Entreprenwriaeth a Chreu Menter Newydd

Cod y Modiwl
CB25220
Teitl y Modiwl
Entreprenwriaeth a Chreu Menter Newydd
Blwyddyn Academaidd
2027/2028
Semester
Semester 2
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Mrs Nerys Fuller-Love
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Rhagofynion
AB15120 neu BR10420 neu CB15120
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Mrs Nerys Fuller-Love

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Aseiniad ysgrifenedig: Cynnig ysgrifenedig ar gyfer menter busnes newydd (500 gair) 5%
Asesiad Semester Cynllun busnes: (2,000 gair) 35%
Arholiad Semester Arholiad: 2 Awr 60%
Asesiad Ailsefyll Aseiniad ysgrifenedig: Cynnig ysgrifenedig ar gyfer menter busnes newydd (500 gair) 5%
Asesiad Ailsefyll Cynllun busnes: (2,000 gair) 35%
Arholiad Ailsefyll Arholiad: 2 Awr 60%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. 1. Asesu pwysigrwydd mentergarwch a chreu mentrau newydd yn yr economi ehangach, yn enwedig eu rôl wrth greu swyddi ac arloesedd.
  2. 2. Trafod y prif broblemau sy’n gysylltiedig â sefydlu a rhedeg menter newydd o ran cysylltiadau rhwng y cyflogwr a’r gweithwyr, marchnata a rheolaeth ariannol.
  3. 3. Nodi’r ffactorau sy’n achosi i fusnesau bach fethu, a maint y broblem.
  4. 4. Cynllunio ar gyfer cychwyn busnes newydd a bod yn ymwybodol o gymhellion y llywodraeth ac eraill i gynorthwyo mentrau o’r fath.
  5. 5. Datblygu sgiliau personol gan gynnwys sgiliau adeiladu tîm a chyflwyno.

Disgrifiad cryno

Mae’r modiwl hwn yn ystyried elfennau damcaniaethol ac ymarferol mentergarwch, a sefydlu a rhedeg menter newydd. Rhoddir sylw i’r ymagweddau economaidd, cymdeithasol a seicolegol tuag at theori mentergarwch, a rôl y mentergarwr wrth ddatblygu arloesedd. Mae’r modiwl yn edrych ar sut i ddod o hyd i gyfleoedd busnes newydd, cychwyn, rheoli a marchnata menter newydd, llunio cynllun busnes, a chodi cyllid.

Cynnwys

 Datblygu’r syniad, dadansoddi hyfywedd, creu cyfleoedd, diben a chynnwys cynllun busnes, pwyntiau gwerthu
unigryw a ffactorau gwahaniaethu
 Theorïau mentergarwch, cymhellion tuag at greu busnes bach, ymchwilio i’w goblygiadau ymarferol, mentergarwch ymhlith menywod a lleiafrifoedd ethnig
 Cyd-destun economaidd busnesau bach, y cwmni bach yn yr economi, polisi’r llywodraeth tuag at fusnesau bach, creu diwylliant menter, polisïau
presennol
 Gwahanol fathau o fusnesau, masnachfraint, y berthynas rhwng y sawl sy’n rhoi a dal y masnachfraint, systemau darparu gwasanaeth,
cloriannu cyfle i sefydlu masnachfraint, ehangu trwy gyfrwng masnachfraint
 Ariannu’r fenter newydd. Ffynonellau cyllid ar gyfer cwmnïau bach, cychwyn busnes heb gyllid allanol, benthyciadau banc a gorddrafftiau, prydlesu a
hurbwrcasu, cyfalaf menter ac angylion busnes
 Tyfu cwmni bach. Camau twf, rheoli twf, rheoli pobl, y mentergarwr ar wahanol gyfnodau, hyfforddiant rheoli, adeiladu tîm rheoli
 Marchnata yn y fenter newydd, mentergarwch wrth ymdrin â marchnata, problemau marchnata mewn cwmnïau bach, e-fusnes, gwerthu cynnyrch a
gwasanaethau ar-lein
 Heriau a materion sy'n wynebu mentrau newydd. Y rhesymau pam mae cwmnïau bach yn methu gan gynnwys gwerthiannau annigonol a rheolaeth
ariannol wael, diffyg cynllunio, strategaethau adfer, rheoli ariannol.
 Cwmnïau teuluol. Pwysigrwydd cwmnïau teuluol, materion rheoli, perchnogaeth a materion cyfreithiol, olyniaeth, gwerthu’r busnes teuluol, menter
gymdeithasol
 Cynllunio ar gyfer y dyfodol, strategaethau cynaeafu, rhyddhau i’r farchnad, gwerthu, olyniaeth reoli, mentergarwyr rheolaidd a phortffolio, arweinyddiaeth a moeseg.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Cyfathrebu Meithrin hyder ac eglurder wrth gyfathrebu ar lafar trwy gymryd rhan mewn sesiynau tiwtorial a thrafodaethau grŵp y tîm prosiect, datblygu eglurder a ffocws wrth gyfathrebu’n ysgrifenedig trwy gynhyrchu a chyflwyno prosiectau grŵp, datblygu a defnyddio geirfa briodol sy’n benodol i’r pwnc wrth gyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Meithrin sgiliau dadansoddi ariannol a gwneud penderfyniadau, nodi cyfleoedd posibl ar gyfer mentergarwch, gan ganolbwyntio ar y gallu i feddwl yn greadigol ac yn arloesol.
Datrys Problemau Nodi’r union broblem i’w datrys, asesu pa ddata sy’n berthnasol i’r broblem, cydnabod y gallai fod dulliau eraill o ddatrys y broblem, dewis a chymhwyso dulliau priodol i ddatrys y broblem, asesu pa mor rhesymol yw’r atebion i’r problemau a dehongli’r atebion hynny.
Gwaith Tim Magu profiad o waith tîm a datblygu sgiliau gweithio mewn tîm trwy’r prosiect grŵp.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Llunio a chymhwyso strategaethau hunan-ddysgu, adolygu a monitro eu perfformiad cyffredinol, a bod yn ymwybodol o reoli amser.
Rhifedd Paratoi rhagamcaniadau ariannol ar gyfer y cynllun busnes gan gynnwys cymarebau ac adennill costau ac ati.
Sgiliau pwnc penodol Paratoi cynllun busnes gan gynnwys ymchwil i’r farchnad a rhagolygon ariannol, deall y cysyniad o fentergarwch a phynciau cysylltiedig, gan gynnwys y sector busnesau bach a chymorth y llywodraeth, cymhwyso sgiliau dadansoddi ariannol a gwneud penderfyniadau i ddatblygu menter newydd – wrth gynllunio, marchnata, gweithredu, ac ati.
Sgiliau ymchwil Nodi pa ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael i hwyluso astudio ar y modiwl (deall, darllen ehangach), i ddarparu gwybodaeth er mwyn dadansoddi perfformiad a rhagolygon busnes, i ddarparu deunydd crai i gynhyrchu'r prosiect grŵp, dewis y wybodaeth fwyaf perthnasol i'w hadfer, adfer gwybodaeth, ailasesu perthnasedd ac asesu hygrededd gwybodaeth a adferwyd, cyfeirnodi / priodoli ffynonellau gwybodaeth yn gywir.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio amrywiaeth o adnoddau electronig ar y we ac yn y llyfrgell i adolygu'r wybodaeth sydd ar gael ac i ddod o hyd i wybodaeth berthnasol; defnyddio pecynnau meddalwedd amrywiol i gynhyrchu adroddiad y prosiect grŵp (excel, testun, tablau a dadansoddi rhifyddol, graffeg).

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5