Lleoliad Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar Blwyddyn 3
- Cod y Modiwl
- AD35860
- Teitl y Modiwl
- Lleoliad Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar Blwyddyn 3
- Blwyddyn Academaidd
- 2027/2028
- Semester
- Semester 1
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Mr Berian Lewis
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Mrs Annabel Latham
- Mr Prysor Davies
- Dr Rosemary Cann
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Portffolio: (sy'n cynnwys is-unedau asesedig a sesiynau a aseswyd) 12000 o eiriau | 100% |
| Asesiad Ailsefyll | Portffolio: (sy'n cynnwys is-unedau asesedig a sesiynau a aseswyd) Rhaid ailwneud yr elfennau a fethwyd.) 12000 o eiriau | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- 1. Integreiddio safbwyntiau damcaniaethol wrth gyflwyno ymarfer proffesiynol, gan gynnwys sgiliau arwain.
- 2. Bodloni a dangos tystiolaeth o'r safonau galwedigaethol cenedlaethol ar gyfer ymarferwyr blynyddoedd cynnar (mae'r SGC ar gyfer yr Amcanion Dysgu yma yn fwy datblygedig na'r rhai a aseswyd ym mlwyddyn 2 gan ganolbwyntio ar rinweddau arwain).
- 3. Ystyried a gwerthuso goblygiadau canfyddiadau ymchwil ar gyfer datblygu yn bersonol ac o fewn y proffesiwn yn y dyfodol.
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl yn annog myfyrwyr i gymryd perchnogaeth o'u datblygiad personol, proffesiynol ac academaidd a defnyddio hyn i wella eu hymarfer. Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr gadw portffolio o dystiolaeth i ddangos eu gallu i fodloni'r safonau galwedigaethol cenedlaethol ar gyfer ymarferwyr blynyddoedd cynnar. Bydd myfyrio beirniadol mewn perthynas ag arfer cyfredol a rolau proffesiynol yn rhan annatod o'r portffolio. Anogir gwerthuso canfyddiadau ymchwil cyfredol ac archwilio'r posibiliadau a'r goblygiadau ar gyfer datblygu yn bersonol ac o fewn y proffesiwn yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn cael goruchwyliwr prifysgol a mentor lleoliad.
Cynnwys
Cysyniadau allweddol mewn dysgu seiliedig ar waith (gweithdy 2 awr)
Gweithdy Ymholiadau Proffesiynol (2 awr)
Arweinyddiaeth mewn Ymarfer (2 awr)
Strwythuro'r portffolio (2 awr)
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Addasrwydd a gwydnwch | Bydd y gallu i fyfyrio ar eich cynnydd eich hun a nodi a gweithredu ar eich anghenion datblygu eich hun yn hanfodol drwy gydol y modiwl hwn. |
| Cydlynu ag erail | Tra byddant allan ar leoliad, bydd yn ofynnol i fyfyrwyr weithio gydag eraill a myfyrio ar hyn yn eu portffolio. |
| Cyfathrebu proffesiynol | Bydd y gallu i gyfathrebu'n glir, ar lafar ac yn ysgrifenedig, yn elfen hanfodol o'r portffolio. Bydd angen i fyfyrwyr ddatblygu dadl resymegol a chlir a dangos dawn ar gyfer defnyddio gwybodaeth yn effeithiol mewn ffordd uniongyrchol a phriodol. |
| Datrys Problemau Creadigol | Bydd angen i fyfyrwyr ddangos effeithlonrwydd wrth drefnu symiau mawr o wybodaeth gymhleth a'r gallu i nodi, disgrifio a dadansoddi nodweddion allweddol y wybodaeth. |
| Gallu digidol | Bydd angen i fyfyrwyr ddefnyddio TGCh briodol drwy gydol eu portffolio, yn enwedig yn achos dadansoddi data. Bydd angen i fyfyrwyr weithio gyda neu gyflwyno data lle bo hynny'n briodol. |
| Meddwl beirniadol a dadansoddol | Bydd angen i fyfyrwyr ddefnyddio sgiliau ymchwil er mwyn archwilio'r arferion y maent yn eu cynnwys yn y portffolio. |
| Myfyrdod | Bydd angen i fyfyrwyr fyfyrio'n barhaus ar eu hymarfer eu hunain ac ystyried eu datblygiad personol. |
| Sgiliau Pwnc-benodol | Bydd angen i fyfyrwyr ddangos y sgiliau angenrheidiol ar gyfer gweithio mewn practis proffesiynolSgiliau Arweinyddiaeth: Cymhwyso theori i ymarfer |
| Synnwyr byd go iawn | Cynllunio Gyrfa a Datblygiad Proffesiynol: Mae ymholiad proffesiynol i ymagweddau pedagogaidd i wella ymarfer yn gofyn am allu i addasu a hyblygrwydd o fewn amgylcheddau sy'n benodol i gyd-destun. Mae ymchwil annibynnol, rheoli amser, hunan-gyfrifoldeb a hunanfyfyrio yn cael eu datblygu ac yn cefnogi dilyniant gyrfa ac astudiaethau ôl-raddedig. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6
Education,Aberystwyth University, Penbryn 5, Penglais Campus, Aberystwyth, Ceredigion,
01970 622103 : +44 : +44 (0)1970 622021
add-ed@aber.ac.uk: add-ed@aber.ac.uk
