Llydaweg: Cyflwyniad
- Cod y Modiwl
- LL11100
- Teitl y Modiwl
- Llydaweg: Cyflwyniad
- Blwyddyn Academaidd
- 2026/2027
- Semester
- Semester 1 Dysgwyd dros 2 semester
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- To Be Arranged
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Ymarferion: Pecyn o ymarferion wythnosol (8 eitem). | 30% |
| Asesiad Semester | Arholiad Llafar: 10 Munud | 20% |
| Arholiad Semester | Arholiad: 2 Awr 2 Awr | 50% |
| Asesiad Ailsefyll | Arholiad Llafar: 10 Munud | 20% |
| Asesiad Ailsefyll | Ymarferion: Pecyn o ymarferion (8 eitem). | 30% |
| Arholiad Ailsefyll | Arholiad: 2 Awr 2 Awr | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- Dylai'r myfyrwyr fedru defnyddio'r amser gorffennol agos/perffaith a'r amser gorffennol pell/gorberffaith a hefyd rai ffurfiau berfol amser presennol.
- Dylai fedru defnyddio'r iaith ar lafar ac yn ysgrifenedig, a medru ei darllen ar lefel elfennol.
- Dylai'r myfyrwyr fedru defnyddio amser presennol parhaol y ferf bezon ac amser presennol arferiadol amryw ferfau eraill, rheolaidd ac afreolaidd.
- Dylai fedru'r iaith ar lafar ac yn ysgrifenedig a medru mynd i'r afael a^ thestunau elfennol yn yr iaith.
Disgrifiad cryno
Cyflwynir teithi sylfaenol Llydaweg Modern. Cyflwyniad i Lydaweg cyfoes. Amcan y cwrs yw galluogi'r myfyriwr i gynnal sgwrs elfennol yn yr iaith ac i ddechrau ei hysgrifennu a'i darllen, ynghyd â a chyflwyno gwybodaeth gefndirol am Lydaw a'i llenyddiaeth. Bydd myfyrwyr yn cyrraedd safon A2 (CEFR; Common European Framework of Reference for Languages).
Cynnwys
1. amser gorffennol agos/perffaith
2. amser gorffennol pell/gorberffaith
3. ffurfiau berfol amser presennol.
4. amser presennol parhaol y ferf bezon
5. amser presennol arferiadol amryw ferfau rheolaidd ac afreolaidd.
Seilir yr arholiadau ar yr hyn sydd yng ngwersi Kentelioù Brezhoneg Diazez.
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Trafod materion gramadegol yn y gweithdai ; medru egluro gwallau gramadegol yn yr aseiniadau ac yn yr arholiad. |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd y gweithdai yn rhoi cyfle i fyfyrwyr drafod ymarferion iaith a darnau i’w cyfieithu; bydd y pecyn o dasgau yn caniatáu i fyfyrwyr fesur eu perfformiad a’u datblygiad personol. |
| Datrys Problemau | Ymateb i heriau technegol y rheolau gramadegol a’r ymarferion gramadegol unigol; anelu at gywirdeb gramadegol |
| Gwaith Tim | Ceir cyfle i drafod mewn grŵp yn ystod gweithdai. |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd y gweithdai yn rhoi cyfle i fyfyrwyr drafod ymarferion iaith a darnau i’w cyfieithu; bydd y pecyn o dasgau yn caniatáu i fyfyrwyr fesur eu perfformiad a’u datblygiad personol. |
| Rhifedd | Amherthnasol. |
| Sgiliau pwnc penodol | Mae’r sgiliau gramadegol a ddatblygir yn rhai trosglwyddadwy a fydd o ddefnydd i fyfyrwyr yn y brifysgol ac yn y gweithle. |
| Sgiliau ymchwil | Ymchwilio er mwyn atgyfnerthu’r rheolau gramadegol a ddysgir yn y dosbarth. |
| Technoleg Gwybodaeth | Defnyddir rhaglen prosesu geiriau i gynhyrchu’r tasgau. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4
Welsh and Celtic Studies,Aberystwyth University, Parry-Williams Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622137 : +44 : +44 (0)1970 622021
cymraeg@aber.ac.uk: cymraeg@aber.ac.uk
