Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
BG17220
Teitl y Modiwl
Sgiliau ar gyfer Biowyddonwyr Anifeiliaid, Ceffylau a Milfeddygol mewn Ffisioleg Ymarfer Corff Ceffy
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Adroddiad Prosiect  2000 o eiriau  70%
Asesiad Ailsefyll Cyflwyniad  5 Munud  30%
Asesiad Semester Cyflwyniad  5 Munud  30%
Asesiad Semester Adroddiad Prosiect  2000 o eiriau  70%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Disgrifio ffisioleg ymarfer corff a hyfforddiant

Ymchwilio i ddewis a hyfforddi'r athletwr geffyl

Cydnabod sut y gall yr athletwr geffyl gystadlu'n ddiogel dan amodau gwahanol

Cyfleu gwybodaeth a syniadau ar ffurf cyflwyniadau llafar ac ysgrifenedig

Datblygu dadl resymegol a herio rhagdybiaethau

Ffurfio damcaniaethau a chwestiynau ymchwil, ymgymryd â chasglu data, a llunio dadleuon academaidd

Adnabod ffynonellau data ac adnoddau gwybodaeth priodol

Meithrin ymddygiad academaidd priodol (e.e. osgoi arfer annerbyniol)

Dehongli a defnyddio data

Arddangos llythrennedd cyfrifiadurol sylfaenol

Disgrifiad cryno

Yn y modiwl hwn, bydd nifer o diwtorialau grwpiau bach i fyfyrwyr a fydd yn eu galluogi i ddatblygu sgiliau allweddol mewn ysgrifennu academaidd, meddwl beirniadol, trin data a chyfathrebu gan ddefnyddio ffisioleg ymarfer corff ceffylau fel arbenigedd. Bydd yn galluogi myfyrwyr i ddisgrifio effeithiau ymarfer a hyfforddiant trwy gyfres o ddarlithoedd, tiwtorialau, sesiynau ymarferol, gweithdai ac e-ddysgu. Bydd hefyd yn ymchwilio i ddyluniad cyfundrefnau ffitrwydd priodol gan roi sylw dyledus i'r ymatebion addasol sydd eu hangen ar gyfer gwahanol weithgareddau ac yn cyflwyno'r clefydau a/neu anafiadau sy'n cyfyngu ar berfformiad.

Nod

Nod y modiwl yw cyflwyno myfyrwyr i arfer academaidd da a gwella eu sgiliau academaidd. Trwy diwtorialau personol, darlithoedd ffurfiol, e-ddysgu, dosbarthiadau ymarferol a gweithdai, bydd y modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu'r sgiliau hyn ochr yn ochr ag effeithiau ymarfer corff a hyfforddiant ar ffisioleg ceffylau.

Cynnwys

Bydd y modiwl yn ymdrin â sgiliau allweddol mewn ymarfer academaidd megis meddwl beirniadol, ysgrifennu academaidd a chyflwyniad llafar yn ogystal â gwaith tîm gan ddefnyddio detholiad o geffylau, egwyddorion hyfforddi ac effeithiau ymarfer corff, hyfforddiant a blinder ar systemau corff penodol yn ogystal ag achosion perfformiad gwael fel arbenigedd.
Bydd tiwtorialau grwpiau bach yn parhau ar draws y ddau semester yn ogystal â darlithoedd ffurfiol ac adnoddau e-ddysgu. Gellir cynnwys amrywiaeth o ymarferion ymarferol, er enghraifft, pennu ffitrwydd gwahanol geffylau gan ddefnyddio cyfraddau calon, a/neu ddyrannu organau dethol i werthuso anatomeg a ffisioleg o safbwynt ymarfer corff.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cydlynu ag erail Bydd ymgorffori elfen o waith grŵp yn ystod dosbarthiadau ymarferol yn datblygu gallu myfyrwyr i weithio fel tîm ac yn ystod cyflwyniadau llafar.
Cyfathrebu proffesiynol Bydd sgiliau ysgrifennu yn cael eu datblygu a'u hasesu trwy'r aseiniad ysgrifennu traethodau a rhoddir adborth yn ystod sesiynau tiwtorial. Bydd myfyrwyr yn datblygu eu harddull ysgrifennu ac yn dyrannu papurau ymchwil perthnasol o'r llenyddiaeth wyddonol. Bydd myfyrwyr hefyd yn datblygu sgiliau cyfathrebu llafar trwy gydlynu gweithgareddau gydag eraill a chyflwyno data.
Datrys Problemau Creadigol Bydd myfyrwyr yn gweithio gyda'i gilydd yn ystod gwaith prosiect i ddatrys problemau
Gallu digidol Bydd y gwaith cwrs yn cael ei airbrosesu ac yn ymarferol bydd myfyrwyr yn casglu data cyfradd curiad y galon ceffylau a bydd angen ei ddadansoddi gan ddefnyddio MS Excel. Bydd myfyrwyr yn cael ymarfer trin setiau data a dysgu cyflwyniad data sylfaenol yn R.
Sgiliau Pwnc-benodol Y gallu i werthuso perfformiad posibl ceffyl penodol

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4