Gweithrediadau a Rheoli'r Gadwyn Cyflenwi
- Cod y Modiwl
- CB25120
- Teitl y Modiwl
- Gweithrediadau a Rheoli'r Gadwyn Cyflenwi
- Blwyddyn Academaidd
- 2027/2028
- Semester
- Semester 2
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Dr Jonathan Fry
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Rhagofynion
-
AB15120 neu CB15120
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Mr Tim Bennett-Gillison
- Dr Jonathan Fry
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Adroddiad ysgrifenedig: (2,500 gair) | 40% |
| Arholiad Semester | Arholiad: 2 Awr | 60% |
| Asesiad Ailsefyll | Adroddiad ysgrifenedig: (2,500 gair) | 40% |
| Arholiad Ailsefyll | Arholiad: 2 Awr | 60% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- 1. Trafod theori rheoli gweithrediadau a chadwyni cyflenwi, gan gloriannu’r wybodaeth berthnasol a’i rhoi ar waith.
- 2. Cloriannu’n feirniadol systemau ar gyfer rheoli deunyddiau, stocrestrau a chapasiti yn weithredol.
- 3. Adolygu’n feirniadol y modd y caiff cadwyni cyflenwi eu dylunio, eu cynllunio a’u rheoli.
- 4. Dangos dealltwriaeth o bwysigrwydd ac effaith newidiadau technolegol mewn gweithrediadau busnes.
- 5. Nodi a thrafod y materion cyfredol yn ymwneud â gweithrediadau a rheoli cadwyni cyflenwi a wynebir gan sefydliadau.
Disgrifiad cryno
Mae’r modiwl hwn yn rhoi cyflwyniad i amrywiaeth o bynciau o dan y pennawd cyffredinol rheoli gweithrediadau a chadwyni cyflenwi. Mae’r modiwl yn meithrin dealltwriaeth ynghylch sut i roi cysyniadau/technegau perthnasol yn ymwneud â gweithrediadau a chadwyni cyflenwi ar waith i reoli gweithrediadau a chadwyni cyflenwi yn effeithiol, ac i ddatrys problemau busnes.
Cynnwys
- Rheoli gweithrediadau, ennill cwsmeriaid a chystadlu mewn modd effeithiol
- Gweithrediadau, prosesau a chylchredau oes
- Rheoli cadwyni cyflenwi
- Rheoli deunyddiau a pherfformiad stocrestrau
- Rheoli capasiti a galw
- Rheoli ciwiau a bodlonrwydd cwsmeriaid
- Rheoli ansawdd
- Cynnyrch a gwasanaethau newydd
- Dylunio prosesau a defnyddio technoleg
- Rheoli Gwelliannau Parhaus
- Risgiau a Methiannau TGCh
- Arloesi a gwella parhaus
- Rheoli prosiectau
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Datblygu sgiliau cyfathrebu gan gynnwys sgiliau cyflwyno a gwrando. Gwella sgiliau llythrennedd trwy ddarllen ac ysgrifennu am reoli gweithrediadau a chadwyni cyflenwi. |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd myfyrwyr yn gallu defnyddio’r sgiliau a ddysgwyd yn y modiwl hwn i wella eu cyfleoedd gyrfaol. Byddant hefyd yn gallu ystyried goblygiadau cadwyni cyflenwi a gweithrediadau yn eu dewis yrfa. |
| Datrys Problemau | Nodi problemau. Datblygu ffyrdd o ddatrys problemau trwy feddwl yn greadigol. Cloriannu manteision ac anfanteision. Llunio cynnig rhesymegol mewn ymateb i broblem. |
| Gwaith Tim | Deall y cysyniad o ddeinameg grŵp, cyfrannu’n effeithiol i weithgareddau grŵp, cymryd rhan mewn trafodaethau grŵp a seminarau. |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Llunio strategaethau realistig ar gyfer hunan-ddysgu, a’u rhoi ar waith. Adolygu a monitro’u perfformiad cyffredinol, bod yn ymwybodol o dechnegau rheoli amser. |
| Rhifedd | Dadansoddi adroddiadau ariannol ac adroddiadau eraill sy’n seiliedig ar wybodaeth rifyddol. |
| Sgiliau pwnc penodol | Bydd myfyrwyr yn gallu deall, a dadansoddi gweithrediadau a chadwyni cyflenwi ac ystyried sut y gall yr elfennau hyn ddarparu mantais gystadleuol a gofynion capasiti yn eu dewis yrfa a’u sefydliad. |
| Sgiliau ymchwil | Gwneud ymchwil ar reoli gweithrediadau a chadwyni cyflenwi. Dod o hyd i ddeunydd ffynhonnell perthnasol ar gyfer aseiniadau ac astudiaethau achos. |
| Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio ystod o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn eang, paratoi a dadansoddi data, cyflwyno gwybodaeth. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5
Aberystwyth Business School,Aberystwyth University, Hugh Owen Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622500 : +44 : +44 (0)1970 622021
business-school@aber.ac.uk: business-school@aber.ac.uk
