Rhyddiaith y Dadeni

Cod y Modiwl
CY33620
Teitl y Modiwl
Rhyddiaith y Dadeni
Blwyddyn Academaidd
2027/2028
Semester
Semester 2
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Dr Bleddyn Huws
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Traethawd: 3000 o eiriau 40%
Arholiad Semester Arholiad: 2 Awr 2 Awr 60%
Asesiad Ailsefyll Traethawd: 3000 o eiriau 40%
Arholiad Ailsefyll Arholiad: 2 Awr 2 Awr 60%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. Bydd myfyrwyr a fydd wedi dilyn y cwrs hwn yn gallu trafod rhai o brif gyflawniadau'r dyneiddwyr Cymraeg a byddant yn dra ymwybodol o bwysigrwydd y cyflawniadau hynny.
  2. Byddant yn gallu trafod y syniadau newydd ym maes dysg a chrefydd a ddaeth i Gymru o'r Cyfandir yn yr unfed ganrif ar bymtheg.
  3. Byddant yn gallu trafod y prif gerrig milltir yn hanes cyfieithu'r Ysgrythurau i'r Gymraeg ac yn gallu trafod yn feirniadol gyfraniad rhai unigolion tuag at y gwaith cyfieithu.
  4. Byddant yn gallu trafod gwaith rhai o'r dyneiddwyr Cymraeg gan ei osod yn ei gyd-destun hanesyddol a chymdeithasol.

Disgrifiad cryno

Astudiaeth o ragymadroddion y dyneiddwyr i'w gweithiau ynghyd ag astudiaeth o gynnrych llenyddol dyneiddwyr penodol megis William Salesbury, Gruffudd Robert a William Morgan.

Cynnwys

.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Cyfathrebu proffesiynol Y gallu i lunio trafodaeth wybodus ac argyhoeddiadol ar gyfraniad rhai o lenorion Cymraeg cyfnod y Dadeni.
Datrys Problemau Creadigol Y gallu i resymu a dadansoddi’n ddeallus ar sail gwaith darllen erthyglau ac ymdriniaethau beirniadol.
Meddwl beirniadol a dadansoddol Y gallu i ddeall prif gysyniadau deallusol cyfnod y Dadeni Dysg; Y gallu i ddeall syniadau beirniadol yng nghyd-destun y Dadeni yng Nghymru.
Myfyrdod Y gallu i ffurfio barn bersonol ar bynciau yn ymwneud â llenyddiaeth Gymraeg cyfnod y Dadeni.
Sgiliau Pwnc-benodol Y gallu i ddarllen a deall a gwerthfawrogi enghreifftiau o ryddiaith Gymraeg y cyfnod Modern Cynnar.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6