Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
HC20120
Teitl y Modiwl
Cymru a Brenhinoedd Prydain: Gwrthdaro, Grym a Hunaniaeth yn Ynysoedd Prydain, 1039-1417
Blwyddyn Academaidd
2022/2023
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Exclusive (Any Acad Year)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Arholiad agored  Arholiad agored 2500 o eiriau  50%
Asesiad Ailsefyll Traethawd  Traethawd ailsefyll 2500 o eiriau  50%
Asesiad Semester Traethawd  Traethawd 2500 o eiriau  50%
Asesiad Semester Arholiad agored  2500 o eiriau  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Arddangos dealltwriaeth o’r prif ddatblygiadau yng ngwleidyddiaeth a hunaniaeth Cymru yn yr Oeosedd Canol.

Datblygu’r gallu i asesu cryfderau a gwendidau dadleuon hanesyddol am hanes Ynysoedd Prydain rhwng 1039 a 1417.

Dadansoddi mathau gwahanol o ffynonellau gwreiddiol.

Defnyddio tystiolaeth hanesyddol briodol i lunio dadleuon yn llafar (heb ei asesu) ac yn ysgrifenedig, gan gynnwys mewn modd cryno.

Disgrifiad cryno

Gwelwyd newidiadau dramatig yng Nghymru rhwng teyrnasiad Gruffudd ap Llywelyn ac Owain Glyndŵr, cyfnod a oedd hefyd yn un o chwyldro cyffredinol yn Ynysoedd Prydain. Bydd y modiwl hwn yn archwilio sut datblygodd pŵer a hunaniaeth y Cymry dros y canrifoedd hyn, ond mae hefyd yn dweud hanes ehangach Ynysoedd Prydain. Wrth i frenhinoedd a thywysogion Cymreig geisio atgyfnerthu ac ehangu eu pŵer roedd rhaid iddynt ystyried eu perthynas â’u cynghreiriaid a’u gelynion yn Iwerddon, Lloegr a’r Alban. Archwilir datblygiadau cyfochrog yn yr Alban ac Iwerddon a sut roeddent oll yn gweithredu yng nghysgod pŵer cynyddol yr ‘Ymerodraeth Seisnig Gyntaf’. Rhoddir sylw hefyd i’r cysyniad o ‘Brydain’: beth oedd yn golygu i wahanol bobl a sut y dymunai gwahanol frenhinoedd ei newid at y dyfodol. Dyma gyfnod a siapiodd y berthynas rhwng y bedair cenedl am ganrifoedd i ddod; trwy ei archwilio byddwn yn datblygu dealltwriaeth well o’r berthynas wleidyddol bresennol rhwng Cymru, Lloegr, Iwerddon a’r Alban.

Nod

Cynnwys

Darlithoedd
1. Cyflwyniad: brenhinoedd Prydain a brenhinoedd y Brytaniaid
2. Pobl, daearyddiaeth a phŵer
3. Gruffudd ap Llywelyn, Mercia a’r Llychlynwyr
4. Dyfodiad y Normaniaid
5. Gruffudd ap Cynan: brenin Cymreig a môr-leidr Llychlynaidd
6. Owain Gwynedd, David I ac ‘adferiadau cenedlaethol’
7. Harri II a goresgyniad (Cymreig?) Iwerddon
8. Esgobion, seintiau ac ysgolheigion
9. Yr Arglwydd Rhys a hunaniaeth Cymru
10. Llywelyn ab Iorwerth ac Alexander II
11. Llywelyn ap Gruffudd a thywysogaeth Cymru
12. Edward I a’r ‘Ymerodraeth Seisnig Gyntaf’
13. Mudo a choloneiddio
14. Masnach ac economi
15. Gwrthryfeloedd a chynghreirio ‘Celtaidd’
16. Llanw a thrai ymerodraeth
17. Gwrthryfel Glyndŵr, yr Alban a Ffrainc
18. Casgliad: tuag at bedair cenedl?

Seminarau
Bydd chwech seminar, pob un yn edrych ar ffynhonnell wreiddiol gwahanol:
1. Brut y Tywysogyon
2. Cyfraith Hywel Dda
3. Historia Gruffudd ap Cynan
4. Gerallt Gymro
5. Dogfennau’r tywysogion
6. Barddoniaeth

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cydlynu ag erail Cymryd rhan mewn gweithgareddau seminar a deall sut i weithredu ar y cyd gydag aelodau eraill o’r grŵp.
Cyfathrebu proffesiynol Trwy drafodaeth mewn seminar a throsglwyddo gwybodaeth mewn traethawd ac arholiad.
Datrys Problemau Creadigol Disgwylir i fyfyrwyr fedru trin a thrafod problemau hanesyddol ac ymgymryd ag ymchwil briodol wrth baratoi ar gyfer seminarau a gwaith ysgrifenedig
Gallu digidol Bydd defnydd o adnoddau arlein yn rhan hanfodol o ddulliau dysgu’r modiwl hwn a bydd felly’n rhoi cyfle i fyfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau wrth, er enghraifft, gwneud defnydd o TalisAspire a Blackboard.
Meddwl beirniadol a dadansoddol Datblygu’r gallu i werthuso ffynonellau perthnasol i’r cyfnod a’r maes ynghyd â’r gallu i ymdrin yn feirniadaol â’r llenyddiaeth eilaidd.
Myfyrdod Datblygu sgiliau trefnu drwy reoli amser a chyflwyno gwaith yn brydlon. Gwneud defnydd o adborth ar waith a gyflwynir er mwyn gwella’r perfformiad
Synnwyr byd go iawn Trwy archwilio'r pwnc bydd myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth ddyfnach o gefndir y berthynas bresennol rhwng Cymru, Lloegr, yr Alban ac Iwerddon.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5