Anghenion Dysgu Ychwanegol - Rhagoriaeth mewn Ymarfer

Cod y Modiwl
ADM3520
Teitl y Modiwl
Anghenion Dysgu Ychwanegol - Rhagoriaeth mewn Ymarfer
Blwyddyn Academaidd
2027/2028
Semester
Semester S
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Dr Andrew James Davies
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Dr Lucy Trotter
Mr Prysor Davies
Dr Megan Hicks
Mr Berian Lewis
Dr Rosemary Cann
Mr Gwilym Ap Gruffudd

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Asesiad ADM3520: Cynllun gweithredu i oresgyn rhwystrau i ddulliau lleoliad cyfan o ran cynhwysiant 4000 o eiriau 100%
Asesiad Ailsefyll Asesiad ADM3520: Cynllun gweithredu i oresgyn rhwystrau i ddulliau lleoliad cyfan o ran cynhwysiant 4000 o eiriau 100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. 1. Ymgysylltu’n feirniadol â dulliau lleoliad cyfan o weithredu cynhwysiant dysgwyr ag ADY.
  2. 2. Dadansoddi cryfderau a gwendidau prosesau cynhwysiant lleoliad cyfan yng nghyd-destun eu lleoliad.
  3. 3. Myfyrio’n feirniadol ar y sgiliau angenrheidiol i ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol a’u herio i gyflawni newid.
  4. 4. Dadansoddi’r heriau allweddol sy’n creu rhwystrau i ddulliau lleoliad cyfan o gyflawni cynhwysiant.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio ar arwain dulliau lleoliad cyfan ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol. Bydd y modiwl yn gofyn bod myfyrwyr yn myfyrio ar sut y gellir gweithredu newid i wella addysg gynhwysol ledled eu lleoliadau. Bydd myfyrwyr yn dadansoddi enghreifftiau o arfer gorau ac yn myfyrio ar sut y gellir cymhwyso'r rhain i'w lleoliad eu hunain. Bydd myfyrwyr yn ennill dealltwriaeth o sut y gallant arwain newid cadarnhaol yn eu lleoliadau er mwyn gwella ymarfer cynhwysol. Bydd myfyrwyr yn datblygu'r sgiliau sydd eu hangen i ddangos rhagoriaeth mewn ymarfer fel CADY.

Nod

Nod y modiwl hwn yw:
1. Rhoi dealltwriaeth gref i fyfyrwyr o ran strategol y CADY wrth weithredu arfer gorau;
2. Pennu'r sgiliau a'r cryfderau allweddol sydd eu hangen ar gyfer gweithio'n effeithiol mewn partneriaeth ledled sefydliadau
3. Gwerthuso ymarfer ystafell ddosbarth, ymyriadau a strategaethau o drafod dros gynhwysiant ledled y lleoliad;
4. Archwilio'n feirniadol egwyddorion allweddol cynhwysiant a sut y mae modd adlewyrchu'r egwyddorion hyn mewn dull lleoliad cyfan.

Cynnwys

● Archwilio enghreifftiau o ddulliau lleoliad cyfan o ymarfer cynhwysol;
● Dulliau ac arddulliau arwain a rheoli;
● Nodi rhwystrau i ymarfer cynhwysol;
● Lleoli dulliau lleoliad cyfan o weithredu cynhwysiant yng nghyd-destun polisi ADY Cymru;
● Defnyddio adnoddau effeithiol i sicrhau darpariaeth ar gyfer ADY ledled y sefydliad;
● Myfyrio ar gryfderau personol a meysydd i’w datblygu.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Cydlynu ag erail Mae’r holl asesiadau wedi’u cynllunio i’w gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr ddangos sut y gallant ddatrys problemau o ran eu hymarfer, a sut y gallant ddefnyddio tystiolaeth, cynllunio camau gweithredu a myfyrio i ddatrys problemau yn annibynnol a thrwy gydweithio â chymheiriaid.
Meddwl beirniadol a dadansoddol Bwriad holl gynnwys y modiwl yw herio myfyrwyr i ailystyried yr hyn y maent yn credu eu bod yn ei wybod, mabwysiadu meddylfryd beirniadol a bod yn barod i addasu’r hyn y maent yn ei wneud yng ngoleuni’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth newydd y maent yn eu cael yn ystod y modiwl.
Sgiliau Pwnc-benodol Caiff myfyrwyr eu cyflwyno i’r llenyddiaeth graidd, y dystiolaeth a’r technegau ymholi mewn cysylltiad â phwnc y modiwl, a disgwylir iddynt ymgysylltu’n feirniadol â nhw. Mae hyn er mwyn dangos y defnydd priodol o ymchwil ac ysgolheictod yn eu harfer eu hunain a’u gwerthusiad beirniadol o hynny, er mwyn ennyn dealltwriaeth ddyfnach o’r pwnc fel y mae’n berthnasol i weithwyr proffesiynol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7