Datblygiad Iaith yn y Blynyddoedd Cynnar
- Cod y Modiwl
- AD14320
- Teitl y Modiwl
- Datblygiad Iaith yn y Blynyddoedd Cynnar
- Blwyddyn Academaidd
- 2027/2028
- Semester
- Semester 2
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Mrs Bethan Bleddyn
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Dr Sian Lloyd-Williams
- Dr Rhodri Evans
- Mr Prysor Davies
- Dr Rosemary Cann
- Mr Gwilym Ap Gruffudd
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Prawf ar-lein: Asesiad o derminoleg | 10% |
| Asesiad Semester | Traethawd: Dadansoddiad o iaith 1500 o eiriau | 50% |
| Arholiad Semester | Cyflwyniad: 6 Awr Cyflwyniad 7-8 munud wedi ei seilio ar leoliad 6 Awr | 40% |
| Asesiad Ailsefyll | Prawf ar-lein: Asesiad o derminoleg | 10% |
| Asesiad Ailsefyll | Cyflwyniad: Cyflwyniad 7-8 munud ar bwnc gwahanol | 40% |
| Asesiad Ailsefyll | Traethawd: 1500 o eiriau | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- Arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o gamau a nodweddion datblygiad iaith plant, gan gynnwys datblygu mwy nag un iaith.
- Arddangos ymgysylltiad beirniadol â dulliau damcaniaethol o ddatblygiad iaith plant a defnydd plant ifanc o leferydd egocentrig.
- Arddangos gwybodaeth am arferion cyfredol wrth gefnogi datblygiad iaith plant.
- Ystyried pwysigrwydd o ddatblygu ymwybyddiaeth iaith yn y blynyddoedd cynnar.
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl hwn yn trafod datblygiad iaith plant ifanc. Edrychir ymhellach ar faterion allweddol yn ymwneud â materion a allai effeithio ar ddatblygiad iaith. Bydd yr wythnosau cyntaf yn cyflwyno myfyrwyr i'r blociau a'r damcaniaethau adeiladu sylfaenol sy'n ymwneud â datblygiad iaith uniaith a dwyieithog. Bydd y modiwl hefyd yn mynd i'r afael ag anghenion plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol neu Saesneg fel iaith ychwanegol ac yn trafod sut y gall rhoddwyr gofal ac ymarferwyr gynnig cymorth i blant gyda'u datblygiad ieithyddol.
Cynnwys
Bydd y sesiynau yn seiliedig ar y canlynol:
1. Dechrau iaith- Beth yw Iaith
2. Cyfnodau o ddatblygiad iaith 1
3. Cyfnodau o ddatblygiad iaith 2 a Sgiliau iaith
4. Datblygu mwy nag un iaith
5. Damcaniaethau datblygiad iaith a lleferydd egocentric
6. Cefnogi datblygiad iaith - Saesneg fel iaith ychwanegol
7. Cefnogi datblygiad iaith – Anghenion Dysgu Ychwanegol
7. Cefnogi datblygiad iaith – ADY
8. Ymwybyddiaeth Iaith
Yn ystod wythnosau 9 a 10, bydd myfyrwyr yn cwblhau lleoliadau. Ar gyfer y rhai nad ydynt ar leoliad bydd sesiynau cyflogadwyedd yn cael eu cynnal.
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Bydd y myfyrwyr yn: 1) cyfathrebu'n effeithiol â phlant tra byddant ar leoliad; 2) ysgrifennu aseiniad academaidd a sicrhau cyflwyniad ffurfiol. |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Mae profiad lleoliad yn gwella cyflogadwyedd. Bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i fyfyrio a gwerthuso eu sgiliau |
| Datrys Problemau | Bydd myfyrwyr yn adnabod, yn dethol ac yn dadansoddi enghreifftiau o iaith plant o’u hymarfer. |
| Gwaith Tim | Bydd gwaith tîm, ar ffurf ymddygiadau proffesiynol allweddol yn ystod eu lleoliad, yn sgìl pwysig a fydd yn cael ei ddatblygu drwy gydol y modiwl |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | 1) bydd adborth o aseiniad 2 yn llywio perfformiad myfyrwyr yn aseiniad 3. 2) bydd gweithio gydag ymarferwyr ar leoliad yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau proffesiynol. |
| Rhifedd | Dadansoddiad o nodweddion iaith.Ystadegau disgrifiadol achlysurol mewn darlithoedd a ffynonellau. |
| Sgiliau pwnc penodol | Mae deall a chefnogi datblygiad iaith yn sgiliau allweddol ar gyferymarferwyr blynyddoedd cynnar. |
| Sgiliau ymchwil | Bydd y myfyrwyr yn ymchwilio i lenyddiaeth berthnasol ac yn defnyddio CHILDES i gyrchu enghreifftiau o iaith y plant. |
| Technoleg Gwybodaeth | Defnydd o CHILDES. Bydd aseiniadau ysgrifenedig yn cael eu cyflwyno gyda prosesydd geiriau a bydd y myfyrwyr yn defnyddio TGCh i ymchwilio |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4
Education,Aberystwyth University, Penbryn 5, Penglais Campus, Aberystwyth, Ceredigion,
01970 622103 : +44 : +44 (0)1970 622021
add-ed@aber.ac.uk: add-ed@aber.ac.uk
