Rheolaeth Adnoddau Dynol
- Cod y Modiwl
- CB25420
- Teitl y Modiwl
- Rheolaeth Adnoddau Dynol
- Blwyddyn Academaidd
- 2027/2028
- Semester
- Semester 1
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Dr Jonathan Fry
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Rhagofynion
-
AB15120 neu BR10420 neu CB15120
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
AB25420
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Dr Sophie Bennett-Gillison
- Mr Tim Bennett-Gillison
- Dr Jonathan Fry
- Mrs Nerys Fuller-Love
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Adroddiad: 2,500 gair | 50% |
| Arholiad Semester | Arholiad: 2 Awr 2 Awr | 50% |
| Asesiad Ailsefyll | Adroddiad: Rhaid i fyfyrwyr wneud yr elfennau o’r asesiad sy’n cyfateb i’r hyn a arweiniodd at fethu’r modiwl. 2,500 gair | 50% |
| Arholiad Ailsefyll | Arholiad: 2 Awr 2 Awr | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- 1. Archwilio datblygiad hanesyddol rheoli adnoddau dynol, fel disgyblaeth academaidd ac o fewn sefydliadau.
- 2. Lleoli ymagweddau sefydliadau tuag at recriwtio, dethol a hyfforddi o fewn cyd-destun ehangach cysylltiadau diwydiannol.
- 3. Cloriannu’n feirniadol strwythurau ar gyfer rheoli perfformiad a gwobrwyo gweithwyr, gan gyfeirio at eu goblygiadau o ran cymell ac ysgogi gweithwyr.
- 4. Asesu’n feirniadol ymagweddau sefydliadau tuag at iechyd a diogelwch gweithwyr, a materion moesegol megis lles a chynaliadwyedd.
- 5. Cloriannu pwysigrwydd arweinyddiaeth mewn sefydliad.
Disgrifiad cryno
Mae’r modiwl hwn yn edrych ar gysyniadau allweddol Rheoli Adnoddau Dynol a ddefnyddir i arwain, ysgogi, rheoli a gwobrwyo pobl mewn sefydliadau cyfoes.
Cynnwys
- Strategaeth gorfforaethol a Rheoli Adnoddau Dynol strategol
- Canlyniadau Rheoli Adnoddau Dynol a rheoli llinell
- Cynllunio’r gweithlu ac amrywioldeb, recriwtio a dethol
- Rheoli perfformiad a gwerthuso, datblygu adnoddau dynol- Gwobrau ac anghydraddoldeb, cysylltiadau llafur a chyd-fargeinio
- Moeseg, iechyd a diogelwch gweithwyr, lles gweithwyr, cynaliadwyedd
- Arweinyddiaeth ac ysgogi
- Rheoli Adnoddau Dynol a diwylliant sefydliadol.
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Cyfathrebu’n effeithiol gan ddefnyddio amryw ddulliau a fformatau adrodd. |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Nodi arddulliau dysgu, datblygu meddwl creadigol, trafod rôl y swyddogaeth AD o ran recriwtio graddedigion. |
| Datrys Problemau | Bydd y modiwl yn cyflwyno myfyrwyr i faterion yn ymwneud â datrys problemau a bydd y myfyrwyr yn gweithio drwyddynt ym mhob rhan o’r modiwl. Disgwylir iddynt nodi a mynd i’r afael â’r problemau a’r materion trwy gydol y cwrs, ac fe’u hanogir i ehangu eu ffiniau presennol i ateb y cwestiynau hyn mewn ffyrdd creadigol ac arloesol. |
| Gwaith Tim | Bydd y seminarau yn cynnwys ymarferion grŵp. |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd y myfyrwyr yn dangos ymwybyddiaeth o’u harddulliau dysgu eu hunain, eu hoffterau a’u hanghenion personol, gan nodi’r rhwystrau sy’n eu hatal rhag dysgu. Dangos hunanymwybyddiaeth a rheoli’r dasg o gwblhau gwaith cwrs a datblygu sgiliau ymchwil. |
| Rhifedd | Dadansoddi adroddiadau rhifyddol perthnasol, yn enwedig wrth wneud gwaith cwrs |
| Sgiliau pwnc penodol | Gallu lleoli swyddogaeth Rheoli Adnoddau Dynol o fewn y sefydliad a’r amgylchedd busnes ehangach. |
| Sgiliau ymchwil | Bydd gofyn i’r myfyrwyr baratoi aseiniad unigol wedi’i seilio ar ddata a gwybodaeth y bydd yn rhaid iddynt eu casglu ynghyd, gan drefnu’r holl wybodaeth a gasglwyd yn rhesymegol mewn dogfen ysgrifenedig. Bydd angen i’r myfyrwyr ddangos eu sgiliau ymchwil wrth baratoi ar gyfer darlithoedd a thiwtorialau, yn ogystal ag yn eu hymarferion grŵp. |
| Technoleg Gwybodaeth | Trwy ddod o hyd i ddeunydd cyfeiriol o wahanol ffynonellau, defnyddio sgiliau prosesu geiriau wrth gwblhau gwaith cwrs, datblygu sgiliau PowerPoint a sgiliau cyflwyno. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5
Aberystwyth Business School,Aberystwyth University, Hugh Owen Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622500 : +44 : +44 (0)1970 622021
business-school@aber.ac.uk: business-school@aber.ac.uk
