Cynhyrchu a Rheoli Da Byw
- Cod y Modiwl
- BG28000
- Teitl y Modiwl
- Cynhyrchu a Rheoli Da Byw
- Blwyddyn Academaidd
- 2027/2028
- Semester
- Semester 1 Dysgwyd dros 2 semester
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Dr Manod Williams
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Rhagofynion
-
BG17020 neu BR17020 neu RD17020 neu RG17020 neu RD17020
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
BR28020 neu RD28020 neu RD28020
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Dr Ruth Wonfor
- Dr Ifat Shah
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Portffolio Dadansoddiad System Gynhyrchu: Taflen wybodaeth yn seiliedig ar ddadansoddiad o system gynhyrchu defaid neu gig eidion (1000 o eiriau) ac adroddiad ymgynghorol yn ymwneud â system cynhyrchu llaeth (1000 o eiriau) 2000 o eiriau | 60% |
| Arholiad Semester | Arholiad cwestiynau amlddewis (MCQ) a chwestiynau ateb byr: 2 Awr 2 Awr | 40% |
| Asesiad Ailsefyll | Portffolio Dadansoddiad System Gynhyrchu: Taflen wybodaeth yn seiliedig ar ddadansoddiad o system gynhyrchu defaid neu gig eidion (1000 o eiriau) ac adroddiad ymgynghorol yn ymwneud â system cynhyrchu llaeth (1000 o eiriau) 2000 o eiriau | 60% |
| Arholiad Ailsefyll | Arholiad cwestiynau amlddewis (MCQ) a chwestiynau ateb byr: 2 Awr 2 Awr | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- Gwerthuso cyfyngiadau biolegol a ffisegol ar gynhyrchiant da byw er mwyn cynhyrchu da byw yn gynaliadwy
- Ymgymryd â chasglu data allweddol ar gyfer rheoli da byw
- Dadansoddi cofnodion perfformiad da byw i adnabod, egluro a chywiro perfformiad is-optimaidd
- Cymhwyso gwybodaeth ymchwil er mwyn gwella systemau cynhyrchu da byw
- Arddangos gwybodaeth mewn cof am egwyddorion biolegol a rheolaethol sylfaenol cynhyrchu da byw
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl yn disgrifio trefniadaeth a rheolaeth y prif systemau cynhyrchu gwartheg godro, cig eidion, defaid a moch yn y DU. Cyfeirir yn benodol at y ffactorau sy'n dylanwadu ar gynhyrchiant da byw, iechyd a lles, effeithiolrwydd defnyddio adnoddau, perfformiad ariannol ac ansawdd y cynnyrch. Trafodir cymhwyso ymchwil i dwf, atgynhyrchu, llaetha, geneteg, maeth, iechyd a lles anifeiliaid ar gyfer datblygu gwell systemau cynhyrchu.
Cynnwys
Cynhyrchu a rheoli o fewn y systemau canlynol
Cig Eidion
Defaid
Llaeth
Moch
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Datblygir sgiliau ysgrifenedig yn yr aseiniad yn cynnwys cyfathrebu drwy eiriau, tablau a diagramau. Asesir drwy'r aseiniad a'r arholiad. |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Ymwybyddiaeth o gyfleoedd gyrfa ym maes ffermio a'r diwydiannau sy'n cefnogi'r maes hwn a datblygiad sgiliau perthnasol. |
| Datrys Problemau | Dangosir yn y darlithoedd a'r dosbarthiadau ymarferol sut y caiff problemau wrth ddatblygu systemau cynhyrchu anifeiliaid eu hadnabod a'u datrys. Bydd myfyrwyr yn meithrin sgiliau datrys problemau drwy'r aseiniadau. Asesir drwy aseiniad. |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Trwy oresgyn heriau i ddysgu a deall a godir yn yr aseiniadau. Trwy astudio hunangyfeiriedig a defnyddio deunyddiau e-ddysgu. |
| Rhifedd | Dadansoddi a dehongli cyfresi data aseiniad. Dehongli ymchwil a gyhoeddwyd. Asesir yn yr asesiniadau. |
| Sgiliau pwnc penodol | Ymgymryd â chasglu data allweddol ar gyfer rheoli da byw |
| Sgiliau ymchwil | Bydd darlithoedd, dosbarthiadau ymarferol ac aseiniadau yn datblygu ymwybyddiaeth o ddehongli a chymhwyso ymchwil i ddatblygu a gwella systemau cynhyrchu anifeiliaid. Asesir yn yr aseiniad a'r arholiad. |
| Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio prosesyddion geiriau a thaenlenni wrth baratoi aseiniadau. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5
Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Life Sciences,Aberystwyth University, Edward Llwyd Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622315 : +44 : +44 (0)1970 622021
ibtstaff@aber.ac.uk: ibtstaff@aber.ac.uk
Life Sciences,Aberystwyth University, Edward Llwyd Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622315 : +44 : +44 (0)1970 622021
ibtstaff@aber.ac.uk: ibtstaff@aber.ac.uk
