Gwybodaeth am Fodiwlau

Cod y Modiwl
MTM9840
Teitl y Modiwl
Prif Brosiect
Blwyddyn Academaidd
2026/2027
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Pre-Requisite
Myfyrwyr MMath blwyddyn olaf yn unig all ddilyn y modiwl
Rhestr Ddarllen

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Adroddiad ysgrifenedig.  100%
Asesiad Semester Adroddiad Prosiect  Adroddiad ysgrifenedig (90%), cyflwyniad llafar (10%).  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Arddangos y gallu i gasglu gwybodaeth yn annibynnol, gan ddefnyddio'r llyfrgell, rhwydwaith cyfrifiaduro ac adnoddau'r rhyngrwyd;

Arddangos y gallu i ddechrau ymchwiliadau, llunio problemau addas ar gyfer yr ymchwiliadau a'u datrys;

Arddangos y gallu i gyflwyno adroddiad manwl ar y gwaith a wnaed wedi ei deiposod neu ei baratoi gan ddefnyddio prosesydd geiriau.

Disgrifiad cryno

Bwriad y modiwl hwn yw cynorthwyo myfyriwr MMath blwyddyn olaf i ddilyn ymchwiliadau mathemategol neu ystadegol gan weithio mor annibynnol a phosibl o gyfarwyddyd uniongyrchol, ac i baratoi adroddiad cydlynol o'r ymchwiliadau. Dewisir y testun neilltuol mewn ymgynghoriad a goruchwylydd, a bydd y myfyriwr yn cyfarfod a'r goruchwylydd am ddwy awr yr wythnos ar y mwyaf. Prif bwrpas y tiwtorialau yma yw i sicrhau nad yw datblygiad y prosiect yn cael ei amharu gan anawsterau neu gamddealltwriaeth ac i wneud awgrymiadau fel bo'n briodol.

Nod

Cynnig profiad i'r myfyriwr o astudio pwnc mewn Mathemateg neu Ystadegaeth yn annibynnol.

Cynnwys

Bydd y testun a'r deunyddiau adnoddau yn cael ei drefnu mewn ymgynghoriad a'r goruchwylydd.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Addasrwydd a gwydnwch Gweithio'n annibynnol trwy ansicrwydd, gan ymateb yn adeiladol i heriau a rhwystrau.
Cydlynu ag erail Gweithio'n effeithiol gyda goruchwyliwr ac eraill, gan ddefnyddio adborth i wella gwaith annibynnol.
Cyfathrebu proffesiynol Cyflwyno syniadau mathemategol cymhleth yn glir ac yn gywir ar ffurf ysgrifenedig a llafar.
Datrys Problemau Creadigol Datblygu a chymhwyso dulliau gwreiddiol neu addasedig i ddatrys problemau mathemategol anarferol.
Gallu digidol Defnyddio offer digidol priodol i gefnogi ymchwil, dadansoddi a chyflwyno pwnc mathemategol.
Meddwl beirniadol a dadansoddol Dadansoddi problemau'n drylwyr, cwestiynu rhagdybiaethau, a gwerthuso dadleuon a chanlyniadau mathemategol.
Myfyrdod Myfyrio ar ddysgu a gwneud penderfyniadau i nodi cryfderau a meysydd i'w gwella.
Sgiliau Pwnc-benodol Cymhwyso gwybodaeth a thechnegau mathemategol uwch i gyflawni prosiect annibynnol.
Synnwyr byd go iawn Cydnabod sut mae mathemateg uwch yn berthnasol i gymwysiadau neu ymchwil.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7