Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
FG12910
Teitl y Modiwl
Cynllunio Gyrfa a Datblygu Sgiliau Ffiseg
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Pre-Requisite
Gofynion mynediad ar gyfer gradd anrhydedd Ffiseg
Exclusive (Any Acad Year)
Exclusive (Any Acad Year)
Exclusive (Any Acad Year)
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll ​Cyflwyniad Unigol​  20%
Asesiad Ailsefyll Taenlen  25%
Asesiad Ailsefyll Rhaglennu Gweithdrefnol  25%
Asesiad Ailsefyll Poster Grŵp  15%
Asesiad Ailsefyll Rhaglen Ymwybyddiaeth Sgiliau.  Disgwylir i fyfyrwyr wneud 4 ymarfer: 1) Cwblhau modiwl dysgu LinkedIn ar greu proffil ar-lein cryf. 2) Creu proffil LinkedIn. 3) Ysgrifennu llythyr eglurhaol ar gyfer cais swydd o’u dewis. 4) Cyfrannu at drafodaeth grŵp gyda chynghorydd gyrfaoedd.  15%
Asesiad Semester Rhaglen Ymwybyddiaeth Sgiliau.  Disgwylir i fyfyrwyr wneud 4 ymarfer: 1) Cwblhau modiwl dysgu LinkedIn ar greu proffil ar-lein cryf. 2) Creu proffil LinkedIn. 3) Ysgrifennu llythyr eglurhaol ar gyfer cais swydd o’u dewis. 4) Cyfrannu at drafodaeth grŵp gyda chynghorydd gyrfaoedd.  15%
Asesiad Semester Taenlen  25%
Asesiad Semester Rhaglennu Gweithdrefnol  25%
Asesiad Semester Poster Grŵp  15%
Asesiad Semester ​Cyflwyniad Unigol​  20%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Dadansoddi data gan ddefnyddio taenlen i wneud cyfrifiadau.

Llunio crynodebau a siartiau o'r data yn y dadansoddiad taenlen.

Ysgrifennu rhaglen mewn iaith gyfrifiadurol weithdrefnol.

Cymhwyso pecynnau meddalwedd i baratoi dogfennau i'w cyflwyno i gynulleidfaoedd eang.

Adnabod gyrfaoedd i Ffisegwyr a sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol.

Egluro testun mewn Ffiseg drwy gyflwyniad llafar.

Cydnabod amrywiaeth, moeseg a chynaliadwyedd yn y gwyddorau ffisegol.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno'r myfyrwyr i amrywiaeth o becynnau meddalwedd: meddalwedd prosesu geiriau, meddalwedd cyflwyno, taenlenni a rhaglennu gweithdrefnol. Mae'n defnyddio syniadau mewn mathemateg a ffiseg i ddangos defnydd o'r meddalwedd a sgiliau yn y gweithle.

Yn y modiwl mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd yn darparu rhaglen ymwybyddiaeth o sgiliau fel canllaw ar gyfer paratoi ceisiadau am swyddi. Mae'r myfyrwyr yn gweithio mewn timau i ymchwilio gyrfaoedd sydd ar gael i raddedigion Ffiseg (rhoddir enghreifftiau o yrfaoedd gwyddonwyr o gefndiroedd amrywiol) a defnyddio'r meddalwedd a gyflwynwyd i baratoi poster ar eu canfyddiadau. Mae myfyrwyr hefyd yn paratoi ac yn rhoi cyflwyniad unigol byr ar destun mewn Ffiseg.

Cynnwys

Pecynnau prosesu geiriau (fel Word, Latex): cyflwyniad, dogfennau, fformatio, mynegiadau mathemategol, a chyfeiriadau llyfryddol.

Taenlenni (fel Excel): trosolwg, mewnbynnu a fformatio gwybodaeth, fformiwlâu a ffwythiannau, trin, delweddu set ddata (mawr).

Rhaglennu gweithdrefnol.

Pecynnau cyflwyno (megis Powerpoint): ar gyfer posteri ac ar gyfer cyflwyniadau llafar unigol.

Rhaglen ymwybyddiaeth sgiliau gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd yn dangos sut i baratoi dogfennau megis llythyr cyflwyno.

Poster grŵp i dynnu sylw at yrfaoedd sydd ar gael i raddedigion Ffiseg (rhoddir enghreifftiau o yrfaoedd gwyddonwyr o gefndiroedd amrywiol) a'r sgiliau a ddatblygir ar gyfer y rhain.

Cyflwyniad unigol ar destun mewn Ffiseg.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Cyfathrebu ysgrifenedig yn yr aseiniadau. Cyfathrebu llafar yn y cyflwyniadau.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Mae'r modiwl yn dangos pwysigrwydd datblygiad personol a cynllunio gyrfa ac mae'n cynnwys ymarferion ymwybyddiaeth sgiliau.
Datrys Problemau Caiff sgiliau datrys problemau eu cymhwyso yn yr aseiniadau taenlen a rhaglennu gweithdrefnol ac yn y cyflwyniad ar destun mewn Ffiseg.
Gwaith Tim Mae'r aseiniad poster yn weithgaredd grŵp.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Caiff ei annog drwy gydol y modiwl yma sy'n datblygu sgiliau.
Myfyrdod Moeseg. Arferion da mewn: Gwyddoniaeth, Addysg a'r Gweithle.
Rhifedd Defnyddir cysyniadau a thechnegau rhifyddol gyda thaenlen.
Sgiliau pwnc penodol Rhaglennu gweithdrefnol. Datrys problemau mewn ffiseg ar gyfer y cyflwyniad unigol.
Sgiliau ymchwil Caiff sgiliau ymchwil eu defnyddio i ymchwilio testun mewn Ffiseg a gyrfaoedd mewn Ffiseg.
Technoleg Gwybodaeth Mae amrywiaeth o becynnau cyfrifiadurol yn cael eu defnyddio yn y modiwl.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4