Maeth Anifeiliaid Fferm, Ceffylau ac Anifeiliaid Anwes
- Cod y Modiwl
- BG20720
- Teitl y Modiwl
- Maeth Anifeiliaid Fferm, Ceffylau ac Anifeiliaid Anwes
- Blwyddyn Academaidd
- 2027/2028
- Semester
- Semester 1
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Dr Rhys Jones
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
BR20720
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Dr Debbie Nash
- Dr Ruth Wonfor
- Dr Rhys Jones
- Dr Ifat Shah
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Adroddiad labordy: 2000 o eiriau | 50% |
| Arholiad Semester | Arholiad: 2 Awr 2 Awr | 50% |
| Asesiad Ailsefyll | Adroddiad labordy: 2000 o eiriau | 50% |
| Arholiad Ailsefyll | Arholiad: 2 Awr 2 Awr | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- Gwerthuso priodweddau maethol bwydydd a thrafod rhinweddau cymharol pob un ar gyfer da byw, ceffylau neu anifeiliaid anwes.
- Dadansoddi'r modd y llunnir dognau ar gyfer da byw, ceffylau neu anifeiliaid anwes.
- Gwerthuso yn feirniadol y prosesau treulio da byw, ceffylau neu anifeiliaid anwes.
- Dangos gwybodaeth barhaus am dda byw, anifeiliaid anwes neu geffylau wedi'i chymhwyso at wahanol senarios maethol.
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl hwn yn trafod dadansoddi bwydydd, ffisioleg treulio bwyd, dogni egni a phrotein, y mathau o fwydydd a ddefnyddir ar gyfer anifeiliaid fferm, rheoli faint o fwyd sy'n cael ei fwyta, a swyddogaeth fitaminau a mwynau ar gyfer anifeiliaid fferm, ceffylau ac anifeiliaid anwes. Bydd strwythur triphlyg i'r modiwl: cyfres gychwynnol o ddarlithoedd fydd yn disgrifio egwyddorion sylfaenol maeth anifeiliaid a bydd disgwyl i bob myfyriwr fynychu'r rhain; dilynir y rhain gan dair cyfres gyfochrog o ddarlithoedd, dosbarthiadau ymarferol a gweithdai fydd yn trafod maeth anifeiliaid fferm, maeth ceffylau a maeth anifeiliaid anwes, a bydd y myfyrwyr yn dewis un o'r rhain.
Cynnwys
Cynnwys sy'n gyffredin i'r holl fyfyrwyr (15 darlith)
Trafodir egwyddorion cyffredinol sy'n ymwneud a bwydydd anifeiliaid, dadansoddi bwydydd, anatomeg dreulio, rheoli chwant bwyd, a maeth egni, protein, mwynau a fitaminau.
Cynnwys sy'n benodol ar gyfer anifeiliaid fferm, ceffylau neu anifeiliaid anwes (10 darlith)
Trafodir y gofynion o ran egni, protein, fitaminau a mwynau, dogni bwydydd, ac anhwylderau maeth a'u perthynas a'r dosbarthiadau hyn o anifeiliaid.
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig effeithiol yn yr arholiad a'r aseiniad, a bydd y rhain yn cael eu hasesu. Rhoddir adborth ar hyn yn yr aseiniad. |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd myfyrwyr yn meithrin hyder yn eu gallu i werthuso bwydydd a dognau drwy'r modiwl. Bydd strwythur y diwydiant bwydydd anifeiliaid a'i isadeiledd ymchwil cynorthwyol yn rhan hanfodol o'r modiwl, gan ddatgelu ambell gyrchfan posibl i'r myfyrwyr o ran eu gyrfa. |
| Datrys Problemau | Mae dogni yn gofyn am gydbwyso'n ofalus ystod o ddiddordebau sy'n cystadlu â'i gilydd am wahanol faethynnau. Bydd hyn yn cael ei ddatblygu a'i asesu yn yr aseiniad. Rhoddir adborth ar hyn yn yr aseiniad. |
| Gwaith Tim | Bydd myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau i asesu porthiant yn y labordy |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Y tu allan i'r oriau cyswllt ffurfiol, bydd disgwyl i fyfyrwyr ymchwilio deunyddiau, rheoli amser a chyflawni gwaith erbyn y dyddiadau cau ar gyfer yr aseiniad a'r arholiad. Rhoddir adborth ar hyn yn yr aseiniad. |
| Rhifedd | Bydd yr aseiniad ar ddogni yn gofyn i fyfyrwyr drafod rhifau, a chaiff hyn ei asesu yn yr aseiniad. Rhoddir adborth ar hyn yn yr aseiniad. |
| Sgiliau pwnc penodol | Datblygir cysyniadau penodol i'r pwnc yn ymwneud â maeth anifeiliaid a dogni anifeiliaid. |
| Sgiliau ymchwil | Yn yr aseiniad a'r arholiad, bydd gofyn i fyfyrwyr ymchwilio i bynciau sydd y tu hwnt i gwmpas y deunydd a drafodir yn y darlithoedd. Defnyddir gwybodaeth o amryw ffynonellau. Asesir sgiliau ymchwil yn yr arholiad a'r aseiniad. Rhoddir adborth ar hyn yn yr aseiniad. |
| Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio'r we wrth chwilio ffynonellau gwybodaeth dibynadwy a defnyddio cronfeydd data i ddod o hyd i lyfrau wrth baratoi ar gyfer yr aseiniad a'r arholiad. Bydd y paratoi a wneir ar gyfer yr aseiniad yn cael ei asesu, a dylid paratoi hyn ar gyfrifiadur. Rhoddir adborth ar hyn yn yr aseiniad. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5
Life Sciences,Aberystwyth University, Edward Llwyd Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622315 : +44 : +44 (0)1970 622021
ibtstaff@aber.ac.uk: ibtstaff@aber.ac.uk
