Gwybodaeth Modiwlau

Module Identifier
CT21020
Module Title
Yr Heddlu, Plismona a'r Gymdeithas
Academic Year
2022/2023
Co-ordinator
Semester
Semester 1
Pre-Requisite
Exclusive (Any Acad Year)
Exclusive (Any Acad Year)
Other Staff

Course Delivery

 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment Traethawd Ysgrifenedig  (2,500 gair)  50%
Semester Exam 2 Hours   Arholiad nas gwelir ymlaen llaw.  50%
Supplementary Assessment Traethawd Ysgrifenedig  - 2,500 gair. (Ailsefyll yr Elfen a Fethwyd)  50%
Supplementary Exam 2 Hours   Arholiad nas gwelir ymlaen llaw.  (Ailsefyll yr Elfen a Fethwyd)  50%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

1. ​Dangos ymwybyddiaeth a dealltwriaeth gadarn o’r prif ddamcaniaethau, persbectifau a chysyniadau’n ymwneud a phlismona.

2. Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth o lywodraethu ac atebolrwydd yr heddlu, yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

3. Deall y berthynas rhwng damcaniaethau troseddegol, seicolegol a chymdeithasegol ac arferion plismona cyfredol.

4. Nodi’r gwahanol ffyrdd y mae plismona wedi cael ei drawsffurfio yn gymdeithasol, yn wleidyddol ac yn gyfreithiol; dehongli sut y mae’r newidiadau hyn wedi effeithio ar bolisiau, arferion a thrafodaethau.

5. Esbonio a dadansoddi sut y mae prosesau ‘lluosoli’ a ‘globaleiddio’ wedi effeithio ar wahanol randdeiliaid a rhannau penodol o’r cyhoedd.

6. Dangos eu bod yn ymwybodol o gysyniadau cynnil plismona lluosol a llywodraethu diogelwch o safbwynt cyfreithiol-gymdeithasol.

Brief description

Mae’r modiwl hwn yn rhoi i fyfyrwyr wybodaeth a dealltwriaeth o rol a swyddogaethau’r heddlu a ffurfiau eraill o blismona. Mae’n cyflwyno’r myfyrwyr i gysyniadau ehangach ‘llywodraethu diogelwch’ a ‘plismona lluosol’ o safbwyntiau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Trwy archwilio’r berthynas rhwng yr Heddlu a phlismona, mae’r modiwl yn egluro newidiadau hanesyddol allweddol a weddnewidiodd blismona, ac effaith a chanlyniadau’r newidiadau hynny i’r gymdeithas gyfoes. Mae ffocws rhyngddisgyblaethol y modiwl yn ystyried y themâu hyn o safbwyntiau troseddegol, cyfreithiol, seicolegol, a chymdeithasegol.

Content

1. ​Llywodraethu’r Heddlu yn y Deyrnas Unedig

- Modelau a Swyddogaethau
- Llywodraethu/ Atebolrwydd
- Dilysrwydd
- Plismona Democrataidd

2. Cymdeithaseg yr Heddlu

- Diwylliant yr Heddlu
- Disgresiwn
- Allgau Cymdeithasol

3. Plismona Lluosol

- Plismona Cymunedol
- Partneriaethau
- Plismona Preifat
- Plismona wedi’i ymgorffori

4. Plismona mewn Cyd-destun Byd-eang
- Plismona Cymharol
- Plismona Trawswladol

Module Skills

Skills Type Skills details
Application of Number Trwy ddadansoddi’n feirniadol ganfyddiadau ymchwil bydd y myfyrwyr yn datblygu gwerthfawrogiad o’r ffordd y mae damcaniaethau ac ymarfer yn cyfuno yng nghyd-destun yr heddlu.
Communication Anogir cyfathrebu ar lafar yn ystod trafodaethau mewn seminarau rhyngweithiol ac mewn gwaith grŵp a wneir yn y gyfres o seminarau. Bydd cyfathrebu ysgrifenedig yn cael ei ddatblygu a’i asesu yn y gwaith cwrs.
Improving own Learning and Performance Bydd darlithoedd a seminarau rhyngweithiol yn annog myfyrwyr i feddwl yn feirniadol ac yn ochrol. Bydd tasgau ac ymarferion a bennir yn y seminarau yn hwyluso dysgu cysyniadau haniaethol a’u cymhwyso i sefyllfaoedd go iawn. Bydd aseiniad y traethawd yn datblygu sgiliau trefniadol ac yn annog myfyrwyr i fyfyrio ynghylch dysgu ac addysgu cynnwys y modiwl mewn modd blaengar.
Information Technology Bydd chwilio cronfeydd data electronig a chyfnodolion ar-lein yn gyfle i ymarfer sgiliau TG. Bydd cynnwys craidd y modiwl a thaflenni’r darlithoedd ar gael ar Blackboard.
Personal Development and Career planning Bydd astudio annibynnol wrth baratoi ar gyfer darlithoedd a seminarau yn datblygu gallu’r myfyrwyr i reoli eu dysgu eu hunain. Bydd gwaith grŵp yn arfogi myfyrwyr â’r sgiliau cyfathrebu i gydweithio ag eraill yn y gweithle. Bydd y gwaith paratoi sydd ei angen ar gyfer aseiniad y traethawd yn annog myfyrwyr i fynychu pob darlith a seminar a chymryd rhan weithredol yn y tasgau.
Problem solving Bydd gofyn i fyfyrwyr ystyried amrywiaeth eang o faterion sy’n codi mewn perthynas â’r heddlu, plismona, llywodraethu a rheolaeth gymdeithasol. Bydd hyn yn gwella ac yn datblygu sgiliau datrys problemau a dadansoddi beirniadol.
Research skills Datblygir sgiliau ymchwil trwy ddefnyddio a dadansoddi testunau ar themâu’n ymwneud â phlismona er mwyn paratoi a chwblhau’r gwaith a asesir.
Subject Specific Skills Bydd y myfyrwyr yn datblygu sgiliau adfyfyriol a byddant hefyd yn cael eu hannog i feddwl yn feirniadol ynglyn a’r modd y cymhwysir polisïau’r heddlu i ymarfer yr heddlu.
Team work Bydd gwaith mewn grwpiau bach yn y seminarau yn meithrin gwaith tîm ac yn datblygu cyfnewid gwybodaeth rhwng y myfyrwyr a’r tiwtoriaid.

Notes

This module is at CQFW Level 5