Cyflwyniad i Droseddeg

Cod y Modiwl
CT32220
Teitl y Modiwl
Cyflwyniad i Droseddeg
Blwyddyn Academaidd
2027/2028
Semester
Semester 1
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Miss Demi John
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
CT22220 neu LC22220
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
LC32220
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Dr Heather Norris

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Traethawd: 2500 o eiriau 40%
Asesiad Semester Perfformiad seminar: 20%
Arholiad Semester Arholiad Ar Lein: 1.5 Awr Nid yw'r arholiad yn cael ei weld ymlaen llaw 1.5 Awr 40%
Asesiad Ailsefyll Adolygiad yn lle perfformiad seminar: 1000 o eiriau 20%
Asesiad Ailsefyll Traethawd: Ailsefyll yr elfen a fethwyd 2500 o eiriau 40%
Arholiad Ailsefyll Arholiad ar lein: 1.5 Awr nawelir ymlaen llaw 1.5 Awr 40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth ddatblygedig o ddamcaniaethau troseddegol craidd.
  2. Cloriannu’n feirniadol sail ontolegol ac epistemolegol ystod eang o ddamcaniaethau ym maes troseddeg.
  3. Adolygu’n gydlynol a gwerthfawrogi sut y mae datblygiadau mewn theori yn esblygu.
  4. Deall ac asesu sut y mae troseddeg ddamcaniaethol wedi helpu i siapio’r system a’r prosesau cyfiawnder troseddol cyfoes.
  5. Dadansoddi’n feirniadol gryfderau a chyfyngiadau potensial esboniadol theori.

Disgrifiad cryno

Mae’r modiwl hwn yn ystyried safbwyntiau damcaniaethol allweddol sy’n helpu i esbonio troseddu ac anrhefn gymdeithasol mewn cymdeithas. Mae’n gosod safbwyntiau troseddegol yn eu cyd-destunau cymdeithasol a gwleidyddol gan ystyried eu perthnasedd a’u cymhwysiad yn y gymdeithas gyfoes a sut maent wedi llywio systemau a phrosesau cyfiawnder troseddol.

Cynnwys

Bydd y prif themau a ystyrir yn cynnwys:

Cyflwyniad i Droseddeg
Troseddeg Glasurol a Dewis Rhesymegol
Troseddeg Fiolegol a’r Ysgol Bositifaidd
Troseddeg Gymdeithasegol
Durkheim a Ffwythiannaeth Strwythurol
Damcaniaethau Straen Cymdeithasol
Ecoleg Gymdeithasol ac Anhrefn Gymdeithasol
Troseddeg Is-ddiwylliannol
Damcaniaeth Rheolaeth Gymdeithasol
Labelu
Troseddeg Feirniadol

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Cyfathrebu Llafar: Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau cyfathrebu llafar trwy gymryd rhan mewn trafodaethau seminar. Byddant yn dysgu i fod yn glir ac yn uniongyrchol wrth drafod. (Dim asesiad) Ysgrifenedig: Bydd disgwyl i'r myfyrwyr gyflwyno eu gwaith wedi’i eirbrosesu ac asesir eu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig ar sail eu gallu i fynegi syniadau’n effeithiol, sgiliau iaith da a dadl resymegol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Gwell gallu i feddwl yn annibynnol ac yn feirniadol. Sgiliau rheoli amser da wrth baratoi ar gyfer seminarau a chyflwyno gwaith yn brydlon.
Datrys Problemau Bydd cymathu ystod o ddamcaniaethau cymhleth yn datblygu gallu myfyrwyr i ddatrys problemau, a bydd ystod o ymarferion rhyngweithiol yn y darlithoedd, seminarau a'r aseiniad yn annog meddwl ochrol.
Gwaith Tim Bydd gweithio mewn grwpiau bach a seminarau grŵp o fewn y seminarau yn meithrin sgiliau gweithio mewn tim.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd darlithoedd a seminarau rhyngweithiol yn annog myfyrwyr i feddwl yn feirniadol ac yn ochrol, gydag ymarferion a gynlluniwyd i ddarparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu cysyniadau haniaethol, a chaniatáu i fyfyrwyr fyfyrio ynghylch eu dysgu eu hunain.
Rhifedd Bydd deall a chloriannu data ymchwil meintiol perthnasol yn elfen bwysig o’r modiwl.
Sgiliau pwnc penodol Mae’r modiwl hwn yn darparu cyfle i’r myfyrwyr nodi, dadansoddi, cloriannu ac ymarfer cyfres o sgiliau yn ymwneud a deall theori troseddegol.
Sgiliau ymchwil Caiff sgiliau ymchwil eu datblygu trwy ddod o hyd i destunau ar wahanol ddamcaniaethau troseddegol a’u dadansoddi’n feirniadol er mwyn llunio a chyflwyno trafodaeth wybodus ar gyfer yr asesiadau. Bydd y myfyrwyr hefyd yn datblygu sgiliau ymchwil wrth baratoi ar gyfer y seminarau, fel unigolion ac fel grwp.
Technoleg Gwybodaeth Bydd paratoi ar gyfer seminarau, yr aseiniadau a’r arholiad oll yn golygu bod angen defnyddio cronfeydd data’r llyfrgell a chronfeydd data electronig eraill.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6