Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
CYM7000
Teitl y Modiwl
Cyfieithu a Byd Busnes
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Adroddiad  Adroddiad / sylwebaeth feirniadol yn ymwneud a'r prosiect busnes annibynnol. 3000 o eiriau  60%
Asesiad Ailsefyll Cyflwyniad llafar  Cyflwyniad llafar unigol 10 Munud  40%
Asesiad Semester Adroddiad  Adroddiad / sylwebaeth feirniadol yn ymwneud a'r prosiect busnes annibynnol. 3000 o eiriau  60%
Asesiad Semester Cyflwyniad llafar  Cyflwyniad llafar unigol 10 Munud  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Gwerthuso’n fanwl y cyd-destun busnes yng Nghymru wrth ystyried y diwydiant cyfieithu a dadansoddi’n feirniadol agweddau ar fyd busnes ac entrepreneuriaeth.

Dadansoddi’n ddeallus ac ymateb yn feirniadol i ffactorau sy’n dylanwadu ar y cyd-destun presennol o ran cyflogadwyedd a chyfleoedd busnes.

Dangos dealltwriaeth gadarn o hanfodion sicrhau ansawdd wrth reoli, datblygu prosiectau a datblygu gweithlu.

Dangos meistrolaeth dros faes arbenigol wrth gwblhau prosiect busnes ym maes cyfieithu.

Disgrifiad cryno

Bwriad y modiwl yw datblygu gwybodaeth y myfyrwyr o’r diwydiant cyfieithu trwy gyfrwng agweddau penodol ar fyd busnes ac entrepreneuriaeth. Cyflwynir hanfodion byd busnes yn ogystal â dulliau gweithio perthnasol. Wrth astudio’r elfennau hynny, y nod yw eu cynorthwyo i feithrin sgiliau’n ymwneud â gweithio’n effeithlon ac yn annibynnol, gan fanteisio’n llawn ar y cyfleoedd sydd ar gael iddynt ym myd busnes. Yn ogystal, rhoddir pwyslais ar fagu hyder a datblygu sgiliau ym maes arweinyddiaeth ac arloesi.

Cynnwys:

• Trosolwg o’r diwydiant cyfieithu presennol yng Nghymru a hanfodion byd busnes
• Heriau a chyfleoedd o fewn y diwydiant cyfieithu
• Y swyddfa a gweithio ag eraill: rheoli pobl a disgwyliadau
• Datblygu a rheoli busnes: canfod, dosbarthu a rheoli llif gwaith
• Rheoli prosiectau: swyddogaethau a chyfrifoldebau
• Entrepreneuriaeth ehangach a datblygu busnes

Nod

• Datblygu ymwybyddiaeth o hanfodion byd busnes mewn perthynas â’r diwydiant cyfieithu
• Datblygu sgiliau arloesi, rheoli ac arwain o fewn y diwydiant iaith
• Datblygu cyfleoedd yn ymwneud â chyflogadwyedd o fewn y diwydiant cyfieithu a meithrin sgiliau ehangach yn ymwneud ag ymateb i heriau
• Datblygu sgiliau gwerthuso a chynllunio’n annibynnol wrth ystyried modelau busnes ac entrepreneuriaeth

Cynnwys

Semester 1

• Darlith / Gweithdy - 3 awr:
o Trosolwg o’r diwydiant cyfieithu presennol yng Nghymru a hanfodion byd busnes.
o Cyfle i grynhoi yr hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd yng Nghymru, gan roi hynny yng nghyd-destun busnes yn gyffredinol.
o Cydweithio â’r Adran Fusnes i gyflwyno rhai modelau a theorïau busnes.


• Darlith / Gweithdy - 3 awr:
o Heriau a chyfleoedd o fewn y diwydiant cyfieithu.
o Deall yr hyn sydd wedi arwain at gyflwr y diwydiant cyfieithu presennol.
o Dadansoddi’r cyfleoedd busnes sy’n bodoli wrth edrych ar y diwydiant cyfieithu, o ran unedau cyfieithu yn ogystal â gwaith llawrydd.
o Cydweithio â chynrychiolydd o gwmni cyfieithu preifat masnachol i rannu profiadau a chyngor.


• Darlith / Gweithdy – 3 awr:
o Dadansoddi swyddogaethau o fewn swyddfeydd cyfieithu, a deall y berthynas waith a’r prosesau gweithredu sy’n cyfrannu at gynnal lleoliadau gwaith llwyddiannus a diogel.
o Archwilio dulliau gweithio ag eraill, gan ystyried dulliau rheoli pobl, dulliau rheoli disgwyliadau a dulliau ymateb i heriau.
o Cydweithio â chynrychiolydd o’r diwydiant cyfieithu (e.e. corff cyhoeddus) i rannu profiadau a chyngor.


• Darlith / Gweithdy – 3 awr:
o Datblygu a rheoli busnes: marchnata, dosbarthu a rheoli llif gwaith
o Datblygu a rheoli busnes: edrych ar y cyd-destun cenedlaethol
o Datblygu a rheoli busnes: edrych ar asiantaethau rhyngwladol


Semester 2

• Darlith / Gweithdy – 4 awr:
o Rheoli prosiectau: egwyddorion, swyddogaethau a chyfrifoldebau
o Entrepreneuriaeth ehangach a datblygu busnes
o Gweithdai proffesiynol – e.e. gan adran fusnes PA / PCYDDS

• Gwaith annibynnol:
o Ymgymryd â phrosiect busnes ym maes cyfieithu

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cydlynu ag erail Bydd gofyn i’r myfyrwyr gyfathrebu’n effeithiol ag eraill a chydweithio drwy gyfrwng y gweithdai gan arbenigwyr penodol a thrwy gyfrwng y gwaith uniongyrchol a gwblheir ar y prosiect busnes annibynnol.
Datrys Problemau Creadigol Disgwylir i'r myfyrwyr arddangos eu sgiliau ymchwilio i wahanol ffynonellau. Byddant yn dangos tystiolaeth o bwyso a mesur a gwerthuso wrth wneud penderfyniadau.
Meddwl beirniadol a dadansoddol Bydd y myfyrwyr yn cyfrannu at drafodaethau mewn seminarau a gweithdai, yn dangos eu sgiliau trin a thrafod a rhannu syniadau. Yn sgil hynny byddant yn dadansoddi elfennau penodol ac yn meddwl yn gritigol wrth gamu i fyd busnes ac entrepreneuriaeth
Sgiliau Pwnc-benodol Bydd y myfyrwyr yn datblygu ymhellach eu sgiliau cyfieithu a chywirdeb iaith, ac yn ymarfer agweddau pwnc-benodol drwy gydol y modiwl.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7