Gwybodaeth am Fodiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Arholiad 2 Awr | 60% |
Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad 2 Awr | 60% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd 2000 o eiriau | 40% |
Asesiad Semester | Traethawd 2000 o eiriau | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Bydd myfyrwyr a fydd wedi dilyn y cwrs hwn yn gyfarwydd a^ detholiad o gywyddau Dafydd ap Gwilym a rhai o'i gyfoeswyr.
Byddant yn gallu diweddaru rhai cywyddau gan Ddafydd ap Gwilym i Gymraeg Diweddar.
Byddant yn gyfarwydd a^ hynt y gyfundrefn farddol yng Nghymru yn y bedwaredd ganrif ar ddeg.
Byddant yn gwybod am y dylanwadau cyfandirol a fu ar y canu serch Cymraeg yn y bedwaredd ganrif ar ddeg.
Byddant yn gyfarwydd a^ thrafod crefft ac arddull y cywydd deuair hirion yn y bedwaredd ganrif ar ddeg ac yn gynefin a^ phynciau technegol fel y gynghanedd a chrefft dyfalu.
Byddant yn gyfarwydd a^'r ysgolheictod diweddaraf ym maes astudio'r Cywyddwyr a dylent fedru trafod barn ysgolheigion a beirniaid yn ddeallus.
Disgrifiad cryno
Astudiaeth o ganu Dafydd ap Gwilym a rhai o feirdd eraill y bedwaredd ganrif ar ddeg.
Cynnwys
Darlithoedd 1-8:
Cyflwyniad i farddoniaeth y bedwaredd ganrif ar ddeg o safbwynt hanes y gyfundrefn farddol a hanes cymdeithasol Cymru.
Cyflwyniad i’r canu serch cyfandirol a’i ddylanwad ar farddoniaeth Gymraeg. Ystyried yr agweddau at ferched yn yr Oesau Canol diweddar.
Manylion bywgraffyddol am Ddafydd ap Gwilym a chyflwyniad i’r prif ymdriniaethau â’i waith.
Ymdriniaeth â phwnc awduraeth cerddi’r bedwaredd ganrif ar ddeg.
Darlithoedd 9-20
Darllen yn fanwl a thrafod yn y dosbarth ddetholiad o gywyddau gan Ddafydd ap Gwilym, Iolo Goch, Madog Benfras, Llywelyn Goch Amheurig Hen a Gruffudd ab Adda ap Dafydd. Cymerir mwy o amser gydag ambell gerdd er mwyn ei dadansoddi a’i dehongli ymhellach gan ei chymharu a’i chyferbynnu â cherdd arall.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cydlynu ag erail | Bydd cyfle i fyfyrwyr gyd-drafod a rhannu syniadau wrth drafod testunau penodol. |
Meddwl beirniadol a dadansoddol | Dadansoddi testunau Cymraeg Canol o safbwynt generig ac adnabod confensiynau llenyddol penodol. |
Sgiliau Pwnc-benodol | Dadansoddi testunau Cymraeg Canol o safbwynt ieithyddol, llenyddol a diwylliannol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6