Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
CY20100
Teitl y Modiwl
Gloywi Iaith
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad Atodol  2 Awr  40%
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad  2 Awr  40%
Asesiad Ailsefyll Prawf Llafar  10 Munud  15%
Asesiad Ailsefyll Tasg Ysgrifenedig Estynedig  1500 o eiriau  45%
Asesiad Semester Prawf llafar  10 Munud  15%
Asesiad Semester Ymarferion Wythnosol (8 Semester 1; 8 Semester 2)  1500 o eiriau  45%

Canlyniadau Dysgu

O fanteisio i'r eithaf ar y modiwl hwn byddwch yn meddu ar ymwybyddiaeth o deithi'r Gymraeg ac yn medru ei defnyddio'n raenus ac yn gywir yn ysgrifenedig ac ar lafar.

Bydd myfyrwyr a fydd yn rhagori yn medru arddangos meistrolaeth o nodweddion megis orgraff yr iaith, ffurfiau ac amserau berfau, cenedl enwau, y treigladau, llunio cymalau ac adnabod gwahanol fathau o frawddegau.

Disgrifiad cryno

Modiwl yw hwn a fwriadwyd i feithrin gallu myfyrwyr i ysgrifennu'r Gymraeg yn safonol a chywir ac i'w llefaru'n raenus. Fe'i dysgir ar sail grwpiau dan ofal tiwtor, a gosodir tasg ysgrifenedig yn wythnosol. Yn ogystal â thrafod cynhyrchion yr wythnos flaenorol, bydd elfen o hyfforddiant ieithyddol a fydd yn annibynnol ar hynny yn wedd ar bob dosbarth hefyd. Bydd prif bwyslais y dosbarthiadau ar yr iaith ysgrifenedig, ond rhoddir peth sylw hefyd i feithrin ymwybyddiaeth o iaith raenus fel paratoad ar gyfer y Prawf Llafar a fydd yn rhan o asesiad y modiwl.

Cynnwys

Dysgir y modiwl ar ffurf grŵp neu weithdy iaith wythnosol o dan ofal tiwtor. Trafodir y gwallau cyffredin sy’n ymddangos yng ngwaith y myfyrwyr o wythnos i wythnos, a chyfeirir y myfyrwyr at yr adran berthnasol yn y Gramadeg. Gosodir ymarferion iaith yn y dosbarth o bryd i’w gilydd er mwyn hyfforddi dan gyfarwyddyd.

Bydd y pynciau gramadegol penodol hyn yn cael eu trafod:

Orgraff

Cenedl Enwau

Treigladau

Cyweiriau’r iaith

Gwahaniaethu rhwng defnydd safonol ac ansafonol o’r iaith

Cystrawennau

Cymalau

Priod-ddulliau

Diarhebion Cymraeg

Cyfieithu

Yn ogystal â hyn, cynhelir gweithdy a fydd yn paratoi’r myfyrwyr ar gyfer sefyll y Prawf Llafar.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Addasrwydd a gwydnwch Bydd mireinio eu Cymraeg ysgrifenedig a llafar yn fanteisiol i fyfyrwyr yn ystod eu gyrfa yn y brifysgol, ac wrth fynd i’r gweithle proffesiynol Cymraeg ei iaith.
Cydlynu ag erail Bydd cyfle i gydweithio wrth wneud rhai ymarferion yn y dosbarth.
Cyfathrebu proffesiynol Bydd disgwyl i’r myfyrwyr allu cyfathrebu yn gywir ac yn effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Datrys Problemau Creadigol Bydd myfyrwyr yn gallu cywiro gwallau gramadeg a’u hesbonio.
Gallu digidol Bydd cyfle i ddefnyddio rhai adnoddau electronig perthnasol.
Meddwl beirniadol a dadansoddol Bydd gofyn i’r myfyrwyr allu chwilio am esboniadau gramadegol a defnyddio adnodd electronig megis Geiriadur Prifysgol Cymru Ar-lein
Myfyrdod Bydd disgwyl i’r myfyrwyr allu gweld pa wallau rheolaidd y maent yn eu gwneud a sut i’w cywiro
Sgiliau Pwnc-benodol Trin y Gymraeg yn unol â rheolau gramadegol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5