Gwybodaeth am Fodiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Ailsefyll | Cyflwyniad poster Cyflwyniad Poster gyda chrynodeb o 1,500 o eiriau 3000 o eiriau | 20% |
| Asesiad Ailsefyll | Traethawd estynedig Prosiect ymchwil ysgrifenedig 8000 - 10000 o eiriau. Dylai'r myfyriwr ailysgrifennu'r traethawd hir (ar yr un thema) gan ddefnyddio'r adborth a ddarparwyd gan y marciwr yn y cyflwyniad gwreiddiol. Disgresiwn y goruchwyliwr ynghylch a ddylid rhoi goruchwyliaeth ychwanegol. | 60% |
| Asesiad Ailsefyll | Adroddiad Adfyfyriol Crynodeb adfyfyriol o gyfarfodydd goruchwylio, gan gynnwys pwyntiau gweithredu. O leiaf 4 x 200 gair. 1000 o eiriau | 10% |
| Asesiad Ailsefyll | Cais am gymeradwyaeth foesegol 1000 o eiriau | 10% |
| Asesiad Semester | Cyflwyniad Cyflwyniad (llafar neu boster) yng Nghynhadledd y Myfyrwyr 10 Munud | 20% |
| Asesiad Semester | Adroddiad Adfyfyriol Crynodeb adfyfyriol o gyfarfodydd goruchwylio, gan gynnwys pwyntiau gweithredu. O leiaf 4 x 200 gair. 1000 o eiriau | 10% |
| Asesiad Semester | Cais am gymeradwyaeth foesegol 1000 o eiriau | 10% |
| Asesiad Semester | Traethawd estynedig 8000-10,000 o eiriau ar gyfer y prosiect ymchwil ysgrifenedig. | 60% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Cyflwyno, lleoli a gwerthuso cwestiwn ymchwil troseddegol/cyfreithiol yn feirniadol, mewn perthynas â'r llenyddiaeth ymchwil ehangach, y gellir ei brofi trwy brosiect ymchwil estynedig
Cymhwyso a chynnal methodoleg/methodolegau ymchwil priodol i ymgymryd ag ymchwil ar gwestiwn(au) ymchwil penodol
Dangos ymwybyddiaeth o egwyddorion moesegol proffesiynol a fframweithiau moesegol sefydliadol sy'n briodol i'r gwyddorau cymdeithasol a'r dyluniad ymchwil a fwriadwyd
Cymhwyso llenyddiaeth academaidd a llenyddiaeth arall sy'n seiliedig ar dystiolaeth sy'n berthnasol i'r prosiect ymchwil a chyflwyno'r canfyddiadau i gynulleidfa
Dangos y gallu i gasglu, dehongli a gwerthuso data a dod i gasgliadau yn seiliedig ar y canfyddiadau a'u gosod yng nghyd-destun ehangach materion cyfreithiol, damcaniaethol, polisïol ac ymarferol y gwyddorau cymdeithasol
Cynhyrchu traethawd estynedig sydd wedi'i strwythuro'n dda, yn gydlynol ac yn wreiddiol, gan ddangos dadansoddiad beirniadol a thrylwyredd academaidd.
Gweithio'n llwyddiannus gyda goruchwyliwr penodedig a dangos sgiliau rheoli prosiectau, hunangyfeirio a datrys problemau annibynnol effeithiol drwy gydol y broses ymchwil.
Disgrifiad cryno
Mae’r modiwl Traethawd Estynedig y Gyfraith a Throseddeg yn fodiwl annibynnol, sy'n canolbwyntio ar ymchwil, mater i’r myfyriwr yw dylunio, cynllunio, cynnal a chyflwyno astudiaeth wreiddiol ar bwnc dewisol sy'n berthnasol i'w maes astudio. Mae'n ofynnol i fyfyrwyr ddatblygu rhagdybiaethau neu gwestiwn(au) ymchwil addas, cydymffurfio ag egwyddorion moesegol y Brifysgol, adolygu llenyddiaeth bresennol, cymhwyso dulliau ymchwil priodol, dadansoddi canfyddiadau a chynhyrchu traethawd hir ysgrifenedig sylweddol o dan oruchwyliaeth academaidd. Disgwylir hefyd i fyfyrwyr gyflwyno eu prif ganfyddiadau yng nghynhadledd myfyrwyr yr Adran.
Cynnwys
Wrth ymgymryd ag yr ymchwiliad manwl ar bwnc troseddegol/ cyfreithiol, bydd sesiynau dysgu ar gael i gefnogi'r myfyriwr i ymgymryd ag astudiaeth ymchwil fanwl ac i gefnogi myfyrwyr i gwblhau'r asesiad yn llwyddiannus.
Darperir cefnogaeth benodol i'r pwnc drwy'r broses oruchwylio mewn tiwtorialau unigol.
Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Addasrwydd a gwydnwch | Nod y modiwl hwn yw hyrwyddo sgiliau datrys problemau a rheoli amser. Bydd myfyrwyr yn derbyn cefnogaeth gan eu goruchwyliwr ond yn y bôn byddant yn gweithio'n annibynnol wrth ddylunio, ymchwilio, cynllunio ac ysgrifennu'r traethawd estynedig |
| Cydlynu ag erail | Bydd angen i fyfyrwyr weithio'n llwyddiannus gyda goruchwyliwr penodedig er mwyn cyflawni nod cyffredin. |
| Cyfathrebu proffesiynol | Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno gwaith ysgrifenedig ar ffurf eu traethodau estynedig a bydd sgiliau cyfathrebu llafar yn cael eu hasesu trwy gyflwyniadau. Disgwylir iddynt hefyd gyfathrebu a gweithio gyda'u goruchwyliwr mewn modd proffesiynol. |
| Gallu digidol | Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno eu gwaith ar ffurf prosesydd geiriau. Hefyd, anogir myfyrwyr i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we, yn ogystal â cheisio chwilio am ffynonellau trwy gronfeydd data electronig (megis Web of Science a Primo). Gall myfyrwyr hefyd ddefnyddio nifer o becynnau meddalwedd yn ystod y modiwl gan gynnwys Excel, PowerPoint ac SPSS ar gyfer Windows. |
| Meddwl beirniadol a dadansoddol | Bydd y traethawd estynedig yn gofyn i fyfyrwyr feddwl yn ddadansoddol ac yn feirniadol am eu maes ymchwil penodol. |
| Sgiliau Pwnc-benodol | Y prosiect yw uchafbwynt dysgu myfyrwyr mewn cyfraith a/neu droseddeg, sydd wedi datblygu drwy gydol y cynllun gradd.. Disgwylir i fyfyrwyr ddangos eu dealltwriaeth o agweddau a chysyniadau allweddol eu disgyblaeth. Bydd gwerthfawrogiad o natur ymchwil foesegol yn y gyfraith a/neu'r gwyddorau cymdeithasol hefyd yn cael ei archwilio. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6
