Gwybodaeth Modiwlau

Module Identifier
CB25220
Module Title
Entreprenwriaeth a Chreu Menter Newydd
Academic Year
2022/2023
Co-ordinator
Semester
Semester 2
Pre-Requisite
Other Staff

Course Delivery

 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment Cynllun busnes  (2,000 gair)  35%
Semester Assessment Aseiniad ysgrifenedig  Cynnig ysgrifenedig ar gyfer menter busnes newydd (500 gair)  5%
Semester Exam 2 Hours   Arholiad  60%
Supplementary Assessment Aseiniad ysgrifenedig  Cynnig ysgrifenedig ar gyfer menter busnes newydd (500 gair)  5%
Supplementary Assessment Cynllun busnes  (2,000 gair)  35%
Supplementary Exam 2 Hours   Arholiad  60%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

1. Asesu pwysigrwydd mentergarwch a chreu mentrau newydd yn yr economi ehangach, yn enwedig eu rôl wrth greu swyddi ac arloesedd.

2. Trafod y prif broblemau sy’n gysylltiedig â sefydlu a rhedeg menter newydd o ran cysylltiadau rhwng y cyflogwr a’r gweithwyr, marchnata a rheolaeth ariannol.

3. Nodi’r ffactorau sy’n achosi i fusnesau bach fethu, a maint y broblem.

4. Cynllunio ar gyfer cychwyn busnes newydd a bod yn ymwybodol o gymhellion y llywodraeth ac eraill i gynorthwyo mentrau o’r fath.

5. Datblygu sgiliau personol gan gynnwys sgiliau adeiladu tîm a chyflwyno.

Brief description

Mae’r modiwl hwn yn ystyried elfennau damcaniaethol ac ymarferol mentergarwch, a sefydlu a rhedeg menter newydd. Rhoddir sylw i’r ymagweddau economaidd, cymdeithasol a seicolegol tuag at theori mentergarwch, a rôl y mentergarwr wrth ddatblygu arloesedd. Mae’r modiwl yn edrych ar sut i ddod o hyd i gyfleoedd busnes newydd, cychwyn, rheoli a marchnata menter newydd, llunio cynllun busnes, a chodi cyllid.

Content

 Datblygu’r syniad, dadansoddi hyfywedd, creu cyfleoedd, diben a chynnwys cynllun busnes, pwyntiau gwerthu
unigryw a ffactorau gwahaniaethu
 Theorïau mentergarwch, cymhellion tuag at greu busnes bach, ymchwilio i’w goblygiadau ymarferol, mentergarwch ymhlith menywod a lleiafrifoedd ethnig
 Cyd-destun economaidd busnesau bach, y cwmni bach yn yr economi, polisi’r llywodraeth tuag at fusnesau bach, creu diwylliant menter, polisïau
presennol
 Gwahanol fathau o fusnesau, masnachfraint, y berthynas rhwng y sawl sy’n rhoi a dal y masnachfraint, systemau darparu gwasanaeth,
cloriannu cyfle i sefydlu masnachfraint, ehangu trwy gyfrwng masnachfraint
 Ariannu’r fenter newydd. Ffynonellau cyllid ar gyfer cwmnïau bach, cychwyn busnes heb gyllid allanol, benthyciadau banc a gorddrafftiau, prydlesu a
hurbwrcasu, cyfalaf menter ac angylion busnes
 Tyfu cwmni bach. Camau twf, rheoli twf, rheoli pobl, y mentergarwr ar wahanol gyfnodau, hyfforddiant rheoli, adeiladu tîm rheoli
 Marchnata yn y fenter newydd, mentergarwch wrth ymdrin â marchnata, problemau marchnata mewn cwmnïau bach, e-fusnes, gwerthu cynnyrch a
gwasanaethau ar-lein
 Heriau a materion sy'n wynebu mentrau newydd. Y rhesymau pam mae cwmnïau bach yn methu gan gynnwys gwerthiannau annigonol a rheolaeth
ariannol wael, diffyg cynllunio, strategaethau adfer, rheoli ariannol.
 Cwmnïau teuluol. Pwysigrwydd cwmnïau teuluol, materion rheoli, perchnogaeth a materion cyfreithiol, olyniaeth, gwerthu’r busnes teuluol, menter
gymdeithasol
 Cynllunio ar gyfer y dyfodol, strategaethau cynaeafu, rhyddhau i’r farchnad, gwerthu, olyniaeth reoli, mentergarwyr rheolaidd a phortffolio, arweinyddiaeth a moeseg.

Module Skills

Skills Type Skills details
Application of Number Paratoi rhagamcaniadau ariannol ar gyfer y cynllun busnes gan gynnwys cymarebau ac adennill costau ac ati.
Communication Meithrin hyder ac eglurder wrth gyfathrebu ar lafar trwy gymryd rhan mewn sesiynau tiwtorial a thrafodaethau grŵp y tîm prosiect, datblygu eglurder a ffocws wrth gyfathrebu’n ysgrifenedig trwy gynhyrchu a chyflwyno prosiectau grŵp, datblygu a defnyddio geirfa briodol sy’n benodol i’r pwnc wrth gyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Improving own Learning and Performance Llunio a chymhwyso strategaethau hunan-ddysgu, adolygu a monitro eu perfformiad cyffredinol, a bod yn ymwybodol o reoli amser.
Information Technology Defnyddio amrywiaeth o adnoddau electronig ar y we ac yn y llyfrgell i adolygu'r wybodaeth sydd ar gael ac i ddod o hyd i wybodaeth berthnasol; defnyddio pecynnau meddalwedd amrywiol i gynhyrchu adroddiad y prosiect grŵp (excel, testun, tablau a dadansoddi rhifyddol, graffeg).
Personal Development and Career planning Meithrin sgiliau dadansoddi ariannol a gwneud penderfyniadau, nodi cyfleoedd posibl ar gyfer mentergarwch, gan ganolbwyntio ar y gallu i feddwl yn greadigol ac yn arloesol.
Problem solving Nodi’r union broblem i’w datrys, asesu pa ddata sy’n berthnasol i’r broblem, cydnabod y gallai fod dulliau eraill o ddatrys y broblem, dewis a chymhwyso dulliau priodol i ddatrys y broblem, asesu pa mor rhesymol yw’r atebion i’r problemau a dehongli’r atebion hynny.
Research skills Nodi pa ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael i hwyluso astudio ar y modiwl (deall, darllen ehangach), i ddarparu gwybodaeth er mwyn dadansoddi perfformiad a rhagolygon busnes, i ddarparu deunydd crai i gynhyrchu'r prosiect grŵp, dewis y wybodaeth fwyaf perthnasol i'w hadfer, adfer gwybodaeth, ailasesu perthnasedd ac asesu hygrededd gwybodaeth a adferwyd, cyfeirnodi / priodoli ffynonellau gwybodaeth yn gywir.
Subject Specific Skills Paratoi cynllun busnes gan gynnwys ymchwil i’r farchnad a rhagolygon ariannol, deall y cysyniad o fentergarwch a phynciau cysylltiedig, gan gynnwys y sector busnesau bach a chymorth y llywodraeth, cymhwyso sgiliau dadansoddi ariannol a gwneud penderfyniadau i ddatblygu menter newydd – wrth gynllunio, marchnata, gweithredu, ac ati.
Team work Magu profiad o waith tîm a datblygu sgiliau gweithio mewn tîm trwy’r prosiect grŵp.

Notes

This module is at CQFW Level 5