyrwyr eraill

Course Delivery

 

Assessment

Due to Covid-19 students should refer to the module Blackboard pages for assessment details

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment .5 Hours   In-class written test  Prawf ysgrifenedig yn y dosbarth  20%
Semester Assessment .17 Hours   Oral exam  Arholiad llafar -10 munud  20%
Semester Exam 2 Hours   Exam  Arholiad  60%
Supplementary Assessment .33 Hours   Oral exam  Arholiad llafar -20 munud  40%
Supplementary Exam 2 Hours   Resit exam  Arholiad ail-eistedd  60%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

O dan amodau arholiad, defnyddio terminoleg anatomaidd safonol i ddisgrifio rhannau'r corff a sut maent yn cysylltu â'i gilydd.

Disgrifio dyluniad sylfaenol y corff fertebraidd a dangos dealltwriaeth am y gwahaniaethau cymharol rhwng rhywogaethau domestig cyffredin, gan roi pwyslais arbennig ar y system cyhyrysgerbydol yn y cyd-destun milfeddygol.

Dangos dealltwriaeth sylfaenol am anatomeg y galon, y prif bibelli a'r system resbiradol yng nghyrff oedolion y rhywogaethau domestig cyffredin.

Disgrifio'r ffisioleg a'r anatomeg (gros ac uwch-adeileddol) yn amryw feinweoedd y systemau cyhyrysgerbydol, cardioresbiradol ac ambilennol, a sut maent yn rhyngweithio â systemau eraill yn y corff.

Disgrifio adeiledd yr ambilen (gan gynnwys y mannau arbenigol e.e. carn, corn, clust) mewn rhywogaethau milfeddygol, gan ddangos sut mae'r adeiledd yn gysylltiedig â'r swyddogaeth.

Brief description

Bydd y modiwl hwn yn cysylltu'r canghennau "Cardiofasgwlar a Resbiradol", "Croen" ac "Ymsymudol" â'i gilydd i gyfleu sut mae'r systemau hyn yn gweithredu mewn anifeiliaid ac i wella'r ddealltwriaeth am y cysylltiadau rhwng y systemau hanfodol hyn a gweddill y corff. Bydd y modiwl hwn yn rhoi golwg gyffredinol ar adeiledd normal y systemau cardiofasgwlar, resbiradol a chyhyrysgerbydol a sut maent yn gweithredu. Mae'r canghennau hyn wedi'u dylunio i gael eu dysgu drwy gydol y cwrs BVetMed ac yn y flwyddyn gyntaf fe'u dysgir yn y ddwy semester.

Content

Bydd y modiwl yn darparu cyflwyniad i anatomeg a swyddogaethau'r systemau resbiradol, cardiofasgwlar, cyhyrysgerbydol ac ambilennol. Ar ben hynny, edrychir ar y cysylltiadau â systemau eraill megis y systemau nerfol, gwaedfagol (haemopoietig), troethol, endocrinaidd a lymfforeticwlar. Drwy ddefnyddio dosbarthiadau anatomeg ymarferol ynghyd â darlithoedd a dysgu mewn grwpiau bychain, mae'r modiwl hwn yn ystyried y nodweddion ffisiolegol sy'n cynhyrchu'r swyddogaethau normal yn y systemau hyn. O ran y system gardiofasgwlar, astudir prif organau, cyhyrau a phibellau'r system gardioresbiradol. Yn y cyflwyniad i'r gangen 'Ymsymudol', byddwn yn edrych ar adeiledd integredig a swyddogaethau esgyrn, cyhyrau, tendonau, a chymalau. Yn ail, astudiwn briodweddau'r meinweoedd cyhyrysgerbydol, ac ystyried sut y mae'r meinweoedd hyn yn ymaddasu er mwyn diwallu anghenion yr anifail.
Bydd y modiwl hwn yn astudio sut mae systemau ymsymudol yn cyfuno er mwyn i anifeiliaid ymsymud, gan gyfeirio'n benodol at gysylltiadau â'r systemau cardiofasgwlar a resbiradol. Mae'r cyflwyniad i ambilenni yn cwmpasu'r croen ac organau ectodermol arbenigol (e.e. carnau, cyrn) a sut mae'r system hon yn cyfrannu at ymddangosiad normal yr anifail a sut mae corff yr anifail yn gweithio.

Module Skills

Skills Type Skills details
Y tu allan i'r oriau cyswllt ffurfiol, disgwylir i'r myfyrwyr wneud ymchwil, rheoli eu hamser a chyflwyno gwaith cwrs a gweithio at yr arholiadau erbyn y dyddiadau penodedig. Nid asesir yr agwedd hon.
Bydd y gwaith cwrs a'r arholiad yn gofyn i fyfyrwyr ymchwilio i bynciau ymchwil yn ddyfnach a'r tu hwnt i gwmpas deunydd y darlithoedd. Defnyddir gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau. Asesir y sgiliau ymchwil yn yr arholiad a'r gwaith cwrs. Rhoddir adborth i'r gwaith cwrs ar hyn.
Drwy ddysgu mewn grwpiau bychain, anogir y myfyrwyr i gyfleu gwybodaeth, ei hasesu a'i chyflwyno mewn tîm. Nid asesir yr agwedd hon.
Bydd dysgu mewn grwpiau bach/dosbarthiadau ymarferol, a'r arholiadau yn golygu datrys problemau.
Yn ystod y modiwl, fe fydd y myfyrwyr yn dysgu terminoleg filfeddygol a lleoliadau anatomegol.
Bydd y myfyrwyr yn datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig effeithiol yn yr arholiad, a chyfathrebu ar lafar yn yr arholiad llafar, lle y'u hasesir. Rhoddir adborth ar hyn.
Bydd gan y myfyrwyr gyswllt â milfeddygon ac ymchwilwyr bioleg a fydd yn rhoi iddynt ddealltwriaeth am y sectorau hyn. Nid asesir yr agwedd hon.
Bydd gan y myfyrwyr gyswllt â milfeddygon ac ymchwilwyr bioleg a fydd yn rhoi iddynt ddealltwriaeth am y sectorau hyn. Nid asesir yr agwedd hon.
Defnyddio'r we i gael ffynonellau dibynadwy o wybodaeth a defnyddio cronfeydd data i ddod o hyd i destunau perthnasol wrth baratoi at yr asesiadau. Nid asesir yr agwedd hon.

Notes

This module is at CQFW Level 4