Cyflwyniad i Gyfieithu ar y Pryd
- Cod y Modiwl
- CYM6110
- Teitl y Modiwl
- Cyflwyniad i Gyfieithu ar y Pryd
- Blwyddyn Academaidd
- 2027/2028
- Semester
- Semester 1
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Ms Elizabeth Morse
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Prawf cyfieithu ar y pryd 1 (o’r Gymraeg i’r Saesneg): | 40% |
| Asesiad Semester | Prawf cyfieithu ar y pryd 2 (o’r Gymraeg i’r Saesneg): | 40% |
| Arholiad Semester | 20% | |
| Asesiad Ailsefyll | Prawf cyfieithu ar y pryd 1 (o’r Gymraeg i’r Saesneg): | 40% |
| Asesiad Ailsefyll | Prawf cyfieithu ar y pryd 2 (o’r Gymraeg i’r Saesneg): | 40% |
| Arholiad Ailsefyll | (1000 o eiriau) | 20% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- Rhoi gwerthusiad beirniadol o swyddogaeth cyfieithu ar y pryd mewn cyd-destun lleol a rhyngwladol;
- Arddangos sgiliau gwrando, dehongli, cyflwyno a chyfathrebu’n raenus yn y Gymraeg a’r Saesneg;
- Gweithio’n annibynnol a chymhwyso’r sgiliau hynny sydd eu hangen i gyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg.
Disgrifiad cryno
Yn y modiwl hwn esbonnir ychydig o gefndir cyfieithu ar y pryd yng Nghymru a thu hwnt, a thrafodir cyd-destunau gwahanol Cyfieithu ar y pryd. Mae gwedd ymarferol bwyisg i’r modiwl hwn, a cheir cyfle i ymarfer a chysgodi cyfieithydd ar y pryd profiadol. Y bwriad yw paratoi myfyrwyr a datblygu eu hyder ar gyfer gweithio mewn swyddi cyfieithu proffesiynol yng Nghymru.
Nod
Pwrpas y modiwl hwn yw cynnig blas cychwynnol i fyfyrwyr o’r maes cyfieithu ar y pryd, datblygu sgiliau cyfieithu ar y pryd, a hynny mewn amgylchedd cefnogol.
Cynnwys
Dysgir y modiwl ar ffurf dau ddiwrnod dwys, a bydd y sesiynau wyneb yn wyneb hynny yn cynnwys gweithdai yn ymwneud â’r canlynol:
1. Cyd-destunau cyfieithu ar y pryd - gweithdy
2. Mireinio sgiliau llefaru a chyfathrebu proffesiynol - gweithdy
3. Ymarfer Cyfieithu ar y Pryd - gweithdy
4. Ymarfer Cyfieithu ar y Pryd – gweithdy
5. Ymarfer Cyfieithu ar y Pryd – gweithdy
6. Ymarfer Cyfieithu ar y Pryd – gweithdy
7. Adolygu a pharatoi ar gyfer yr asesu - gweithdy
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Llafar – trwy drosi’r hyn a gyfathrebir mewn un iaith i iaith arall. Ysgrifenedig – cyflwyno gwybodaeth am sefyllfa cyfieithu ar y pryd ar ffurf adroddiad. |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Mae’r modwl yn un proffesiynol sy’n meithrin sgil defnyddiol a pherthnasol iawn i yrfaoedd yr unigolion sy’n ei ddilyn. |
| Datrys Problemau | Prosesu gwybodaeth ac ystyried sut i’w throsi i iaith arall ar fyrfyfyr. |
| Gwaith Tim | Ceir sefyllfaoedd torfol sy’n berthnasol i waith cyfieithydd ar y pryd er mwyn cynnig cyfleoedd gwella perfformiad ac ymarfer. |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Cyfieithu ar y pryd trwy gyfres o dasgau gyda chyfle i wrando a myfyrio ar eu perfformiad ac ail recordio |
| Rhifedd | Rhaid trosi gwybodaeth rifyddol, all fod yn dechnegol ar adegau, o un iaith i iaith arall. |
| Sgiliau pwnc penodol | Mae’n fodwl arbenigol ac ymarferol sy’n gysylltiedig â throsi o un iaith sef y Gymraeg i iaith arall sef y Saesneg. |
| Sgiliau ymchwil | Paratoi ac ystyried geirfa/termau allweddol oddi fewn i derfyn amser penodol i’w trosi o un iaith i’r llall. Llunio adroddiad beirniadol. |
| Technoleg Gwybodaeth | Defnyddir cyfrifiaduron a rhaglenni recordio cydnabyddedig ynghyd ag offer cyfieithu ar y pryd. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7
Welsh and Celtic Studies,Aberystwyth University, Parry-Williams Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622137 : +44 : +44 (0)1970 622021
cymraeg@aber.ac.uk: cymraeg@aber.ac.uk
