Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
DA10520
Teitl y Modiwl
Newid a gwrthdaro: Cynhyrchu gofodau gwledig a threfol
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Rhestr Ddarllen

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll Asesiad diwedd modiwl  50%
Arholiad Semester Asesiad diwedd modiwl  50%
Asesiad Ailsefyll Traethawd  1500 o eiriau  50%
Asesiad Semester Traethawd  1500 o eiriau  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Adnabod ac esbonio'r prosesau allweddol sy'n dylanwadu ar newid cyfoes yng nghefn gwlad ac yn y ddinas.

Gwerthuso'r prosesau allweddol sy'n dylanwadu ar newidiadau yng nghefn gwlad ac yn y ddinas.

Cymhwyso ystod o lenyddiaeth ddamcaniaethol a chysyniadol perthnasol er mwyn esbonio newidiadau yng nghefn gwlad ac yn y ddinas.

Gwerthuso'r goblygiadau polisi a goda o'r fath newid.

Arddangos sgiliau darllen, dehongli, a gwerthuso beirniadol.

Disgrifiad cryno

Ystyria'r modiwl y ffyrdd mae daearyddwyr a gwyddonwyr cymdeithasol eraill wedi deall ac archwilio gofodau trefol a gwledig, a'r cysylltiadau rhyngddynt. Archwilir y safbwyntiau hyn yng nghyd-destun newidiadau economaidd, demograffaidd, cymdeithasol, a diwylliannol mewn sefyllfaoedd gwledig a threfol ers diwedd yr Ail Ryfel Byd. Yn aml, arweinia'r newidiadau hyn at wrthdaro ynglŷn ag ystyr gofodau gwledig a threfol, a'r bobl, gwerthoedd, ac ymddygiad sy'n 'perthyn' yno. Ystyria'r modiwl sut y daw tensiynau i'r wyneb mewn gwahanol ffyrdd, a strategaethau ar gyfer cyd-fyw cadarnhaol.

Cynnwys

Rhannir y modiwl i ddarlithoedd wythnosol (2x sesiwn 1-awr yr wythnos, lle mae'r ffocws ar gynnwys - er nad yw hwn yn atal strategaethau dysgu gweithredol) a gweithdai dysgu gweithredol) a gweithdai dysgu gweithredol (1x sesiwn 2-awr pob wythnos gan gynnwys labordai ysgrifennu, sesiynau cymhwyso gwybodaeth/cyflogadwyedd, sesiwn adborth, a gweithdy adolygu) er mwyn gefnogi ymdriniaeth myfyrwyr â'r cynnwys, paratoi ar gyfer aseiniadau, a sgiliau.

Rhannir y darlithoedd i mewn i bedwar rhan, gyda sesiynau cyflwyno a chasglu'n agor a chau'r modiwl:

Cyflwyniad

Rhan I: bydoedd trefol

Rhan II: gwydnwch gwledig

Rhan III: Ymfudo

Rhan IV: Gwrthdaro a chydlyun

Casgliadau

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Gwneir; sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig ar gyfer y gwaith cwrs; sgiliau ar lafar mewn trafodaethau dosbarth ac ati.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Gwneir, drwy sesiynau cymhwyso gwybodaeth / cyflogadwyedd (2x sesiwn 2-awr).
Datrys Problemau Gwneir, drwy gynnwys y cwrs (e.e. diffinio gofodau gwledig a threfol; ystyried goblygiadau polisi).
Gwaith Tim Gwneir, drwy trafodaethau mewn grwpiau bychain yn y dosbarth
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Gwneir, drwy sesiynau ymarferol a gysylltir â'r modiwl wedi'u ffocysu ar gefnogi cynnwys a sgiliau astudio.
Rhifedd Ddim yn benodol, er mae'n bosib y daw hwn i mewn i gynnwys y cwrs ar adegau.
Sgiliau pwnc penodol Gwneir, drwy ymwneud â syniadau damcaniaethol cyfoes sy'n sail i ddadleuon cyfredol mewn daearyddiaeth wledig a threfol.
Sgiliau ymchwil Gwneir, drwy ymwneud ag ymchwil cyfredol i gynhyrchu'r traethawd ac adolygu ar gyfer yr arholiad.
Technoleg Gwybodaeth Gwneir, drwy gynhyrchu'r gwaith cwrs a defnyddio amgylcheddau dysgu rhithiol

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4