Gwybodaeth am Fodiwlau

Cod y Modiwl
CY11120
Teitl y Modiwl
Themau a Ffigurau Llen c.550-1900
Blwyddyn Academaidd
2025/2026
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad ysgrifenedig  2 Awr  60%
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad ysgrifenedig  2 Awr  60%
Asesiad Ailsefyll Traethawd  2000 o eiriau  40%
Asesiad Semester Traethawd  2000 o eiriau  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Medru adnabod a dangos dealltwriaeth o brif dueddiadau a genres traddodiadau llenyddol y Gymraeg o’r chweched ganrif hyd ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg (barddoniaeth a rhyddiaith).

Dangos dealltwriaeth o themâu a chysyniadau llenyddol wrth ymdrin â llenyddiaeth hanesyddol.

Dangos dealltwriaeth o syniadau a symudiadau Ewropeaidd a ddylanwadodd ar lenyddiaeth Gymraeg o dro i dro.

Medru trafod testunau unigol yn feirniadol, ynghyd â’u gosod yn eu cyd-destun hanesyddol a chymdeithasol.

Disgrifiad cryno

Mae’r arolwg beirniadol hwn o hanes llenyddiaeth Gymraeg yn gosod sylfaen i fyfyrwyr Rhan 1 a fydd yn caniatáu iddynt weld prif dueddiadau traddodiad llenyddol Cymru a gwerthfawrogi detholiad o destunau unigol yn feirniadol. Trafoir genres llenyddol gwahanol, prif syniadau llenyddol y cyfnodau dan sylw, a pherthynas llenyddiaeth Gymraeg â llenyddiaethau eraill a ddylanwadodd arni o dro i dro. Darllenir detholiad o destunau gan feirdd a llenorion sy’n amlygu rhai themâu penodol.

Nod

Mae’r arolwg beirniadol hwn o hanes llenyddiaeth Cymru yn gosod sylfaen i fyfyrwyr Rhan 1 a fydd yn caniatáu iddynt weld prif dueddiadau traddodiad llenyddol Cymru a gwerthfawrogi detholiad o destunau unigol yn feirniadol. Bydd yn gyflwyniad a rydd sail i ddewis modiwlau arbenigol yn Rhan 2.

Cynnwys

Cynnwys: dwy awr yr wythnos.

Dyma fodiwl sy’n fraslun o lenyddiaeth Gymraeg cyn 1900 gan ganolbwyntio ar ei phrif themâu a’i ffigurau. Ymhlith y rhain, trafodir Taliesin (y Cynfeirdd), Prydydd y Moch (Beirdd y Tywysogion), Guto’r Glyn (Beirdd yr Uchelwyr), Morgan Llwyd, William Williams Pantycelyn a Daniel Owen.

Mae darlithoedd 1–8 yn canolbwyntio ar farddoniaeth yr Oesoedd Canol, gan ystyried sut y mae genres y Gyfundrefn Farddol yn newid dros amser a beth, os unrhyw beth, yw llinyn aur y ‘Traddodiad Barddol’. Yna, mae darlithoedd 11–20 yn canolbwyntio ar y cyfnod modern cyn 1900, gan edrych yn fanylach ar unigolion â’u rolau yn natblygiad llenyddiaeth Gymraeg.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Anogir myfyrwyr i fynegi eu syniadau yn glir ac yn argyhoeddiadol yn y traethawd ysgrifenedig.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygir sgiliau hanfodol (megis delio â llif gwaith yn wythnosol, trefnu amser yn effeithiol a chyflawni ymchwil yn annibynnol drwy gydol y Semester.
Datrys Problemau Trwy ymwneud yn feirniadol, ar lafar ac ar bapur, â chysyniadau deallusol sy’n codi o’r cyd-destun hanesyddol ac o destunau llenyddol penodol.
Gwaith Tim Bydd cyfle o dro i dro i drafod testun llenyddol mewn grŵp.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Trwy ymchwil annibynnol; adborth eu tiwtoriaid ar waith ysgrifenedig; trwy ddatblygu sgiliau trefnu amser/gwaith; myfyrio ar sgiliau cyflwyno a gwaith ysgrifenedig arall. Bydd modd i fyfyrwyr wella eu gallu i ddarllen a dehongli testunau hanesyddol â’r wybodaeth ieithyddol, gefndirol a diwylliannol berthnasol.
Rhifedd amherthnasol
Sgiliau pwnc penodol Trwy feithrin gallu myfyrwyr i ddarllen a deall testunau mewn Cymraeg Canol, a Chymraeg Modern Cynnar, a thrwy hynny ddysgu mwy am ddatblygiad yr iaith Gymraeg a nodweddion generig y testunau a astudir.
Sgiliau ymchwil Trwy gyfrwng ymchwil annibynnol ar gyfer llunio traethawd ysgrifenedig. Hefyd, trwy ddefnyddio ymchwil electronig ac adnoddau electronig a llyfryddol.
Technoleg Gwybodaeth At ddibenion ymchwil (aseiniad a thrafodaethau); prosesu geiriau. Defnyddio ymchwil electronig ac adnoddau llyfryddol; cael mynediad i adnoddau’r modiwl ar y BwrddDu.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4