Datblygiad Emosiynol a Chymdeithasol

Cod y Modiwl
AD34820
Teitl y Modiwl
Datblygiad Emosiynol a Chymdeithasol
Blwyddyn Academaidd
2027/2028
Semester
Semester 2
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Mrs Annabel Latham
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Dr Lucy Trotter
Mr Prysor Davies
Dr Rosemary Cann

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Traethawd: 2400 o eiriau 60%
Arholiad Semester Poster (A3) ac amddiffyniad llafar (10 munud): 6 Awr 6 Awr 40%
Asesiad Ailsefyll Poster (A3) ac amddiffyniad llafar (10 munud): 10 Munud 40%
Asesiad Ailsefyll Traethawd: 2400 o eiriau 60%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. Dangos dealltwriaeth feirniadol o brif egwyddorion datblygiad cymdeithasol ac emosiynol a’u heffaith ar ddysgu.
  2. Deall y cysylltiad rhwng lles cymdeithasol ac emosiynol ac iechyd meddwl yn ystod plentyndod cynnar.
  3. Adnabod y dangosyddion allweddol ar gyfer datblygiad cymdeithasol ac emosiynol a’u defnyddio i gefnogi dysgu, iechyd meddwl a lles plant yn y dyfodol.

Disgrifiad cryno

Mae ymchwil cynnyddol yn cydnabod y sylfaen hanfodol sy'n gysylltiedig â datblygiad cymdeithasol ac emosiynol a sut mae profiadau plant yn y blynyddoedd cynnar yn llywio dysgu, datblygiad a chanlyniadau yn y dyfodol. Bydd amrywiaeth o benderfynyddion sy'n rhwystro datblygiad iach yn cael eu gwerthuso ar y cyd â dangosyddion allweddol o ddatblygiad hapus, iach. Mae angen i ymarferwyr allu cefnogi dysgu cymdeithasol ac emosiynol plant a gweithredu dulliau addysgegol i adeiladu ac ymateb i gymdeithas amrywiol sy'n newid. Bydd meithrin sgiliau a chymwyseddau gydol oes wrth baratoi ar gyfer gwaith, ac i gryfhau gweithrediad cymdeithasol cadarnhaol yn cael sylw drwy archwilio tueddiadau a disgwyliadau cymdeithasol. Bydd polisïau cenedlaethol a rhyngwladol yn cael eu harchwilio a'u gwerthuso ochr yn ochr â theori ac ymarfer.

Cynnwys

Bydd y darlithoedd a’r seminarau yn seiliedig ar y pethau canlynol:

1. Cefnogi datblygiad corfforol, gwybyddol, cymdeithasol ac emosiynol I
2. Cefnogi datblygiad corfforol, gwybyddol, cymdeithasol ac emosiynol II
3. Iechyd Meddwl
4. Cerrig milltir, ffactorau risg a strategaethau
5. Canlyniadau Cadarnhaol a Safbwyntiau Rhyngwladol
6. Partneriaethau
7. Meithrin perthynas gadarnhaol
8. Yr amgylchedd
9. Asesu datblygiad cymdeithasol ac emosiynol / Casglu data yn effeithiol
10. Monitro a gwerthuso darpariaeth

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Cyfathrebu Mae technegau cyfathrebu yn hanfodol. Cyfathrebu llafar fel rhan o'r asesiad, ac o fewn gweithgareddau gweithdy a seminar. Cyfathrebu ysgrifenedig drwy asesiadau ysgrifenedig.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i fyfyrio ar eu sgiliau a'u gwerthuso ac ystyried sut y gellir trosglwyddo sgiliau i amgylcheddau gwaith yn y byd go iawn.
Datrys Problemau Elfen hanfodol o’r broses o asesu’n feirniadol
Gwaith Tim Bydd gwaith tîm, ar ffurf ymddygiadau proffesiynol allweddol a gweithdrefnau gweithio rhyngddisgyblaethol, yn sgil bwysig a fydd yn cael ei ddatblygu drwyddi draw.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Adborth ar gyfer yr aseiniad ysgrifenedig a myfyrio personol yn ystod tasgau seminar
Rhifedd Ystadegau disgrifiadol achlysurol mewn darlithoedd a ffynonellau.
Sgiliau pwnc penodol Bydd myfyrwyr yn cael eu herio a’u hannog i ddatblygu ystod o sgiliau proffesiynol.
Sgiliau ymchwil Mae angen ymchwil ar gyfer y prif asesiadau a bydd ei angen ar gyfer y tasgau seminar a gweithdy.
Technoleg Gwybodaeth Dylid geirbrosesu aseiniadau ysgrifenedig a bydd myfyrwyr yn defnyddio TGCh i wneud gwaith ymchwil.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6