Cyfathrebu

Cod y Modiwl
AD34720
Teitl y Modiwl
Cyfathrebu
Blwyddyn Academaidd
2027/2028
Semester
Semester 2
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Mrs Bethan Bleddyn
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Rhagofynion
AD14320 neu ED14320 neu AD14320 neu ED14320
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Mr Prysor Davies
Dr Rhodri Evans
Dr Rosemary Cann

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Portffolio myfyriol a gwerthusol: 2400 o eiriau 60%
Arholiad Semester Cyflwyniad: 6 Awr 6 Awr 40%
Asesiad Ailsefyll Portffolio myfyriol a gwerthusol: 2400 o eiriau 60%
Asesiad Ailsefyll Cyflwyniad: 8 Munud 40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. Dangos dealltwriaeth feirniadol o egwyddorion allweddol cyfathrebu mewn lleoliad blynyddoedd cynnar.
  2. Datblygu a myfyrio ynghylch yr ystod o sgiliau cyfathrebu sydd eu hangen mewn lleoliad blynyddoedd cynnar.
  3. Deall sut i arwain gwaith i ddatblygu prosesau cyfathrebu effeithiol mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar.

Disgrifiad cryno

Yn y modiwl hwn, bydd myfyrwyr yn archwilio amrywiaeth o sgiliau cyfathrebu sydd eu hangen o fewn lleoliad blynyddoedd cynnar. Mae’r rhain yn cynnwys addasu dulliau cyfathrebu i wahanol bobl a sefyllfaoedd, darllen iaith y corff, defnyddio iaith gadarnhaol, gwrando effeithiol a chyfrinachedd.

Cynnwys

Bydd y darlithoedd a’r seminarau yn seiliedig ar y pethau canlynol:

1. Beth yw cyfathrebu?
2. Gwrando effeithiol
3. Cyfathrebu di-eiriau
4. Cyfathrebu ysgrifenedig
5. Systemau cyfathrebu sy’n canolbwyntio ar bobl/plant
6. Addasu eich cyfathrebu eich hun
7. Cloriannu systemau cyfathrebu
8. Cofnodi ac adrodd
9. Arwain systemau cyfathrebu effeithiol
10. Rhoi systemau cyfathrebu effeithiol ar waith

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Cyfathrebu Mae technegau cyfathrebu yn elfen hanfodol trwy gydol darlithoedd a seminarau. Cyfathrebu ar lafar trwy gydol y gweithgareddau seminar. Cyfathrebu ysgrifenedig trwy gydol yr aseiniadau ysgrifenedig. Bydd y myfyrwyr yn cloriannu ac yn myfyrio ar eu sgiliau eu hunain.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Anogir myfyrwyr i fyfyrio ynghylch eu sgiliau, a’u cloriannu
Datrys Problemau Elfen hanfodol o’r broses o asesu’n feirniadol
Gwaith Tim Bydd gwaith tîm, ar ffurf ymddygiadau proffesiynol allweddol a threfniadau gweithio rhyngddisgyblaethol, yn sgìl bwysig a fydd yn cael ei ddatblygu drwy gydol y modiwl
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Adborth ar yr aseiniad ysgrifenedig a myfyrio personol.
Rhifedd Ystadegau disgrifiadol achlysurol mewn darlithoedd a ffynonellau.
Sgiliau pwnc penodol Bydd myfyrwyr yn cael eu herio a’u hannog i ddatblygu ystod o sgiliau proffesiynol
Sgiliau ymchwil Bydd angen ymchwilio ar gyfer y prif asesiadau a rhai o’r tasgau seminar.
Technoleg Gwybodaeth Bydd aseiniadau ysgrifenedig wedi’u geirbrosesu a bydd myfyrwyr yn defnyddio TGCh i wneud ymchwil

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6