Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
CY32720
Teitl y Modiwl
Testunau'r Enfys: llunio profiadau LHDT+
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Aseiniad 1 (Dehongliadau cwiar):  gwerthfawrogiad beirniadol o un testun. (Bydd angen cytuno ar y testun gyda darlithwyr y modiwl) 1500 o eiriau  40%
Asesiad Ailsefyll Aseiniad 2 (hunaniaeth gwiar agored): traethawd beirniadol  2500 o eiriau  60%
Asesiad Semester Aseiniad 2 (hunaniaeth gwiar agored): traethawd beirniadol  2500 o eiriau  60%
Asesiad Semester Aseiniad 1 (Dehongliadau cwiar):  gwerthfawrogiad beirniadol o un testun. (Bydd angen cytuno ar y testun gyda darlithwyr y modiwl) 1500 o eiriau  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

​​1. Dangos dealltwriaeth o’r fframwaith theoretig rhyweddol a chwiar ehangach.

2. Adnabod a thrafod prif dueddiadau yn y maes a’u hoblygiadau i’r broses o drafod a dehongli’r testunau gosod.

3. Medru gosod awduron penodol yn eu cyd-destun hanesyddol, llenyddol, neu ddiwylliannol, ynghyd â’r cyd-destun cwiar.

4. Medru adnabod a thrafod prif nodweddion y ffurfiau a’r genres a ddefnyddir gan awduron penodol.

5. Pwyso a mesur cynnyrch a themâu llenorion unigol.​

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl hwn yn caniatáu i fyfyrwyr ddehongli ystod o destunau cyfoes Cymraeg (cyfarwydd ac anghyfarwydd) o’r newydd â phwyslais ar rywedd a rhywioldeb. Cyflwynir fframwaith beirniadol Eingl-Americanaidd a Chymreig theori cwiar, a thrafodir testunau o safbwynt dehongliadau a hunaniaeth gwiar agored. O ran genre, astudir testunau barddoniaeth, rhyddiaith, drama a ffilm.

Cynnwys

Y fframwaith beirniadol

Elfennau Theori Cwiar (y cyd-destun Eingl-Americanaidd)

Elfennau Theori Cwiar (y cyd-destun Cymreig): darllenir testunau beirniadol Cymraeg a Chymreig yn agos gyda’r myfyrwyr er mwyn dangos eu perthynas â’r cyd-destun Eingl-Americanaidd ac er mwyn gwerthfawrogi hefyd ‘Gymreigrwydd’ y testunau barddoniaeth, rhyddiaith, drama a ffilm a astudir.

Testunau penodol: agweddau ar lenyddiaeth a diwylliant cwiar

Dehongliadau cwiar: ffuglen John Gwilym Jones a Kate Roberts, a dramâu Aled Jones Williams.

Hunaniaeth gwiar agored mewn barddoniaeth: e.e. ‘Atgof’ E. Prosser Rhys ac ‘Olion’ Gwynfor Dafydd.

Hunaniaeth gwiar agored mewn ffuglen: Mihangel Morgan, e.e. ‘Brenhines ein Llên’: Te Gyda’r Frenhines (1994), Tair Ochr y Geiniog (1996), Croniclau Pentre Simon (2003), Pantglas (2011).

Hunaniaeth gwiar agored ar lwyfan: e.e. Dafydd James, Llwyth (2010) a Tylwyth (2020).

Hunaniaeth gwiar agored mewn ffilm: e.e. Gadael Lenin (1993), Dafydd (1995) a Bydd yn Wrol (1998).

(Gall y testunau newid mewn ymateb i ddiddordebau’r grŵp)

Cynhelir dau weithdy wythnosol a threfnir sesiynau ychwanegol, yn ôl y galw, i wylio’r dramâu a’r ffilmiau a astudir.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Anogir myfyrwyr i fynegi eu syniadau yn glir yn yr aseiniadau ysgrifenedig. Bydd gweithdai yn cynnwys elfen gref o drafod ond nid asesir trafodaethau grŵp yn ffurfiol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygir sgiliau hanfodol (megis delio â llif gwaith yn wythnosol, trefnu amser yn effeithlon a chyflawni ymchwil yn annibynnol) drwy gydol y modiwl.
Datrys Problemau Trwy ymwneud yn feirniadol, ar lafar ac ar bapur, â chysyniadau deallusol sy’n codi o’r cyd-destun beirniadol a hanesyddol ac o destunau penodol.
Gwaith Tim Trwy gyfrannu at drafodaethau grŵp ynghylch y testunau.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Trwy ymchwil annibynnol; adborth eu tiwtoriaid ar waith ysgrifenedig a chyfraniadau llafar; ymwneud â chymheiriaid yn ystod trafodaethau grŵp; datblygu sgiliau trefnu amser/gwaith; myfyrio ar sgiliau cyflwyno a gwaith ysgrifenedig arall. Bydd modd i fyfyrwyr wella eu gallu i ddarllen a dehongli testunau hanesyddol.
Rhifedd Amherthnasol.
Sgiliau pwnc penodol Trwy feithrin gallu myfyrwyr i ddarllen a deall testunau mewn Cymraeg Canol a Chymraeg Modern Cynnar, a thrwy hynny ddysgu mwy am ddatblygiad yr iaith Gymraeg.
Sgiliau ymchwil Trwy gyfrwng ymchwil annibynnol ar gyfer asesiadau ysgrifenedig a chyfraniadau i drafodaethau grŵp. Hefyd, trwy ddefnyddio ymchwil electronig ac adnoddau llyfryddol.
Technoleg Gwybodaeth At ddibenion ymchwil (aseiniadau a chyflwyniadau); prosesu geiriau. Defnyddio ymchwil electronig ac adnoddau llyfryddol;  cael mynediad i adnoddau’r modiwl ar y BwrddDu.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6