Gwybodaeth Modiwlau

Module Identifier
CT20620
Module Title
Cyfraith Gyhoeddus
Academic Year
2023/2024
Co-ordinator
Semester
Semester 1
Pre-Requisite
Exclusive (Any Acad Year)
Reading List
Other Staff

Course Delivery

 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment Traethawd  2000 o eiriau  50%
Semester Exam 2 Hours   Arholiad  2 Awr  50%
Supplementary Assessment Traethawd  2000 o eiriau  50%
Supplementary Exam 2 Hours   Arholiad  2 Awr  50%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

1. Egluro sut y mae trefn gyfansoddiadol Prydain yn gweithio a medru trafod cynigion ar gyfer diwygio.

2. Dadansoddi'r drefn bresennol a gwerthuso'r cryfderau a'r gwendidau.

3. Trafod deunyddiau cyfreithiol cyfansoddiadol mewn modd beirniadol a dadansoddol.

4. Adnabod problemau yn y drefn gyfansoddiadol a defnyddio eu gwybodaeth ar gyfer awgrymu atebion posibl (er enghraifft, gan gyfeirio at ddeunyddiau cymharol).

5. Cymhwyso egwyddorion cyfreithiol i sefyllfaoedd ffeithiol er mwyn awgrymu atebion posibl i achosion.

6. Adnabod a gwerthfawrogi'r goblygiadau i gyfraith gyfansoddiadol yn sgil datblygiadau cyffredinol yn y gyfraith a gwleidyddiaeth, a dangos dealltwriaeth o'r berthynas rhwng cyfraith gyfansoddiadol y DU a chyfraith Ewropeaidd / ryngwladol yn ogystal a'r rhyngweithio rhwng elfennau canolog a datganoledig y cyfansoddiad.

7. Dangos dealltwriaeth o ffactorau cyd-destunol, megis y ddeinameg wleidyddol sy'n ffurfio rol a phwerau cyfreithiol y weithrediaeth.

8. Dangos dealltwriaeth o'r broses adolygu barnwrol a'i chanlyniadau.

Brief description

Yn gonfensiynol, rhennir cyfraith gyhoeddus yn gyfraith gyfansoddiadol a chyfraith weinyddol. Mae'r Deyrnas Unedig yn anarferol am nad oes ganddi gyfansoddiad ysgrifenedig. Themau pwysig y cwrs yw a yw hynny yn cael effaith yn ymarferol a'r ffordd y mae'r Cyfansoddiad wedi addasu i amgylchiadau sy'n newid. Mae'r hyn y mae yn ei olygu, pam ei fod felly ac a yw hyn yn gwneud gwahaniaeth yn ymarferol ymhlith y cwestiynau y byddwn yn edrych arnynt yn y cwrs hwn, sy'n ceisio cyflwyno myfyrwyr i astudio cyfraith gyfansoddiadol yn gyffredinol ac i athrawiaethau sylfaenol Cyfansoddiad Prydain yn arbennig. Mae cyfraith weinyddol yn ymwneud ag arfer grym y wlad, ac effaith gweithgareddau'r llywodraeth ar y dinesydd yn cynnwys addysg, rhedeg ein carchardai, cynllunio, trafnidiaeth, system budd-daliadau lles a llawer mwy.

Content

- Cyflwyniad cyffredinol i gyfraith gyfansoddiadol: cyfansoddiadau yn gyffredinol; gwahanol fathau o gyfansoddiad; statws cyfraith gyfansoddiadol mewn perthynas a chyfreithiau eraill y wlad; darllen ac ysgrifennu cyfansoddiadau.

- Ffynonellau Cyfansoddiad Prydain: ffynonellau cyfreithiol cyfansoddiad y DU – deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth; pwerau uchelfreiniol, cyfraith gwlad; lle cyfraith yr UE a chyfraith ryngwladol yn system y DU. Ffynonellau anghyfreithiol y cyfansoddiad – confensiynau cyfansoddiadol, ffurfio, adnabod a chodeiddio posibl.

- Athrawiaeth Sofraniaeth Seneddol – ystyr ac arwyddocâd athrawiaeth glasurol Sofraniaeth Seneddol; Sofraniaeth Seneddol yng nghyd-destun Cyfansoddiad cyfoes y DU a’i ddatblygiad, gan gynnwys ystyried effaith ymaelodi a’r UE ar athrawiaeth Sofraniaeth Seneddol.

- Rheolaeth y Gyfraith – arwyddocâd ac ystyr Rheolaeth y Gyfraith; Rheolaeth y Gyfraith yng Nghyfansoddiad cyfoes y DU a’i ddatblygiad.

- Gwahaniad pwerau - ystyr ac arwyddocad yr egwyddor o wahanu pwerau; gwahanu pwerau a'i rol yng Nghyfansoddiad y DU.

- Strwythur tiriogaethol y Deyrnas Unedig a datganoli - cyflwyniad i ffurfiant y DU; deddfau perthnasol a therminoleg gyfreithiol; pynciau cyffredinol ynghylch rhannu pŵer mewn gwledydd; datganoli yn y DU - sefydliadau a phwerau; nodweddion ffederal ac unedol gwladwriaethau.

- Sefydliadau a phrosesau deddfu - sefydliadau deddfu; pwerau a phrosesau deddfu; craffu ar y broses ddeddfu.

- Amddiffyn hawliau dynol yn y Deyrnas Unedig - pynciau cyffredinol yn ymwneud ag amddiffyn hawliau mewn cyfansoddiadau - cynnwys a statws hawliau, amddiffyniadau hawliau dynol; y drefn yn y DU cyn Deddf Hawliau Dynol 1998; cynnwys a statws Deddf Hawliau Dynol 1998; dadlau parhaus ynghylch newid.

- Pwerau gweithredol ac atebolrwydd - Sefydliadau gweithredol; Y wladwriaeth weinyddol fodern - gyrru'r ffiniau yn ol a thwf Rheolaeth Newydd y Cyhoedd moderneiddio'r Wladwriaeth Les; preifateiddio - creu asiantaethau, gosod gwaith ar gytundeb; pwer uchelfreiniol a phwerau wrth gefn; systemau ar gyfer sicrhau atebolrwydd am weithredu gweithredol.

- Natur a phwrpas cyfraith weinyddol - adnabod swyddogaethau amrywiol cyfraith weinyddol.

- Cyflwyniad i adolygu barnwrol - sail gyfreithiol y drefn adolygu barnwrol; pa ddeddfau y gellir eu herio - pwy all wneud cais am hawliad a phryd y gellir eithrio adolygu barnwrol; unioni.

- Cyflwyniad cryno i fecanweithiau cwyno nad ydynt yn farnwrol - system yr Ombwdsmon - cyflwyniad i system ombwdsmon y sector cyhoeddus.

Module Skills

Skills Type Skills details
Application of Number Amherthnasol.
Communication Paratoi, a thrafod, mewn seminarau. (Asesir cyfathrebu ysgrifenedig).
Improving own Learning and Performance Ymchwilio yn dilyn y darlithoedd a pharatoi ar gyfer seminarau.
Information Technology Ymchwilio yn dilyn y darlithoedd a pharatoi ar gyfer seminarau.
Personal Development and Career planning Bydd y hyn a ddysgir trwy gydol y modiwl yn berthnasol i yrfa ym mhroffesiwn y gyfraith.
Problem solving Paratoi a thrafod cwestiynau datrys-problemau mewn seminarau.
Research skills Ymchwilio yn dilyn y darlithoedd a pharatoi ar gyfer seminarau.
Subject Specific Skills Ymchwil gyfreithiol: defnyddio cronfeydd data cyfreithiol a gynlluniwyd yn benodol fel adnodd ar gyfer cyfraith statudol a chyfraith achosion.
Team work Gwaith seminar: paratoi a thrafodaethau grwp.

Notes

This module is at CQFW Level 5