Dulliau Ymchwil
- Cod y Modiwl
- CB25320
- Teitl y Modiwl
- Dulliau Ymchwil
- Blwyddyn Academaidd
- 2027/2028
- Semester
- Semester 2
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Dr Jonathan Fry
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Rhagofynion
-
AB15220
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Dr Sophie Bennett-Gillison
- Dr Jonathan Fry
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Traethawd 1: (2,500 gair) Adolygiad o lenyddiaeth | 50% |
| Asesiad Semester | Traethawd 2: (2,500 gair) Dulliau Ymchwil | 50% |
| Asesiad Ailsefyll | Traethawd 1: (2,000 gair) Adolygiad o lenyddiaeth | 50% |
| Asesiad Ailsefyll | Traethawd 2: (2,000 gair) Dulliau Ymchwil | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- 1. Dangos dealltwriaeth o natur a phwysigrwydd ymchwil mewn cyd-destun busnes a rheolaeth neu farchnata.
- 2. Dangos dealltwriaeth o wahanol ddulliau ymchwil, a’r gwahaniaethu rhyngddynt, gan gloriannu’n feirniadol oblygiadau moesegol pob un.
- 3. Canfod, dadansoddi a chloriannu testunau sy’n berthnasol i bwnc ymchwil penodol.
- 4. Dangos dealltwriaeth o wahanol ffyrdd o gasglu data cynradd ac eilaidd, gan nodi a chloriannu cyfyngiadau a manteision y gwahanol ddulliau.
- 5. Dangos dealltwriaeth o ffyrdd o ddadansoddi a chloriannu data gan ddefnyddio dulliau a thechnegau amrywiol.
- 6. Cyfleu casgliadau prosiect ymchwil yn briodol.
Disgrifiad cryno
Mae’r modiwl hwn yn trafod sgiliau ymchwil ac mae’n gyfle i astudio dulliau ymchwil yn ymwneud â busnes mewn dyfnder. Mae’r modiwl yn pwysleisio pwysigrwydd ymagwedd wrthrychol tuag at ymchwil. Mae’r modiwl hefyd yn cyflwyno ymarfer ymchwil, gan gynnwys moeseg a methodoleg, gan ddefnyddio dulliau ymchwil ansoddol yn ogystal â meintiol.
Cynnwys
Cyflwyniad i Ddulliau Ymchwil
Ffurfio Cwestiynau Ymchwil
Dulliau Ymchwil ar gyfer adolygu testunau cyfredol
Dylunio Ymchwil Ansoddol
Dylunio Ymchwil Meintiol
Dulliau Cymysg ar gyfer Dylunio Ymchwil
Casglu a Dadansoddi Data Ansoddol
Casglu a Dadansoddi Data Meintiol
Goblygiadau Rheolaethol, Cyfyngiadau Ymchwil ac Ystyriaethau Moesegol
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Darllen ac ysgrifennu mewn gwahanol gyd-destunau ar gyfer cynulleidfaoedd a dibenion gwahanol. |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Hunan-reoli, blaengaredd, annibyniaeth a hunan-ymwybyddiaeth. |
| Datrys Problemau | Nodi problemau a ffactorau a allai ddylanwadu ar ddatrysiadau posibl; datblygu ffyrdd o ddatrys problemau trwy feddwl yn greadigol. Cloriannu manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol mewn ymateb i broblem. |
| Gwaith Tim | Bydd y seminarau/darlithoedd yn cynnwys ymarferion grŵp. |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Sgiliau trefnu ac ymchwil; datblygu eu harddull dysgu eu hunain, eu hoffterau a’u hanghenion, a sut i ddysgu’n annibynnol. |
| Rhifedd | Cyfleoedd i ddefnyddio technegau meintiol sy’n briodol i’r pwnc a ddewiswyd |
| Sgiliau pwnc penodol | Cymhwyso sgiliau ansoddol a/neu meintiol i sefyllfaoedd rheoli penodol a’r amgylchedd busnes presennol. |
| Sgiliau ymchwil | Canfod, dethol a chymhathu gwybodaeth o ffynonellau a |
| Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio’r rhyngrwyd i ddod o hyd i ddeunydd cyfeiriol priodol; defnyddio technoleg gwybodaeth wrth ddadansoddi data ac wrth baratoi a chyflwyno adroddiad |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5
Aberystwyth Business School,Aberystwyth University, Hugh Owen Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622500 : +44 : +44 (0)1970 622021
business-school@aber.ac.uk: business-school@aber.ac.uk
