Ecwiti a Chyfraith Ymddiriedolaethau

Cod y Modiwl
CT24920
Teitl y Modiwl
Ecwiti a Chyfraith Ymddiriedolaethau
Blwyddyn Academaidd
2027/2028
Semester
Semester 1
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Dr Nathan Gibbs
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Rhagofynion
CT10120 neu CT10420 neu CT20120 neu LC10120 neu LC10420 neu LC20120
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
LC24920
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
CT34920 neu LC34920
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Traethawd: 2000 o eiriau 50%
Arholiad Semester Arholiad: 2 Awr 2 Awr 50%
Asesiad Ailsefyll Traethawd: 2000 o eiriau 50%
Arholiad Ailsefyll Arholiad: 2 Awr 2 Awr 50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. Rhoi i fyfyrwyr ddealltwriaeth o’r rheolau cyfreithiol sy’n llywio dulliau sefydlu a rheoli Ymddiriedau.
  2. Cyflwyno’r myfyrwyr i sgiliau dadansoddi er mwyn gwerthfawrogi a chloriannu trafodion a chysyniadau eiddo cymhleth.
  3. Dysgu i ddatblygu sgiliau rhesymegol, gan gynnwys cymhwyso gwybodaeth berthnasol i ddatrys problemau cyfreithiol cymhleth.

Disgrifiad cryno

Sefydlir Ymddiriedau am lawer iawn o resymau, er enghraifft cydberchnogaeth ar y cartref priodasol, er mwyn osgoi talu treth; i ddarparu ar gyfer plant bach, yr henoed neu bobl sydd ag afiechyd meddwl, neu i amddiffyn pobl rhag mynd dros ben llestri neu'r hyn y canfyddir gan yr ymddiredwr fel mynd dros ben llestri. Yn yr achosion hyn, sefydlir yr ymddiriedau'n fwriadol ac fel arfer ar ôl cryn dipyn o ystyriaeth a chyngor ymlaen llaw. Mewn achosion eraill, mae'r rhoddi'r ddigymell ac yn y fan yma, mae'r gyfraith yn gorfod dod o hyd i fframwaith ar gyfer gweinyddu'r gronfa sy'n deillio ohono. Ystyrir hefyd swyddogaeth ymddiriedau wrth hybu polisi cyhoeddus a phwysigrwydd cynyddol ymddiriedau mewn cyfraith fasnachol. Hefyd, ystyrir swyddogaeth ac argaeledd rhwymediau ecwitiol.

Cynnwys

1(a). Egwyddorion a rhwymediau ecwitiol
datblygu ecwiti a rhwymediau ecwitiol
rhesymau am ddatblygu ymddiriedau
ymddiriedau fel dull o osgoi treth
ymddiriedau fel dyfeisiau diogelu
ymddiriedau ym myd masnach
(b). Rhwymediau a phwysigrwydd gweithdrefnau yng nghwrs achos yn ymarferol
gwaharddebau: yng nghwrs achos, terfynol a Mareva a
gorchmynion Anton Piller
cadw teitl ac olrhain
cyflawniad llythrennol
digollediad mewn ecwiti
cyfrif o elw
(c). Cyfraith Ymddiriedau

2. Ymddiriedau er budd personau
(a) Creu ymddiriedolaeth
Cymhwystra gofyn sicrwydd
bwriad i greu ymddiriedolaeth
ffurfioldebau bytholbarhadau
(b) Sicrwydd buddiolwyr
Ymddiriedau a Phwerau natur y buddiant llesiannol
(c) Sicrwydd eiddo

3. Etifeddiant

4. Ymddiriedau Elusennol

5. Cymdeithasau Anghorfforedig

6. Pwerau a Dyletswyddau Ymddiriedolwyr Safle Ymddiriedol Ymddiriedolwyr

7. Amrywio Ymddiriedau
Terfynu o dan Saunders yn erbyn Vautier
Amrywio ymddiriedau
Deddf Amrywio Ymddiriedau 1958
Ymddiriedolwyr

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Cyfathrebu Bydd trafodaethau seminar yn datblygu sgiliau cyflwyno a sgiliau dadlau llafar fel unigolion ac fel grwp.
Datrys Problemau Trafodaeth seminar/darlithoedd ymarfer datrys problemau.
Gwaith Tim Gweithgareddau grwp a thrafodaethau yn y seminarau.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd cymryd rhan mewn seminarau, ymarferion datrys problemau yn y dosbarth a’r arholiad yn datblygu gwahanol agweddau o ddatblygu academaidd personol, o ddeall a chyfeirnodi ffynonellau i ledaenu syniadau i eraill ar lafar, a thrwy ddefnyddio sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig.
Rhifedd Amherthnasol
Sgiliau pwnc penodol Darllen a deall deunyddiau perthnasol ym maes Cyfraith Ymddiriedau yn enwedig cyfraith achosion a dadansoddi academaidd.
Sgiliau ymchwil Caiff y sgiliau hyn eu datblygu wrth baratoi ar gyfer seminarau, y traethawd a’r arholiad.
Technoleg Gwybodaeth Mae sgiliau llyfrgell ac ymchwil yn sylfaenol wrth baratoi ar gyfer seminarau, y traethawd a’r arholiad.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5