Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
YD14005
Teitl y Modiwl
Creu Podlediadau
Blwyddyn Academaidd
2021/2022
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Hefyd ar gael yn

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll 10 Awr   Podlediad yn defnyddio Panopto  10 Awr  30%
Asesiad Ailsefyll Creu persona  250 o eiriau  20%
Asesiad Ailsefyll Cofnod y cwrs  1000 o eiriau  50%
Asesiad Semester Cofnod y cwrs  1000 o eiriau  50%
Asesiad Semester 10 Awr   Podlediad yn defnyddio Panopto  10 Awr  30%
Asesiad Semester Creu persona  250 o eiriau  20%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Creu podlediad byr gan ddefnyddio Panopto

Dogfennu eich proses feddwl a phenderfyniadau o fewn cofnod o’r cwrs

Creu rhithffurf o’ch cynulleidfa darged

Disgrifiad cryno

Mae nifer ohonom yn defnyddio podlediadau i ddifyrru ein hamser wrth i ni wneud rhywbeth arall am 40 munud, yn yr un modd â gwrando ar y radio. Mae’n llwyfan amlbwrpas ar gyfer trafodaethau, gwybodaeth am bynciau sydd o ddiddordeb a hefyd at ddibenion adloniant. Wyddech chi fod y rhan fwyaf o bodlediadau wedi’u cynllunio i gyd-fynd â’r amser cymudo cyfartalog. Mae nifer o addysgwyr bellach yn defnyddio’r llwyfan i rannu deunydd addysgol gyda gogwydd. Mae podlediadau yma i aros ac mae’r radio traddodiadol wedi dioddef.
Bydd y modiwl hwn yn eich tywys drwy’r broses o gynllunio podlediad, y peryglon, y datganiad lifft, graffeg logo a marchnata yn ogystal â gofynion technegol. Byddwch yn astudio’r modiwl ar eich cyflymdra eich hun a cheir tasgau rhyngweithiol i gyfeirio eich penderfyniadau ar hyd y ffordd a’ch atal rhag chwythu’ch plwc.

Cynnwys

Cyn i mi ddechrau.
Sut y cyflwynir y dysgu, beth a ddisgwylir gennych a sut mae’r asesiad yn edrych?
Pa offer fydd ei angen arnoch? Offer, syniadau, graffeg ac amser.
Tasg: Dewiswch 5 o’r rhestr hon, gwrandewch a gwerthuswch fanteision ac anfanteision y podlediadau hyn; beth sy’n debyg a beth sy’n unigryw?

Art Curious. True Crime, Twenty Thousand Hertz, Infinite Monkey cage, Fortunately, Shreds: Murder in the Dock, The Shrink Next Door, Griefcast, The Dropout, All in the Mind, Frank Skinner’s Poetry Podcast. Table Manners, The Sculptors Funeral, Americast, The Alfred Daily, Moth Hour Radio, Fortunately, Tracks
Arferion cyffredin: dolenni, hysbysebion, jingl, trêts, amgylcheddau, naws, arddull y disgrifiad, cyflymdra, atalnodau llawn.

Uned Un: Gwneud penderfyniadau
Pwy yw eich cynulleidfa? Crëwch rithffurf o’ch cynulleidfa. Ble maen nhw’n cyfarfod, beth yw eu diddordebau, a ydynt yn fewnblyg neu’n allblyg?
Sut ydych am ei gyflwyno? Pa mor hir fydd y podlediad? Pa mor rheolaidd fyddwch chi’n postio? Beth ydych chi eisiau ei ddweud? Pa bodlediadau eraill sy’n debyg? Beth sy’n wahanol am eich syniad? Allech chi ei ddefnyddio ar gyfer addysgu arloesol? Enghreifftiau: York Festival of Ideas
Fideo neu sain/ rhyngweithio â chynulleidfa?
Tasg: dod o hyd i enghreifftiau o bodlediadau sy’n addysgu, gwerthu, cyfarwyddo, dysgu, adlonni, meithrin diwylliant.
Edrychwch ar y graffeg, jingls ac is-bennawd,
Asesiad: Crëwch eich rhithffurf 100 gair

Uned Dau: Proses a Chyflwyno
Yr enw a’r hashnodau – marchnata, cynhesu’r llais, paratoi eich amgylchedd, ble rydych chi’n eistedd ar y sgrin, paratoi sgript.

Uned tri: Graffeg a marchnata
Teitl ac is-bennawd
Llun marchnata
Hashnodau
Iaith ddarbwyllol
Tasg mewn dyddiadur: creu llun ac is-bennawd

Uned Pedwar: Gofynion technegol
Golygu – a mwy o olygu: cymhareb waith.
Cymorth Technegol - Garage Band / Audacity
Lansio – ymgyrch ar y cyfryngau
Llwyfan / gwesteiwyr? - Podbean, Anchor
Cyfyngiadau a graffeg ychwanegol
Cerddoriaeth –
Tasg: Defnyddio Panopto a chadw recordiad ar gyfer asesu

Asesiad, Dathlu ac Adborth
Bydd yr wybodaeth hon yn ymddangos yng nghronfa ddata’r modiwl. Mae’n rhaid i’r wybodaeth fod yn weddol fanwl a dylai gynnwys y pynciau i’w trafod a darparu syniad o’r amser a’r math o drosglwyddiad y gellir ei ddisgwyl megis darlithoedd, seminarau a ffurfiau eraill o gyflwyno. Os yw cydweithwyr yn rhy gyfarwyddol wrth osod cynnwys y cwrs yn y MAF, gallai gyfyngu ar eu gallu i wneud addasiadau i seminarau neu ddarlithoedd unigol wrth ymateb i ddatblygiadau yn y maes neu werthusiadau modiwl. Gellir cyhoeddi’r cynllun wythnos wrth wythnos manwl sy’n gosod allan y darlithoedd, y seminarau ac ati ar Blackboard, mewn llawlyfrau modiwl neu gyfwerth oherwydd gallai agweddau ar y cyflwyniad newid o flwyddyn i flwyddyn ond heb unrhyw newid i’r cynnwys ei hun, a fyddai’n golygu ailgyflwyno MAF.
Amcanion
Cyfres o dasgau ar-lein wedi’u cyflwyno fel y gallwch ddysgu ar eich cyflymder eich hun a defnyddir tair elfen asesu fel adborth diferol.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Bydd hyn yn golygu dod o hyd i siaradwr neu gyfwelydd i ofyn cwestiynau ar gyfer eich cynnwys
Mae gweithio gyda thechnolegau newydd a dod o hyd i ffyrdd o ddatrys problemau yn rhan o’r modiwl hwn ond ni chaiff ei asesu’n swyddogol
Sgil datblygu proffesiynol
Bydd cofnod y cwrs yn annog myfyrio ar bodlediadau presennol i bennu ymchwil i’r farchnad
Bydd angen dysgu defnyddio pecynnau technoleg newydd

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4