Cenedlaetholdeb a chymdeithas

Cod y Modiwl
DA32220
Teitl y Modiwl
Cenedlaetholdeb a chymdeithas
Blwyddyn Academaidd
2026/2027
Semester
Semester 1
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Professor Rhys Jones
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Dr Hywel Griffiths
Professor Rhys Jones

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Traethawd: 2000 o eiriau 50%
Asesiad Semester Briff polisi: Briff polisi sy'n gwerthuso ymyrraeth polisi mewn astudiaeth achos yn feirniadol. 2000 o eiriau 50%
Asesiad Ailsefyll Briff polisi: (5 munud) 2000 o eiriau 50%
Asesiad Ailsefyll Traethawd: 2000 o eiriau 50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. Gwerthuso'n feirniadol y syniad o gendlaetholdeb a dealltwriaethau daearyddol ohono.
  2. Trafod yn feirniadol ddehongliadau perthynol o genedlaetholdeb.
  3. Dadansoddi gwerth cysyniadau ar gyfer deall arwyddocad cenedlaetholdeb ym maes polisi.
  4. Gwerthuso ymyrraethau polisi sy'n ymwneud â chenedlaetholdeb yn feirniadol

Disgrifiad cryno

Amcan y modiwl yw i gyflwyno syniadau mwyaf blaengar ynghylch daearyddiaethau cenedlaetholdeb i fyfyrwyr. Yn y pum darlith cyntaf, cyflwynir myfyrwyr i'r syniad o'r genedlaetholdeb a dealltwriaethau daearyddol ohono yn benodol. Pwysleisir yn y rhan yma yr angen i feddwl am y genedl fel endid cymdeithasol a gofodol sydd wedi ei greu ar sail rhwydweithiau o bobl a phethau amrywiol. Yn ail hanner y modiwl, trafodir goblygiadau'r syniadaeth hon ar gyfer pum pwnc trafod o bwys academaidd a pholisi ym maes cenedlaetholdeb: y broses o greu neu adeiladu cenhedloedd; y cysylltiad rhwng cenedlaetholdeb a dinasyddiaeth; amlddiwylliannedd a hawliau lleiafrifol; y ffordd yr eir ati i frandio a gwerthu'r genedl; celfyddyd a'r genedl.

Cynnwys

Rhan 1: Cysyniadu'r genedl
Themâu: damcaniaethau cenedlaetholdeb, cenhedloedd a thiriogaethdeb, cenhedloedd a rhwydweithiau, perthynoldeb.

Rhan 2: Y genedl mewn polisi ac ar waith
Themâu: poblyddiaeth, cenedlaetholdeb a globaleiddio, amlddiwyllianedd a hawliau lleiafrifol, dinasyddiaeth, affaeth ac estheteg.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Cyfathrebu Datblygir sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig drwy'r traethawd, y poster a'r blog. Ysgogir y myfyrwyr i drin a thrafod syniadau yn y darlithoedd ond ni asesir hyn.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Golyga'r pwyslais ar astudio cenedlaetholdeb yn y byd 'go iawn' bod anogaeth ar i'r myfyrwyr i feddwl am y cysylltiadau rhwng syniadau academaidd a byd gwaith
Datrys Problemau Bydd raid i'r myfyrwyr i ddatrys problemau academaidd a pholisi wrth lunio'r traethawd, y poster a'r blog.
Gwaith Tim Ni ddatblygir hyn fel rhan o'r modiwl
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd gofyn i'r myfyrwyr i drefnu eu hamser eu hunain ac i ymchwilio ac ysgrifennu'n gyson ar gyfer y blog yn benodol
Rhifedd Ni ddatbygir y sgil hwn yn benodol
Sgiliau ymchwil Bydd raid i'r myfyrwyr i wneud ymchwil academaidd a pholisi wrth lunio'r traethawd, y poster a'r blog.
Technoleg Gwybodaeth Bydd gofyn i'r myfyrwyr feistroli technoleg gwybodaeth wrth ymchwilio ar gyfer yr aseiniadau ac, yn benodol, wrth baratoi'r poster a'r blog

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6