Gwybodaeth am Fodiwlau

Cod y Modiwl
CY20020
Teitl y Modiwl
Y Mabinogi a'r chwedl Arthuraidd
Blwyddyn Academaidd
2026/2027
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Exclusive (Any Acad Year)

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad  2 Awr  60%
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad  2 Awr  60%
Asesiad Ailsefyll Traethawd  2000 o eiriau  40%
Asesiad Semester Traethawd  2000 o eiriau  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Adnabod testunau'r Pedair Cainc a thestunau mwyaf perthnasol ar gyfer olrhain datblygiadau cynharaf y chwedl Arthuraidd.

Pwyso a mesur gwerth llenyddol y testunau a'r dadleuon o blaid ac yn erbyn y gred fod Arthur yn berson hanesyddol o gig a gwaed.

Gwerthfawrogi o leiaf ddwy gerdd gynnar o safbwynt yr hyn a ddywedir ynddynt am y chwedl Arthuraidd, a dangos dealltwriaeth ohonynt.Gwerthfawrogi testunau rhyddiaith y Pedair Cainc a ‘Culhwch ac Olwen’.

Olrhain trosglwyddiad ansefydlog a gwerthfawr y testunau a astudir drwy gyfrwng llawysgrifau cynnar.

Dangos dealltwriaeth o natur y gymdeithas yn yr Oesoedd Canol o safbwynt Cymreig.

Disgrifiad cryno

Mae chwedlau cynharaf yr iaith Gymraeg yn drysorau llenyddol o bwys rhyngwladol. Mae eu poblogrwydd yn amlwg heddiw yng Nghymru a thu hwnt, a’u pwysigrwydd yn ddi- gwestiwn ym maes llenyddiaeth yr Oesoedd Canol. Ni fyddai astudiaeth o lenyddiaeth yr Oesoedd Canol yn gyflawn hebddynt.
Canolbwyntir ar agweddau llenyddol Pedair Cainc y Mabinogi a'r traddodiadau cynnar am Arthur, eu harddull, eu hadeiladwaith, eu cymeriadaeth a’u technegau naratif. Hefyd trafodir syniadau’r prif ysgolheigion yn y maes hwn. Yn y dosbarthiadau testunol rhoddir sylw arbennig i strwythur un o’r ceinciau a gwneir cymhariaeth rhyngddi a’r ceinciau eraill. Mae hefyd yn gyflwyniad defnyddiol i’r ddisgyblaeth o ddarllen testunau rhyddiaith Cymraeg Canol.
Arweinir y myfyrwyr drwy bob un o’r testunau yn eu tro – y Pedair Cainc, 'Culhwch ac Olwen' a dwy gerdd Arthuraidd gynnar – gan roi sail gadarn iddynt o ran yr hyn y mae’r cymeriadau’n ei wneud ac o ran llif y stori. Darllenir un gainc yn fanwl ac fe ddarllenir rhai darnau o’r chwedlau eraill. Canolbwyntir ar y cymeriadau byw a chyffrous a bortreadir yn y gwaith. Archwilir y rhesymeg waelodol sy’n sail i’r chwedlau o ran eu hadeiladwaith, ac fe’u cymharir â’i gilydd.

Cynnwys

2 awr o ddarlithoedd yr wythnos am gyfnod o 10 wythnos.
Yn yr awr gyntaf bob wythnos, trafodir cynnwys, cefndir a chyd-destun y testunau'n fanwl. Yn yr ail awr, darllenir yn fanwl un o'r testunau yn yr iaith wreiddiol.
Astudir Pedair Cainc y Mabinogi – Pwyll Pendefig Dyfed, Branwen (neu Bendigeidfran), Manawydan fab Llŷr a Math fab Mathonwy – ynghyd â'r brif chwedl Arthuraidd gynnar, Culhwch ac Olwen. Trafodir hefyd rai cerddi Arthuraidd cynnar, megis 'Pa Ŵr yw'r Porthor' a 'Preiddiau Annwfn'. Darllenir yn fanwl ran o'r bedwaredd gainc. Ceir cyfle, felly, i ddarllen darn o destun gwreiddiol mewn Cymraeg Canol yn fanwl, a chyfle hefyd i astudio prif chwedlau rhyddiaith Cymraeg yr Oesoedd Canol.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Addasrwydd a gwydnwch Mae rhoi ystyriaeth i berthynas gwahanol destunau yn ôl y dyddiadau pan gawsant eu creu yn rhan o’r gwaith.
Cydlynu ag erail Anogir y myfyrwyr i drafod a chyd-ddarllen yn y darlithoedd wrth astudio’r testunau.
Cyfathrebu proffesiynol Ceir yn y darlithoedd elfen o drafod a chyd-ddarllen, ac anogir y myfyrwyr i gyfathrebu’n effeithiol yn hyn o beth. At hynny, disgwylir i’r myfyrwyr gyfrathrebu’n effeithiol yn ysgrifenedig wrth lunio’r traethawd ac wrth gwblhau’r arholiad.
Datrys Problemau Creadigol Anogir y myfyrwyr i wella eu gallu i ddarllen a dehongli testunau Cymraeg Canol yn wythnosol.
Gallu digidol Anogir y myfyrwyr i wneud defnydd o’r Bwrdd Du ac i ddod o hyd i ddelweddau o rai o’r ffynonellau perthnasol ar lein (er enghraifft, cerddi o Lyfr Du Caerfyrddin ar wefan y Llyfrgell Genedlaethol).
Meddwl beirniadol a dadansoddol Datblygir drwy’r darlithoedd allu’r myfyrwyr i ddatrys problemau yn ymwneud â darllen yn fanwl destunau Cymraeg Canol.
Myfyrdod Datblygir sgiliau hanfodol (megis delio â llif gwaith yn wythnosol, trefnu amser yn effeithlon a chyflawni ymchwil yn annibynnol) drwy gydol y modiwl.
Sgiliau Pwnc-benodol Asesir y gallu i ymchwilio’n annibynnol ac i bwyso a mesur testunau a gwybodaeth yn feirniadol yn Asesiad 1 a 2.
Synnwyr byd go iawn Y gallu i ddarllen a deall testunau barddonol a rhyddiaith Cymraeg Canol, a thrwy hynny i ddysgu mwy am ddatblygiad yr iaith Gymraeg o’r Oesoedd Canol hyd heddiw.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5