Sgiliau ar gyfer Biolegwyr
- Cod y Modiwl
- BG16820
- Teitl y Modiwl
- Sgiliau ar gyfer Biolegwyr
- Blwyddyn Academaidd
- 2027/2028
- Semester
- Semester 2 Dysgwyd dros 2 semester
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Dr Arwyn Edwards
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Dr Ruth Wonfor
- Dr Dylan Gwynn Jones
- Dr Ifat Shah
- Professor David Whitworth
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Cyflwyniad llafar grwp: 5 Munud | 35% |
| Asesiad Semester | Adroddiad: 2000 o eiriau | 65% |
| Asesiad Ailsefyll | Cyflwyniad llafar: 5 Munud | 35% |
| Asesiad Ailsefyll | Adroddiad: 2000 o eiriau | 65% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- Cyfleu gwybodaeth a syniadau ar ffurf cyflwyniadau llafar ac ysgrifenedig.
- Datblygu dadl resymegol a herio rhagdybiaethau.
- Ffurfio damcaniaethau a chwestiynau ymchwil, ymgymryd â chasglu data, a llunio dadleuon academaidd.
- Adnabod ffynonellau data ac adnoddau gwybodaeth priodol.
- Meithrin ymddygiad academaidd priodol (e.e. osgoi arfer annerbyniol).
- Dehongli a defnyddio data.
- Arddangos llythrennedd cyfrifiadurol sylfaenol.
- Dilyn protocol arbrofol
- Cofnodi, dehongli ac adrodd ar ddata arbrofol yn briodol
- Cyflwyno data/cysyniadau trwy amrywiaeth o gyfryngau
Disgrifiad cryno
Bwriad y modiwl yw paratoi myfyrwyr gyda'r sgiliau allweddol angenrheidiol ar gyfer gyrfa academaidd a phroffesiynol lwyddiannus megis rheoli amser, meddwl yn feirniadol a dysgu myfyriol. Agwedd bwysig o'r modiwl yw i roi cyflwyniad i ystod o faterion ymchwil megis gwerthuso llenyddiaeth, asesu data ansoddol a meintiol a chyfathrebu llafar, gweledol ac ysgrifenedig. Cyflwynir cynnwys y modiwl drwy amrywiaeth o fformatau gan gynnwys darlithoedd, gweithdai, e-ddysgu a thiwtorialau. Yn semester 2 bydd myfyrwyr yn ymgymryd â chyfres o arbrofion cysylltiedig a fydd yn datblygu sgiliau ymarferol sylfaenol sydd eu hangen ar gyfer ymchwil ar draws bioleg. Datblygir sgiliau gweithio mewn grŵp trwy diwtorialau, a fydd hefyd yn rhoi arweiniad ar gyflwyno/dehongli data arbrofol.
Nod
Trwy gyfuniad o ddarlithoedd rhagarweiniol ffurfiol, wedi'u hategu gan sesiynau tiwtorial gyda thiwtoriaid personol, nod y modiwl yw cyflwyno myfyrwyr i a gwella eu sgiliau astudio a chyfathrebu. Mae’r rhain yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i: Sgiliau ysgrifennu a chyflwyno, Gwerthuso ffynonellau gwybodaeth, Meddwl yn feirniadol, rhesymu anwythol a diddwythol, Moeseg ymchwil a Thrin a dadansoddi data
Mae angen cyflwyniad cynnar i set o sgiliau labordy moleciwlaidd sylfaenol ar fyfyrwyr sy'n astudio gwyddorau biolegol. Bydd y modiwl hwn hefyd yn defnyddio cyfres o arbrofion integredig i gyflwyno myfyrwyr i'r technegau sylfaenol hyn. Bydd sgiliau gweithio mewn grŵp yn cael eu datblygu trwy diwtorialau, a fydd hefyd yn darparu arweiniad ar gyfer cyflwyno/dehongli data arbrofol.
Cynnwys
Semester 1
x5 o ddarlithoedd 1 awr rhagarweiniol ffurfiol dros 5 wythnos gyntaf semester 1
6 sesiwn tiwtorial 2 awr ar draws y Semester (heb ei amserlennu'n ganolog)
Semester 2
6 sesiwn tiwtorial 2 awr ar draws y Semester (heb ei amserlennu'n ganolog)
Yn wythnos 1, bydd myfyrwyr yn mynychu cyfres o ddosbarthiadau labordy cysylltiedig bob prynhawn
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Addasrwydd a gwydnwch | Y tu allan i'r oriau cyswllt ffurfiol, bydd disgwyl i fyfyrwyr ymchwilio i ddeunyddiau, rheoli amser a chwrdd â therfynau amser. Bydd yr elfennau astudio dan gyfarwyddyd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr archwilio eu harddulliau a'u hoffterau dysgu eu hunain a nodi eu hanghenion a'u rhwystrau i ddysgu. Bydd myfyrwyr yn gallu adolygu a monitro eu cynnydd a chynllunio ar gyfer gwella perfformiad personol. |
| Cydlynu ag erail | Gwneir yr ymchwil ar gyfer y prosiect mewn grwpiau tiwtor personol i gyflwyno myfyrwyr i'r cysyniadau o weithio mewn tîm, ac, yn seiliedig ar adborth gan y grŵp, mae'n ofynnol i diwtoriaid roi sylwadau ar gyfraniad aelodau unigol o'r grŵp tuag at gyflawni'r allbynnau grŵp gofynnol. |
| Cyfathrebu proffesiynol | Mae'r traethawd ffurfiannol, adroddiad prosiect a chyflwyniad seminar, gyda'r adborth manwl a ddarperir gan diwtoriaid personol, wedi'u cynllunio i helpu i ddatblygu a gwella sgiliau cyfathrebu. |
| Datrys Problemau Creadigol | Gellir cyflwyno myfyrwyr i gysyniadau datrys problemau wrth ddatblygu’r ddamcaniaeth i danategu eu prosiect ymchwil, ond ni fydd datrys problemau yn elfen bwysig o ddatblygu sgiliau yn y modiwl hwn. |
| Gallu digidol | Ar draws yr aseiniadau amrywiol, mae gofyn i fyfyrwyr ddangos defnydd effeithiol o ystod o becynnau meddalwedd TG perthnasol (Word, Excel, PowerPoint). |
| Meddwl beirniadol a dadansoddol | Bydd gofyn i fyfyrwyr gynllunio a chyflawni prosiect ymchwil bach a chynhyrchu adroddiad academaidd briodol lle bydd disgwyl iddynt hefyd wneud sylwadau beirniadol ar y dulliau arbrofol a fabwysiadwyd. |
| Sgiliau Pwnc-benodol | Cymhwyso rhif: Casglu a chraffu ar ddata o ran ansawdd a swm. Dehongli data. Bydd cysyniadau pwnc-benodol yn ymwneud â biocemeg, geneteg a microbioleg yn cael eu datblygu. Bydd myfyrwyr yn gallu dangos dealltwriaeth o arbrofi mewn labordy, a defnyddio dulliau labordy cyffredin yn briodol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4
Life Sciences,Aberystwyth University, Edward Llwyd Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622315 : +44 : +44 (0)1970 622021
ibtstaff@aber.ac.uk: ibtstaff@aber.ac.uk
