Gwybodaeth Modiwlau

Module Identifier
CT24920
Module Title
Ecwiti a Chyfraith Ymddiriedolaethau
Academic Year
2023/2024
Co-ordinator
Semester
Semester 1
Pre-Requisite
Exclusive (Any Acad Year)
Exclusive (Any Acad Year)
Other Staff

Course Delivery

 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment Traethawd  2000 o eiriau  50%
Semester Exam 2 Hours   Arholiad  2 Awr  50%
Supplementary Assessment Traethawd  2000 o eiriau  50%
Supplementary Exam 2 Hours   Arholiad  2 Awr  50%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

Rhoi i fyfyrwyr ddealltwriaeth o’r rheolau cyfreithiol sy’n llywio dulliau sefydlu a rheoli Ymddiriedau.

Cyflwyno’r myfyrwyr i sgiliau dadansoddi er mwyn gwerthfawrogi a chloriannu trafodion a chysyniadau eiddo cymhleth.

Dysgu i ddatblygu sgiliau rhesymegol, gan gynnwys cymhwyso gwybodaeth berthnasol i ddatrys problemau cyfreithiol cymhleth.

Brief description

Sefydlir Ymddiriedau am lawer iawn o resymau, er enghraifft cydberchnogaeth ar y cartref priodasol, er mwyn osgoi talu treth; i ddarparu ar gyfer plant bach, yr henoed neu bobl sydd ag afiechyd meddwl, neu i amddiffyn pobl rhag mynd dros ben llestri neu'r hyn y canfyddir gan yr ymddiredwr fel mynd dros ben llestri. Yn yr achosion hyn, sefydlir yr ymddiriedau'n fwriadol ac fel arfer ar ôl cryn dipyn o ystyriaeth a chyngor ymlaen llaw. Mewn achosion eraill, mae'r rhoddi'r ddigymell ac yn y fan yma, mae'r gyfraith yn gorfod dod o hyd i fframwaith ar gyfer gweinyddu'r gronfa sy'n deillio ohono. Ystyrir hefyd swyddogaeth ymddiriedau wrth hybu polisi cyhoeddus a phwysigrwydd cynyddol ymddiriedau mewn cyfraith fasnachol. Hefyd, ystyrir swyddogaeth ac argaeledd rhwymediau ecwitiol.

Content

1(a). Egwyddorion a rhwymediau ecwitiol
datblygu ecwiti a rhwymediau ecwitiol
rhesymau am ddatblygu ymddiriedau
ymddiriedau fel dull o osgoi treth
ymddiriedau fel dyfeisiau diogelu
ymddiriedau ym myd masnach
(b). Rhwymediau a phwysigrwydd gweithdrefnau yng nghwrs achos yn ymarferol
gwaharddebau: yng nghwrs achos, terfynol a Mareva a
gorchmynion Anton Piller
cadw teitl ac olrhain
cyflawniad llythrennol
digollediad mewn ecwiti
cyfrif o elw
(c). Cyfraith Ymddiriedau

2. Ymddiriedau er budd personau
(a) Creu ymddiriedolaeth
Cymhwystra gofyn sicrwydd
bwriad i greu ymddiriedolaeth
ffurfioldebau bytholbarhadau
(b) Sicrwydd buddiolwyr
Ymddiriedau a Phwerau natur y buddiant llesiannol
(c) Sicrwydd eiddo

3. Etifeddiant

4. Ymddiriedau Elusennol

5. Cymdeithasau Anghorfforedig

6. Pwerau a Dyletswyddau Ymddiriedolwyr Safle Ymddiriedol Ymddiriedolwyr

7. Amrywio Ymddiriedau
Terfynu o dan Saunders yn erbyn Vautier
Amrywio ymddiriedau
Deddf Amrywio Ymddiriedau 1958
Ymddiriedolwyr

Module Skills

Skills Type Skills details
Application of Number Amherthnasol
Communication Bydd trafodaethau seminar yn datblygu sgiliau cyflwyno a sgiliau dadlau llafar fel unigolion ac fel grwp.
Improving own Learning and Performance Bydd cymryd rhan mewn seminarau, ymarferion datrys problemau yn y dosbarth a’r arholiad yn datblygu gwahanol agweddau o ddatblygu academaidd personol, o ddeall a chyfeirnodi ffynonellau i ledaenu syniadau i eraill ar lafar, a thrwy ddefnyddio sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig.
Information Technology Mae sgiliau llyfrgell ac ymchwil yn sylfaenol wrth baratoi ar gyfer seminarau, y traethawd a’r arholiad.
Problem solving Trafodaeth seminar/darlithoedd ymarfer datrys problemau.
Research skills Caiff y sgiliau hyn eu datblygu wrth baratoi ar gyfer seminarau, y traethawd a’r arholiad.
Subject Specific Skills Darllen a deall deunyddiau perthnasol ym maes Cyfraith Ymddiriedau yn enwedig cyfraith achosion a dadansoddi academaidd.
Team work Gweithgareddau grwp a thrafodaethau yn y seminarau.

Notes

This module is at CQFW Level 5