Gwybodaeth am Fodiwlau

Cod y Modiwl
CY35220
Teitl y Modiwl
Barddoniaeth Gymraeg Ddiweddar (1979-)
Blwyddyn Academaidd
2026/2027
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Rhestr Ddarllen

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad  2 Awr  60%
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad  2 Awr  60%
Asesiad Ailsefyll Traethawd  2000 o eiriau  40%
Asesiad Semester Traethawd  2000 o eiriau  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Trafod yn feirniadol, ar lafar ac yn ysgrifenedig, weithiau llenyddol o'r cyfnod dan sylw, gan ystyried elfennau megis eu syniadaeth/ideoleg, eu crefft a'u strwythur, a'u perthynas a'r traddodiad llenyddol Cymraeg ac a mudiadau llenyddol rhyngwladol lle bo'r rheiny'n berthnasol.

Ystyried, cloriannu a gwerthfawrogi'r gweithiau llenyddol a astudir yng nghyd-destun hanesyddol a chymdeithasol y cyfnod diweddar.

Ystyried, cloriannu a gwerthfawrogi'r gweithiau llenyddol a astudir mewn perthynas a safonau beirniadaeth lenyddol berthnasol.

Disgrifiad cryno

Modiwl yw hwn a fydd yn archwilio datblygiad barddoniaeth Gymraeg o'r flwyddyn 1979 (blwyddyn y Refferendwm cyntaf ar Ddatganoli) ymlaen. Bydd y cwrs yn asesu cyfraniad beirdd diweddar i'r llen ac yn dadansoddi adlewyrchiad digwyddiadau hanesyddol yn eu gwaith. Ystyrir yr elfennau ceidwadol yn ogystal a'r rhai blaengar yn ein barddoniaeth ddiweddar.

Cynnwys

Bydd y modiwl yn dilyn trefn gronolegol i raddau helaeth ac yn rhoi cyfle i astudio a thrafod gwaith beirdd a fu’n gynhyrchiol o’r 1980au hyd heddiw.
Byddwn yn clywed ystod eang o leisiau, gan gynnwys rhai a gyfansoddodd yn benodol ar gyfer caneuon, ac yn craffu ar grefft, awen a syniadaeth rhai o feirdd mwyaf adnabyddus y cyfnod ynghyd â rhai nad ydynt wedi dod i sylw amlwg
Byddwn yn ystyried y traddodiad llenyddol Cymraeg yng nghyd-destun mudiadau llenyddol rhyngwladol perthnasol.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cydlynu ag erail Bydd cyfle i fyfyrwyr gyd-drafod a rhannu syniadau wrth drafod testunau penodol.
Meddwl beirniadol a dadansoddol Dadansoddi testunau o safbwynt generig ac adnabod confensiynau llenyddol penodol.
Sgiliau Pwnc-benodol Dadansoddir testunau Cymraeg o safbwynt ieithyddol, diwylliannol a llenyddol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6