Cymraeg Llyfr a Chymraeg Llafar

Cod y Modiwl
CY11400
Teitl y Modiwl
Cymraeg Llyfr a Chymraeg Llafar
Blwyddyn Academaidd
2026/2027
Semester
Semester 1 Dysgwyd dros 2 semester
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Dr Llewelyn Hopwood
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Dr Bleddyn Huws
Dr Llewelyn Hopwood

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Ymarferion iaith 1: (Semester 1 - Cyfieithu/ Ysgrifennu rhydd/ Cywiro ac esbonio). 750 o eiriau. 20%
Asesiad Semester Ymarferion Iaith 2: (Semester 2 - Cyfieithu/ Ysgrifennu rhydd/ Cywiro ac esbonio). 750 o eiriau. 20%
Arholiad Semester Arholiad: 2 Awr 2 Awr 60%
Asesiad Ailsefyll Ymarferion Iaith 1: (Cyfieithu/ Ysgrifennu rhydd/ Cywiro ac esbonio). 750 o eiriau. 20%
Asesiad Ailsefyll Ymarferion Iaith 2: (Cyfieithu/ Ysgrifennu rhydd/ Cywiro ac esbonio). 750 o eiriau. 20%
Arholiad Ailsefyll Arholiad: 2 Awr 2 Awr 60%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. sillafu geiriau Cymraeg yn gywir heb gymorth geiriadur nac adnodd electronig fel Cysill;
  2. dangos dealltwriaeth o’r treigladau;
  3. dangos dealltwriaeth o gyweiriau’r Gymraeg ac o’r gwahaniaethau cynyddol rhwng Cymraeg ffurfiol/llyfr a Chymraeg anffurfiol/llafar.
  4. Dangos dealltwriaeth o deithi’r iaith Gymraeg trwy adnabod ac ysgrifennu Cymraeg graenus a chywir.

Disgrifiad cryno

Cyflwyniad i egwyddorion sylfaenol Cymraeg safonol er mwyn galluogi’r myfyrwyr sy’n dilyn y modiwl i ysgrifennu Cymraeg graenus. Canolbwyntir ar gyweiriau’r iaith, ynghyd â nodweddion Cymraeg safonol: confensiynau sillafu’r iaith, ffurfiau’r iaith lenyddol, y treigladau a phriod-ddulliau.

Nod

Y mae’r modiwl hwn yn rhan greiddiol o Q560 a chynlluniau cyd-anrhydedd gyda’r Gymraeg er mwyn darparu sylfaen ramadegol gadarn i fyfyrwyr a chaniatáu iddynt ysgrifennu’r Gymraeg yn hyderus, yn gywir ac yn safonol.

Cynnwys

Cyflwyniad i gyweiriau’r iaith ac i egwyddorion sylfaenol Cymraeg safonol yw’r modiwl hwn, er mwyn galluogi’r myfyrwyr sy’n dilyn y modiwl i ysgrifennu Cymraeg graenus. Canolbwyntir ar gonfensiynau sillafu’r iaith, ffurfiau’r iaith lenyddol, y treigladau a phriod-ddulliau. Darperir llyfryn pwrpasol sy’n gosod allan raglen waith y modiwl.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Cyfathrebu Trafod materion gramadegol ar lafar yn y gweithdai; medru egluro gwallau gramadegol yn y gwaith cwrs ac yn yr arholiad.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Gweler rhif. 4
Datrys Problemau Ymateb i heriau technegol y rheolau gramadegol a’r ymarferion gramadegol unigol.
Gwaith Tim Ceir cyfle i drafod mewn grŵp yn ystod gweithdai.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd y gweithdai yn rhoi cyfle i fyfyrwyr drafod ymarferion iaith a darnau i’w cyfieithu; bydd y tasgau yn caniatáu i fyfyrwyr fesur eu perfformiad a’u datblygiad personol.
Rhifedd amherthnasol
Sgiliau pwnc penodol Mae’r sgiliau a ddatblygir yn rhai trosglwyddadwy a fydd o ddefnydd i fyfyrwyr yn y brifysgol ac yn y gweithle.
Sgiliau ymchwil Ymchwilio’n annibynnol er mwyn atgyfnerthu’r rheolau gramadegol a ddysgir yn y dosbarth.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddir rhaglen prosesu geiriau i gynhyrchu’r tasgau.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4