Gwybodaeth Modiwlau

Module Identifier
CB29120
Module Title
Rheoli Cyrchfannau ac Atyniadau
Academic Year
2023/2024
Co-ordinator
Semester
Semester 1
Pre-Requisite
Reading List
Other Staff

Course Delivery

 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment Aseinad Adfyfyriol  (1,000 gair)  15%
Semester Assessment Safle Wiki  Datblygu wiki mewn grwp 4,500 - 5,000 gair (tua 1,500 gair fesul person)  35%
Semester Exam 2 Hours   Arholiad  Os bydd y cyfnod arholiadau ar-lein: arholiad 24 awr, 2250 gair.  50%
Supplementary Assessment Aseiniad ysgrifenedig  Rhaid i fyfyrwyr wneud yr elfennau o’r asesiad sy’n cyfateb i’r hyn a arweiniodd at fethu’r modiwl. Yn achos gwaith grwp, adroddiad unigol 2,500 gair.  50%
Supplementary Exam 2 Hours   Arholiad  50%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

1. Esbonio rôl cyrchfannau ac atyniadau yn y system dwristiaeth.

2. Trafod yr hyn sy’n gwneud cyrchfannau ac atyniadau yn gystadleuol.

3. Asesu sail resymegol, cwmpas a dulliau rheoli cyrchfannau ac atyniadau.

4. Nodi a chloriannu’r heriau allweddol wrth reoli cyrchfannau ac atyniadau.

5. Gwerthuso amrywiaeth o astudiaethau achos cyfoes ar reoli cyrchfannau ac atyniadau i ymwelwyr.

Brief description

Cyrchfannau sydd wrth wraidd y system dwristiaeth. I gwsmeriaid, mae’r gyrchfan yn dylanwadu’n sylweddol ar y penderfyniad i deithio, gan lywio eu disgwyliadau a’u boddhad. I gynhyrchwyr, y gyrchfan yw’r cyd-destun y caiff y gwasanaeth/cynnyrch ei greu a’i gyflwyno oddi mewn iddo. Mae atyniadau yn chwarae rôl allweddol yn natblygiad a chynaliadwyedd cyrchfannau twristiaeth. Mae’r modiwl hwn yn edrych ar natur y gyrchfan a’r hyn sy’n ei wneud yn gystadleuol, rôl sefydliadau rheoli cyrchfannau a marchnata trwy ddefnyddio delweddau o gyrchfannau. Mae’r modiwl hefyd yn edrych ar y modd y caiff atyniadau i ymwelwyr eu datblygu, eu marchnata a’u rheoli.

Content

 Natur a swyddogaeth y gyrchfan yn y system dwristiaeth. Cyrchfannau, rhanddeiliaid a rhyng-ddibyniaethau. Y goblygiadau o ran rheolaeth a chynllunio.  Mathau o gyrchfannau a’r hyn sy’n eu gwneud yn gystadleuol. Adnoddau ac atyniadau. Daearyddiaeth y galw am dwristiaeth ac adnoddau, hinsawdd a thrafnidiaeth.
 Grymoedd sy’n dylanwadu ar ba mor gystadleuol yw cyrchfan. Sut i fod yn gystadleuol mewn marchnad ddeinamig. Risgiau ac argyfyngau. Sut i adnabod argyfyngau, eu rheoli, ac adfer yn eu sgil.
 Delweddau cyrchfannau. Sut i’w ffurfio, eu dylanwadau a’u swyddogaethau. Technegau ar gyfer asesu delweddau. Rheoli delwedd cyrchfannau.
 Swyddogaeth a natur atyniadau i ymwelwyr. Datblygu atyniadau i ymwelwyr. Economeg datblygu parciau thema. Problemau wrth ddatblygu atyniadau i ymwelwyr mewn ardaloedd ymylol. Arwyddocâd cymdeithasol a gwleidyddol. Materion yn ymwneud â dilysrwydd.
 Rheoli atyniadau i ymwelwyr. Rheoli effaith ymwelwyr. Rheoli tymoroldeb yn strategol. Heriau i atyniadau sy’n seiliedig ar grefydd. Materion yn ymwneud â rheoli adnoddau dynol.
 Marchnata atyniadau i ymwelwyr. Heriau a chyfleoedd i atyniadau sy’n seiliedig ar dreftadaeth. Materion brandio. Strategaethau marchnata cystadleuol a chydweithredol.

Module Skills

Skills Type Skills details
Application of Number Darparu ffigurau yn y wikis a asesir a’u trafod e.e. twf twristiaeth mewn cyrchfan benodol o flwyddyn i flwyddyn a’r goblygiadau cysylltiedig.
Communication Bydd gofyn i’r myfyrwyr ddatblygu cynnwys ar-lein effeithiol ac ynacymryd rhan mewn trafodaethau ar-lein. Asesir sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig y myfyrwyr yn yr arholiadau.
Improving own Learning and Performance Myfyrio ar y broses o weithio mewn tîm i gwblhau’r wiki.
Information Technology Bydd angen i’r myfyrwyr ddefnyddio TG wrth gwblhau eu prosiectau - sef creu prosiect wiki ar y cyd yn achos y modiwl hwn. Caiff hyn ei asesu a rhoddir adborth hefyd.
Personal Development and Career planning Bydd y modiwl yn cynnwys dau ymweliad safle, a fydd yn rhoi cipolwg ar sut i ddatblygu a rhedeg atyniadau i ymwelwyr.
Problem solving Bydd angen i’r myfyrwyr ddatblygu cyfres gydlynol o dudalennau wiki ar gyrchfan dwristiaeth a ddewisir gan y grŵp. Bydd angen iddynt benderfynu sut orau i rannu’r gwaith, beth i’w gynnwys yn y tudalennau a sut i gydweithio i gwblhau’r dasg.
Research skills Bydd gofyn i’r myfyrwyr gynllunio a gwneud ymchwil ar gyfer eu cyflwyniad grŵp, gan ddefnyddio adnoddau llyfrgell ac electronig. Caiff hyn ei asesu yn y cyflwyniad a rhoddir adborth i’r myfyrwyr.
Subject Specific Skills Cynnwys o’r darlithoedd ar gyrchfannau ac atyniadau.
Team work Bydd y myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau ar aseiniad, a fydd yn arwain at brosiect grŵp a asesir. Wrth wneud hyn, bydd angen iddynt ddangos sgiliau effeithiol wrth weithio mewn tîm. Bydd elfen o farc y prosiect yn adlewyrchu’r elfen gwaith tîm a rhoddir adborth ar hyn i’r myfyrwyr.

Notes

This module is at CQFW Level 5