Rheolaeth Marchnata

Cod y Modiwl
CB27120
Teitl y Modiwl
Rheolaeth Marchnata
Blwyddyn Academaidd
2027/2028
Semester
Semester 1
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Dr Jonathan Fry
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Rhagofynion
AB17120 neu CB17120
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Dr Jonathan Fry

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Adroddiad: 2000 o eiriau 50%
Arholiad Semester Adroddiad ysgrifenedig grŵp Edumundo ac Adfyfyriad Personol: 2000 o eiriau 50%
Asesiad Ailsefyll Adroddiad: 2000 o eiriau 50%
Arholiad Ailsefyll Adroddiad ysgrifenedig unigol: Rhaid i fyfyrwyr wneud yr elfennau o’r asesiad sy’n cyfateb i’r hyn a arweiniodd at fethu’r modiwl. 2000 o eiriau 50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. Cyfleu a chloriannu’n feirniadol yr ymarfer o reoli marchnata a’r modd y caiff ei ddefnyddio ym maes marchnata heddiw.
  2. Dadansoddi gwahanol agweddau ar farchnata a deall gweithgareddau rheoli mewn perthynas â hwy.
  3. Dangos dealltwriaeth o’r rhan y mae rheolaeth yn ei chwarae mewn strategaethau ac ymgyrchoedd marchnata.
  4. Cymhwyso egwyddorion marchnata i gloriannu a thrafod gwahanol strategaethau marchnata.
  5. Dangos dealltwriaeth o bwysigrwydd cwsmeriaid a chyfathrebu marchnata yn y broses reoli.
  6. Dangos ymwybyddiaeth feirniadol o rôl diwylliant a marchnata yn y farchnad fyd-eang a’u rôl mewn perthynas â gweithgareddau rheoli.

Disgrifiad cryno

Mae llwyddiant cyffredinol sefydliad yn dibynnu ar y berthynas a sefydlir rhwng rheolaeth a strategaeth marchnata. Mae’n hollbwysig bod marchnata yn llywio strategaeth, a bod y sefydliad yn canolbwyntio’n weithredol ar anghenion y farchnad. Mae’r modiwl hwn yn datblygu dealltwriaeth o’r ffordd y caiff ffocws masnachol sefydliad ei lywio a’i arwain gan reolaeth marchnata.

Cynnwys

- Diffinio Rheolaeth Marchnata: Y diffiniad o sefydliad sy’n canolbwyntio ar y farchnad. Adnabod y prosesau sy’n cyfrannu
at ganolbwyntio ar y farchnad – sef y broses datblygu strategol a gweithredoliad rheolaeth marchnata.

- Modelau o Reolaeth Marchnata: Y fframweithiau a’r modelau a ddefnyddir gan reolwyr marchnata wrth ddadansoddi. Bydd
hyn yn cynnwys portffolios, cylch oes cynnyrch, dadansoddi cwsmeriaid a chystadleuwyr.

- Rheoli Brand: Rheoli brandiau trwy ddefnyddio dulliaumarchnata.

- Cynlluniau Marchnata: Datblygu cynlluniau marchnata trwy brosesau fesul cam. Nodi manteision ac anawsterau wrth gynllunio marchnata.

- Perfformiad Marchnata: Mesur perfformiad marchnata a rheolaeth farchnata ar y lefelau strategol a gweithredol.

- Entrepreneuriaeth Marchnata: Datblygu meddwl entrepreneuraidd, sgiliau cynllunio a dealltwriaeth.

- Syfliadau Paradeim mewn Marchnata: Newidiadau o ran y cysyniadau a’r athroniaeth sydd wrth wraidd gweithgarwch marchnata.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Cyfathrebu Bydd y seminarau’n gyfle i’r myfyrwyr ddatblygu sgiliau cyfathrebu llafar a chyflwyno, a bydd y gwaith cwrs yn gyfle i ddatblygu sgiliau cyfathrebu gwerthfawr yn ymwneud â busnes.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Mae’r dulliau cyflwyno ffurfiol a’r asesiadau yn meithrin dealltwriaeth lawnach o’r sgiliau, y cysyniadau a’r fframweithiau, yn ogystal ag uchelgeisiau a chynllunio gyrfaol y myfyriwr.
Datrys Problemau Bydd myfyrwyr yn meithrin sgiliau datrys problemau yn rhan o asesiad eu gwaith cwrs a’u hymarferion yn y dosbarth/sesiynau tiwtorial.
Gwaith Tim Bydd ymarferion yn y dosbarth a gwaith yn y seminarau yn gyfle i’r myfyrwyr wella eu sgiliau gweithio mewn tîm.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Cyflawnir hyn trwy’r seminarau, y gwaith cwrs a’r trafodaethau yn y darlithoedd.
Sgiliau pwnc penodol Dealltwriaeth ddyfnach a’r gallu i gloriannu gweithgareddau rheoli yn feirniadol mewn perthynas â marchnata – sy’n agweddau hynod bwysig mewn busnesau heddiw.
Sgiliau ymchwil Bydd angen gwneud rhywfaint o ymchwil i’r farchnad ar gyfer y gwaith cwrs a’r tiwtorialau, a thrwy hyn bydd y myfyriwr yn meithrin sgiliau ymchwil allweddol.
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i fyfyrwyr wneud defnydd priodol o feddalwedd prosesu geiriau a meddalwedd cyflwyno yn eu gwaith cwrs. Dylent hefyd ddefnyddio blackboard a gwneud ymchwil ar-lein

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5