Traethawd Estynedig
- Cod y Modiwl
- BG36440
- Teitl y Modiwl
- Traethawd Estynedig
- Blwyddyn Academaidd
- 2027/2028
- Semester
- Semester 2 Dysgwyd dros 2 semester
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Dr Arwyn Edwards
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Rhagofynion
-
BG27520 neu BR27520
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Dr Ruth Wonfor
- Professor Hazel Davey
- Dr Ifat Shah
- Dr Arwyn Edwards
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | CV Sgiliau Cyflogadwyedd ac asesiad sgiliau.: CV Sgiliau Cyflogadwyedd ac asesiad sgiliau. 1. Mae C.V. gan gynnwys rhestr o sgiliau pwnc-benodol a enillwyd 2. Tystiolaeth o sgiliau generig y gall cyflogwyr ofyn amdanynt, gan dynnu ar enghreifftiau o waith a wnaed drwy gydol y radd ac yn ystod y prosiect ymchwil 3. Delweddau o'r pasbort sgiliau a gafwyd yn ystod y cynnwys a addysgir. 1000 o Eiriau | 10% |
| Asesiad Semester | Cyflwyniad llafar: 10 Munud | 10% |
| Asesiad Semester | Traethawd hir: 8000 o eiriau | 80% |
| Asesiad Ailsefyll | Cyflwyniad llafar: 10 Munud | 10% |
| Asesiad Ailsefyll | CV Sgiliau Cyflogadwyedd ac asesiad sgiliau.: CV Sgiliau Cyflogadwyedd ac asesiad sgiliau. 1. Mae C.V. gan gynnwys rhestr o sgiliau pwnc-benodol a enillwyd 2. Tystiolaeth o sgiliau generig y gall cyflogwyr ofyn amdanynt, gan dynnu ar enghreifftiau o waith a wnaed drwy gydol y radd ac yn ystod y prosiect ymchwil 3. Delweddau o'r pasbort sgiliau a gafwyd yn ystod y cynnwys a addysgir. 1000 o Eiriau | 10% |
| Asesiad Ailsefyll | Traethawd hir: 8000 o eiriau | 80% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- 1. Asesu a gwerthuso gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau.
- 2. Dynodi a defnyddio technegau priodol ar gyfer cynllunio astudiaethau a dadansoddi data.
- 3. Llunio casgliadau a thrafod y rhain mewn perthynas a gwybodaeth sydd eisoes yn bodoli yn y maes.
- 4. Amlygu cwestiynau sydd heb eu hateb a meysydd dadleuol yn eu maes ymchwil a llunio awgrymiadau ar gyfer ymchwil yn y dyfodol.
- 5. Defnyddio sgiliau ysgrifennu a TG priodol i gyflwyno’r cyd-destun, y data, y canlyniadau a’r casgliadau mewn traethawd ymchwil.
- 6. Dynodi a chyflwyno themau allweddol y traethawd hir ar ffurf cyflwyniad llafar.
- 7. Dangos, a myfyrio ynghylch, proses a chynnydd eu hymchwil.
Disgrifiad cryno
Mae modiwl y traethawd estynedig yn brofiad uchafbwyntiol ar y lefel raddedig sy’n meithrin sgiliau a gwybodaeth y myfyrwyr. Bydd y modiwl yn gyfle i fyfyrwyr ymgymryd ag ymchwil manwl ar bwnc sy’n berthnasol i’w gradd neu eu diddordebau. Bydd llawer o’r prosiectau’n seiliedig ar arbrofion labordy neu ymarferion gwaith maes; gallai eraill gynnwys ymarfer modelu cyfrifiadurol yn seiliedig ar ffynonellau data eilaidd. Bydd eraill yn cynnwys dadansoddi data o destunau cyhoeddedig. Bydd yr holl brosiectau, beth bynnag eu ffurf, yn golygu bod rhaid i fyfyrwyr weithio’n annibynnol dan arweiniad goruchwyliwr, cynnal adolygiad o lenyddiaeth, ymgymryd â gwaith ymchwil a dadansoddi data, datblygu casgliadau ac argymhellion addas, a chyflwyno’r cyfan ar ffurf traethawd estynedig.
Cynnwys
Bydd yna amrywiaeth eang ym mhwyslais y traethodau estynedig. Mae'r holl brosiectau'n ddarostyngedig i'r un rheoliadau a rhaid iddynt geisio cyflawni'r un amcanion dysgu. Disgwylir i fyfyrwyr gynnal cyswllt rheolaidd gyda'u goruchwyliwr (o leiaf unwaith bob pythefnos yn ystod y semestrau) i drafod cynnydd eu gwaith.
Bydd darlith gyflwyniadol yn y semester cyntaf yn cynnig arweiniad ar sut i fynd ati i ymchwilio ar gyfer y Traethawd. Yn yr ail semester, cynhelir cymorthfeydd galw heibio wythnosol dewisol i gynnig cyngor ar agweddau penodol o baratoi'r Traethawd Estynedig.
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Bydd myfyrwyr sy'n ymgymryd â’r prosiect yn datblygu sgiliau gwrando effeithiol yn ystod y cyfarfodydd goruchwylio, a asesir ym mhob aseiniad. Caiff llythrennedd ysgrifenedig ei ddatblygu hefyd drwy lunio'r elfennau ysgrifenedig. Bydd sgiliau cyfathrebu llafar yn cael eu datblygu wrth greu’r seminar ymchwil. |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy wrth werthuso a chymhwyso casgliadau ymchwil newydd. |
| Datrys Problemau | Mae'r sgil hwn yn elfen allweddol o'r modiwl, a chaiff myfyrwyr eu hannog i ddadansoddi data cynradd a/neu eilaidd yn feirniadol, dynodi ffactorau a allai ddylanwadu ar ddatrysiadau posibl a defnyddio meddwl creadigol i ddatblygu datrysiadau priodol. |
| Gwaith Tim | Nid yw'n elfen benodol o'r modiwl hwn er y bydd gofyn i rai myfyrwyr weithio gydag aelodau eraill o grŵp labordy neu grŵp ymchwil, gan gynnwys myfyrwyr traethawd hir eraill. |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd y modiwl hwn yn helpu myfyrwyr i ddatblygu a chymhwyso strategaethau dysgu a hunanreoli realistig. Bydd myfyrwyr yn dyfeisio cynlluniau gweithredu personol i gynnwys amcanion tymor byr a thymor hir, ynghyd ag adolygu a monitro cynnydd, a diwygio cynlluniau gweithredu fel bo'n briodol i wella perfformiad cyffredinol, a asesir drwy’r Dyddlyfr. |
| Rhifedd | Bydd y modiwl hwn yn gofyn bod myfyrwyr yn datblygu ymwybyddiaeth fathemategol gyffredinol ynghyd a'i defnyddio mewn cyd-destunau ymarferol (e.e. mesur, pwyso a chymhwyso fformiwlau) yn ol natur y prosiect. Bydd myfyrwyr hefyd yn caffael neu ddehongli gwybodaeth fathemategol ac ystadegol. |
| Sgiliau pwnc penodol | Bydd unrhyw sgiliau penodol i'r pwnc a ddatblygir yn dibynnu ar natur y prosiect ymchwil e.e. hyfforddiant mewn dilyniannu a dadansoddi DNA, cynllunio holiadur, arsylwi ymddygiad ac ati. |
| Sgiliau ymchwil | Mae hwn yn fodiwl sy'n seiliedig ar ymchwil sy'n gofyn bod myfyrwyr yn deall ac yn gwerthuso amrywiaeth o ddulliau a gweithdrefnau ymchwil, cynllunio ac ymgymryd ag ymchwil a llunio adroddiad academaidd (traethawd estynedig). |
| Technoleg Gwybodaeth | Bydd gofyn am ddefnyddio TG wrth chwilio am destunau cyhoeddedig, dadansoddi data, cyflwyno data a pharatoi’r elfennau ysgrifenedig a llafar. Asesir y defnydd o dechnoleg gwybodaeth yn y traethawd hir a’r cyflwyniad llafar. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6
Life Sciences,Aberystwyth University, Edward Llwyd Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622315 : +44 : +44 (0)1970 622021
ibtstaff@aber.ac.uk: ibtstaff@aber.ac.uk
