Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
HC11120
Teitl y Modiwl
Concwest, Uno a Hunaniaeth yng Nghymru 1200-1800
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Exclusive (Any Acad Year)
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Arholiad amser rhydd  1000 o eiriau  50%
Asesiad Ailsefyll Traethawd  2000 o eiriau  50%
Asesiad Semester Arholiad amser rhydd  1000 o eiriau  50%
Asesiad Semester Traethawd  2000 o eiriau  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Dangos dealltwriaeth o brif themâu hanes Cymru cyn datblygiad diwydiant sylweddol.

Dangos ymwybyddiaeth o'r deunydd darllen a'r trafodaethau ym maes hanes Cymru'r oesoedd canol a'r cyfnod modern cynnar.

Myfyrio ar a dadansoddi ffynonellau gwreiddiol am Gymru’r Oesoedd Canol a’r cyfnod modern cynnar.

Casglu a dadansoddi tystiolaeth hanesyddol a chyflwyno dadleuon ysgrifenedig wrth drafod y cyfnod.

Disgrifiad cryno

Nod yr astudiaeth hon ar Gymru'r oesoedd canol a'r cyfnod modern cynnar yw cynnig rhagarweiniad i rai o brif themau hanes Cymru cyn datblygiad diwydaint sylweddol. Ceisir olrhain prif ddatblygiadau yn hanes y wald o gyfnod grym y tywysogion yn y drydedd ganrif ar ddeg hyd at yr arwyddion cynnar o radicaliaeth wleidyddol ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Rhoddir sylw drwy gydol y cwrs i ymateb pobl Cymru i'r newidiadau o ran awdurdod a llywodraeth.

Nod

Bydd y modiwl hwn yn ychwanegu at ystod y modiwlau dewis ar gael i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf yn yr Adran. Cyflwynir myfyrwyr yn arbennig at themau pwysig yn hanes Cymru'r canol oesoedd diweddar a'r cyfnod modern cynnar

Cynnwys

DARLITHOEDD
1. Rhagarweiniad
2. Cymru’r Oesoedd Canol: gwlad ranedig?
3 Tywysogaeth Llywelyn ap Gruffudd
4. Concwest 1282
5. Canlyniadau’r Goncwest
6. Herio’r goncwest: Owain Glyndŵr
7. Disgwyl ‘y Mab Darogan’
8. Y Tuduriaid ac Uno Cymru a Lloegr
9. Hunaniaeth wedi’r Uno: y Dadeni a pharhad yr iaith Gymraeg
10. Hunaniaeth wedi’r Uno: Y Diwygiad Protestannaidd
11. Glynu wrth y gorffennol: arferion a chredoau poblogaidd
12. Hunaniaeth newydd?: twf anghydffurfiaeth grefyddol
13. Hen hunaniaeth?: Cymru, y frenhiniaeth a’r Rhyfel Cartref
14. Hen hunaniaeth?: adfer awdurdod
15. Seiliau’r Gymru fodern: addysg a llythrennedd yn y ddeunawfed ganrif
16. Seiliau’r Gymru fodern: y Diwygiad Methodistaidd
17. Seiliau’r Gymru fodern: adfywiad diwylliannol y ddeunawfed ganrif
18 Creu Cymreictod?

SEMINARAU
Seminar 1: Llywelyn ap Gruffudd
Seminar 2: Gwrthryfel Glyndŵr
Seminar 3: Cymru a’r Gymraeg yn yr unfed ganrif ar bymtheg
Seminar 4: Y Diwygiad Methodistaidd
Seminar 5: Adfywiad Diwylliannol y Ddeunawfed Ganrif

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Trwy drafodaeth mewn seminar a throsglwyddo gwybodaeth mewn traethawd ac arholiad
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu sgiliau trosglwyddadwy megis sgiliau rheoli amser, sgiliau cyfathrebu a sgiliau dadansoddi.
Datrys Problemau Disgwylir i fyfyrwyr fedru trin a thrafod problemau hanesyddol ac ymgymryd ag ymchwil briodol wrth baratoi ar gyfer seminarau a gwaith ysgrifenedig
Gwaith Tim Cymryd rhan mewn gweithgareddau seminar a deall sut i weithredu ar y cyd gydag aelodau eraill o’r grŵp
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Datblygu sgiliau trefnu drwy reoli amser a chyflwyno gwaith yn brydlon. Gwneud defnydd o adborth ar waith a gyflwynir er mwyn gwella’r perfformiad.
Sgiliau pwnc penodol Datblygu’r gallu i werthuso ffynonellau perthnasol i’r cyfnod a’r maes ynghyd â’r gallu i ymdrin yn feirniadaol â’r llenyddiaeth eilaidd.
Sgiliau ymchwil Defnyddio amryw o gyfryngau gwahanol er mwyn ffurfio barn feirniadol
Technoleg Gwybodaeth Bydd defnydd o adnoddau arlein yn rhan hanfodol o ddulliau dysgu’r modiwl hwn a bydd felly’n rhoi cyfle i fyfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau wrth, er enghraifft, gwneud defnydd o fyrddau trafod ar Blackboard.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4