Dioddefoleg

Cod y Modiwl
CT30320
Teitl y Modiwl
Dioddefoleg
Blwyddyn Academaidd
2027/2028
Semester
Semester 2
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Miss Demi John
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
CT20320 neu LC20820
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Miss Demi John

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Cyflwyniad Llafar Grwp: 20 Munud 50%
Arholiad Semester Arholiad wedi ei weld ymlaen llaw: 2 Awr 2 Awr 50%
Asesiad Ailsefyll Aseiniad: 2500 o eiriau 50%
Arholiad Ailsefyll Arholiad wedi ei weld ymlaen llaw: 2 Awr 2 Awr 50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. Dangos ymwybyddiaeth gadarn o'r prif ddamcaniaethau, safbwyntiau a chysyniadau a'u dealltwriaeth ohonynt, wrth astudio dioddefwyr ac erledigaeth.
  2. Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth o sut mae erledigaeth wedi'i greu'n gymdeithasol, wleidyddol ac yn gyfreithiol a sut mae hyn yn llywio polisïau, arferion a dadleuon yn lleol,yn genedlaethol ac yn rhyngwladol
  3. Cymhwyso theori troseddegol i wahanol sefyllfaoedd a myfyrio ar a datblygu dealltwriaeth o'r cysyniadau, damcaniaethau, polisïau ac arferion sy'n gysylltiedig â dioddefwyr ac erledigaeth.
  4. Nodi, esbonio a gwerthuso rôl dioddefwyr o fewn gwahanol cyflwyniadau swyddogol ac answyddogol a gallu asesu eu heffaith ar drosedd, gorfodi, cosbi a troseddwyr yn ogystal ag effaith pob un o'r rhain ar ddioddefwyr.
  5. Esbonio a dadansoddi cysyniad cynnil o'r dioddefwr
  6. Dangos dealltwriaeth o'r dioddefwr, eu hanghenion a'u rolau, o safbwyntiau cymdeithasegol a seicolegol.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl yn ystyried natur erledigaeth o safbwynt telerau cyfreithiol a chymdeithasegol. Gwneir hyn yn gyntaf o safbwynt y dioddefwr ac yna o gyfryngau neu beirniadaeth poblogaidd eraill. Bydd yn archwilio a herio rhai o'r cysyniadau ystrydebol o erledigaeth drwy ystyried gwahanol mathau o ddioddefwr. Yn olaf, bydd yn symud ymlaen i sefyllfa dioddefwyr o fewn y system gyfiawnder troseddol.

Cynnwys

Diffinio dioddefwyr: Dod yn ddioddefwr; Syniadau gwrthdystiedig o erledigaeth; Cyfyngiadau Cysyniadau cyfreithiol o ddioddefwr - Zemioleg ac ystyriaethau diddymu.

Canfyddiadau Dioddefwyr: Cyfreithiol; Cyfryngau a diwylliant poblogaidd; Troseddwr. Mathau o Ddioddefwr: Trais - Gwryw a Benywaidd dioddefwyr; Trais domestig - dynion a dioddefwyr benywaidd; Dioddefwyr trais y wladwriaeth; Dioddefwyr terfysgaeth; dioddefwyr hŷn; plant fel dioddefwyr.

Cyfranogiad Dioddefwyr: Yn y system gyfiawnder troseddol sydd yn eithrio; Cyfiawnder Adferol; Rôl newidiol dioddefwyr o fewn y system cyfiawnder troseddol. Canlyniadau Systemau sy'n canolbwyntio ar ddioddefwyr: Effaith dioddefwyr ar y system gyfiawnder troseddol; Effaith y system gyfiawnder troseddol ar ddioddefwyr

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Addasrwydd a gwydnwch Gallu gwella ar gyfer meddwl annibynnol a beirniadol. Sgiliau rheoli amser da wrth baratoi ar gyfer seminarau a chyflwyno gwaith ar amser
Cydlynu ag erail Yn ogystal â gwaith unigol, bydd y seminarau'n cynnwys gwaith tîm a thasgau sy'n caniatáu i fyfyrwyr gefnogi ei gilydd mewn wrth ryngweithio
Cyfathrebu proffesiynol Bydd sgiliau cyfathrebu llafar yn cael eu hannog a'u mireinio mewn seminarau a hefyd mewn darlithoedd. Bydd sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig yn cael eu hymarfer drwy gymryd nodiadau mewn darlithoedd ac astudiaethau preifat ac wrth gyflwyno gwaith ysgrifenedig yn ffurfiol mewn arholiadau.
Datrys Problemau Creadigol Bydd myfyrwyr yn astudio ffynhonellau cyfreithiol, damcaniaethol a chymdeithasegol i ganfod sut mae'r rhain yn rhyngweithio i ddatrys rhai materion cyfraith a rheoli troseddu cymhleth.
Gallu digidol Bydd paratoi ar gyfer seminarau, y cyflwyniad, a'r arholiad i gyd yn gofyn am ddefnyddio cronfeydd data'r llyfrgell a chronfeydd data electronig eraill.Bydd myfyrwyr yn cael eu cyfeirio at urlau defnyddiol ac yn cael eu hannog i adfer data yn electronig.Bydd myfyrwyr yn cyflwyno eu haseiniad yn electronig, ac yn cyflwyno gan ddefnyddio poster electronig
Meddwl beirniadol a dadansoddol Disgwylir i fyfyrwyr ddarllen testunau a dethol o'r rhain yn ogystal a deunyddiau adeiladu ar eu darlithoedd ac yn profi eu dysgu eu hunain, yn enwedig mewn seminarau. Bydd hyn yn eu galluogi i gymryd mwy o reolaeth dros eu dysgu ac i ddod o hyd i feysydd problemus y byddant yn cael eu cefnogi i oresgyn
Sgiliau Pwnc-benodol Disgwylir i fyfyrwyr ddod o hyd i ddeunydd ar-lein ac yn y llyfrgell ac i ddefnyddio'r deunyddiau hyn ar gyfer: cyflwyniadau, seminar, paratoi ac arholiadau. Byddant yn cael eu hannog i ddatblygu sgiliau ymchwil unigol er mwyn cyflawni'r tasgau hyn yn effeithiol.
Synnwyr byd go iawn Bydd deall a gwerthuso data ymchwil meintiol perthnasol yn rhan o'r modiwl, o leiaf mewn perthynas â damcaniaethau penodol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6