System Cyfreithiol a Chyfiawnder Troseddol
- Cod y Modiwl
- CT10120
- Teitl y Modiwl
- System Cyfreithiol a Chyfiawnder Troseddol
- Blwyddyn Academaidd
- 2027/2028
- Semester
- Semester 1
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Dr Angharad James
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
LC10120
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
CT20120 neu LC20120
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Dr Nathan Gibbs
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Traethawd ysgrifenedig: 1,500 gair (gan gynnwys cynllun o 10%) | 40% |
| Asesiad Semester | Perfformiad Seminar: | 20% |
| Arholiad Semester | Arholiad nas gwelir ymlaen llaw (MCQ): 1.5 Awr 1.5 Awr | 40% |
| Asesiad Ailsefyll | Traethawd ysgrifenedig: 1500 o eiriau | 40% |
| Asesiad Ailsefyll | Adolygiad yn lle perfformiad seminar: 1000 o eiriau | 20% |
| Arholiad Ailsefyll | Arholiad nas gwelir ymlaen llaw (MCQ): 1.5 Awr 1.5 Awr | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- Arddangos dealltwriaeth sylfaenol o’r system gyfreithiol a’r system gyfiawnder troseddol, a’r rhyngweithiad rhyngddynt.
- Bod yn gyfarwydd â ffynonellau cyfreithiol a sut i ddod o hyd iddynt, a’u adnabod.
- Bod yn gyfarwydd â phrosesau llysoedd a chwrs treialon.
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl hwn yn cwmpasu holl elfennau’r system gyfreithiol sy’n hanfodol i radd cymhwyso yn y gyfraith, tra’n darparu trosolwg o’r system gyfiawnder troseddol. Cyfunir y ddau destun mewn modiwl sy’n cyflwyno’r berthynas a rhyngweithiad rhyngddynt.
Cynnwys
Llysoedd/hierarchaeth y llysoedd; ffynonellau cyfraith; cynsail; dehongliad statudol; y proffesiwn cyfreithiol; y farnwriaeth; ynadon; y rheithgor; systemau gwrthwynebus ac ymchwiliol; ADR; tribiwnlysoedd; yr heddlu; disgresiwn; grymoedd; PACE; treial/ grŵp gweithio llysoedd; dedfrydu; dedfrydiadau cadwriaethol ac ang-hadwriaethol; rheolau/gweithdrefnau carchardai.
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Seminarau rhyngweithiol. |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Cynghorir myfyrwyr ynghylch y cyfleoedd amrywiol y gall gradd yn y Gyfraith/Troseddeg ei gynnig |
| Datrys Problemau | Seminarau rhyngweithiol. |
| Gwaith Tim | Seminarau rhyngweithiol |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Paratoadau seminar ac ymchwil |
| Sgiliau pwnc penodol | Dealltwriaeth o ddulliau cyfreithiol |
| Sgiliau ymchwil | Cronfeydd ymchwil cyfreithiol. |
| Technoleg Gwybodaeth | Systemau TG a chronfeydd cyfreithiol sy’n hanfodol i ymchwil ac astudiaethau |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4
Law & Criminology,Aberystwyth University, Hugh Owen Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622712 : +44 : +44 (0)1970 622021
law@aber.ac.uk: law@aber.ac.uk
