Bioleg Celloedd
- Cod y Modiwl
- BG17520
- Teitl y Modiwl
- Bioleg Celloedd
- Blwyddyn Academaidd
- 2027/2028
- Semester
- Semester 1
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Professor Hazel Davey
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Dr Ruth Wonfor
- Dr Ifat Shah
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Poster: Poster a chyflwyniad wedi'i recordio 5 Minutes | 50% |
| Arholiad Semester | Arholiad: 1.5 Awr 1.5 Awr | 50% |
| Asesiad Ailsefyll | Poster: Poster a chyflwyniad wedi'i recordio 5 Minutes | 50% |
| Arholiad Ailsefyll | Arholiad: 1.5 Awr 1.5 Awr | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- Rhoi disgrifiad manwl o strwythur y gell, gan nodi swyddogaethau pob rhan.
- Adnabod a disgrifio moleciwlau biolegol, gan gysylltu eu strwythur a'u swyddogaeth.
- Perfformio cyfrifiadau sy'n berthnasol i ddulliau a ddefnyddir ar gyfer gweithio gyda chelloedd
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl hwn yn rhoi trosolwg o strwythur a swyddogaeth celloedd. Trafodir celloedd procaryotig ac enghreifftiau amrywiol o gelloedd ewcaryotig. Disgrifir yn fanwl y biomoleciwlau a'r organynnau sy'n bwysig yn strwythur a swyddogaeth celloedd. Datblygwyd sgiliau ymarferol a meintiol yng nghyd-destun dulliau ar gyfer astudio bioleg celloedd.
Cynnwys
Mae'r modiwl yn cynnwys trafodaeth ar strwythur celloedd sy'n amlygu rôl pilen fel yr egwyddor trefnu. Archwilir gwahanol fathau o gelloedd a'r berthynas rhwng strwythurau a swyddogaethau. Bydd trafodaeth am ddosbarthiadau moleciwlau biolegol sy'n ffurfio pob math o fywyd: asidau niwclëig, proteinau, lipidau a charbohydradau. Cyflwynir ensymau a llwybrau allweddol metaboledd. Trafodir signalau celloedd a chellraniad yng nghyd-destun ffurfio meinweoedd ac organau. Atgyfnerthir y cysyniadau damcaniaethol trwy waith ymarferol.
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Addasrwydd a gwydnwch | Delio â phwysau terfyn amser |
| Cydlynu ag erail | Bydd angen i fyfyrwyr weithio gyda'i gilydd mewn gwersi ymarferol a gweithdai |
| Cyfathrebu proffesiynol | Dylid ystyried y gynulleidfa fwriadedig yn ofalus ar gyfer yr aseiniad |
| Datrys Problemau Creadigol | Gwaith labordy a chyfrifiadau yn datblygu'r sgil hon |
| Gallu digidol | Datblygir sgiliau wrth ddefnyddio meddalwedd ar gyfer yr asesiadau |
| Meddwl beirniadol a dadansoddol | Ymchwil ar gyfer aseiniadau - gwerthuso a dewis ffynonellau |
| Myfyrdod | Dylid defnyddio adborth i wella gwaith arall |
| Sgiliau Pwnc-benodol | Mae myfyrwyr yn cael eu hannog a'u cynorthwyo i gysylltu cynnwys y modiwl â'u cynllun gradd dewisol |
| Synnwyr byd go iawn | Mae'r aseiniad yn datblygu y sgiliau canlynol: cyfathrebu'n effeithiol, rheoli amser, cymryd penderfyniadau, addasu, cynllunio a threfnu, annibyniaeth, cydnabod rhagfarn a cham wybodaeth. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4
Life Sciences,Aberystwyth University, Edward Llwyd Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622315 : +44 : +44 (0)1970 622021
ibtstaff@aber.ac.uk: ibtstaff@aber.ac.uk
