Cyfieithu ar y Pryd : Arfer ac Ymarfer
- Cod y Modiwl
- CYM6420
- Teitl y Modiwl
- Cyfieithu ar y Pryd : Arfer ac Ymarfer
- Blwyddyn Academaidd
- 2027/2028
- Semester
- Semester 2
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- To Be Arranged
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Rhagofynion
-
CYM6110 neu CYM6110
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Dau brawf Cyfieithu ar y Pryd: - 10 munud yr un. | 80% |
| Asesiad Semester | Adroddiad Adfyfyriol: 2000 Words | 20% |
| Asesiad Ailsefyll | Adroddiad Adfyfyriol: 2000 Words | 20% |
| Asesiad Ailsefyll | Dau brawf Cyfieithu ar y Pryd: - 10 munud yr un. | 80% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- 1. Dadansoddi’n feirniadol rôl a swyddogaeth y cyfieithydd ar y pryd ac arddangos dealltwriaeth eglur o’r prif ddamcaniaethau ym maes cyfieithu ar y pryd;
- 2. Llefaru’n glir yn y cywair priodol a deall a dehongli’n gywir wrth gyfieithu ar y pryd;
- 3. Arddangos sgiliau ymchwil annibynnol ac amgyffred elfennau sylfaenol pwnc arbenigol/technegol a’r derminoleg berthnasol, yn ogystal â chasglu geirfa ddwyieithog ar gyfer y derminoleg honno;
- 4. Cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg mewn nifer o gyd-destunau a genres gwahanol a gwerthuso eu gwaith eu hunain yn feirniadol.
Disgrifiad cryno
Bydd y modwl yn adeiladu ar y sgiliau sydd eisoes wedi’u hennill wrth i fyfyrwyr ddilyn y modwl Cyflwyniad i Gyfieithu ar y Pryd. Yn y modwl hwn yn benodol, bydd myfyrwyr yn cael cyfleoedd ymarferol i gyfieithu ar y pryd mewn cyd-destunau gwahanol ac i adfyfyrio ar eu perfformiad.
Cynnwys
Dysgir y modiwl ar ffurf dau ddiwrnod dwys, a bydd y sesiynau wyneb yn wyneb hynny yn cynnwys gweithdai yn ymwneud â’r canlynol:
hanes a theori cyfieithu ar y pryd
dadansoddi’r prif ddamcaniaethau rhyngwladol sy’n gyfoes ym maes cyfieithu ar lafar
• Trafod yr ystod o sgiliau sy’n angenrheidiol wrth gyfieithu ar y pryd yn effeithiol: cywair llais, stamina, rheoli goslef y llais, ynganu, strategaethau cynorthwyo’r cof, cymryd nodiadau, gwrando a siarad ar yr un pryd a pharatoi ar gyfer cyfarfodydd.
• Ymgyfarwyddo ag adnoddau a fydd yn eu cynorthwyo wrth ymchwilio’n annibynnol i feysydd arbenigol wrth baratoi ar gyfer gwaith cyfieithu ar y pryd, e.e. ffynonellau electroneg, terminoleg a geirfa arbenigol. Canolbwyntir ar loywi Saesneg y myfyrwyr, siarad yn eglur a chyfieithu’n naturiol.
• Ymgyfarwyddo a defnyddio offer fydd yn caniatáu i fyfyrwyr ymarfer y dechneg o gyfieithu ar y pryd, recordio eu cyfieithiadau a gwerthuso eu perfformiadau gyda thiwtoriaid profiadol. Bydd y myfyrwyr yn ymarfer cyfieithu’n olynol cyn mynd ati i ymarfer cyfieithu ar y pryd.
• Cyfieithu mewn nifer o gyd-destunau gwahanol gan edrych ar genres gwahanol (e.e. iaith busnes, hamdden, cyfarfodydd ffurfiol, darlithiau academaidd cyhoeddus, cyfieithu ym meysydd crefydd, gwleidyddiaeth a’r gyfraith). Anogir y myfyrwyr i werthuso eu gwaith eu hunain, yn ogystal â gwaith ei gilydd. Dadansoddir gwallau iaith ac awgrymir gwelliannau, yn ogystal â thrafod cryfderau a rhannu arfer da.
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Llafar – trwy drosi’r hyn a gyfathrebir mewn un iaith i iaith arall. |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Mae’r modwl yn un proffesiynol sy’n meithrin sgil defnyddiol a pherthnasol iawn i yrfaoedd yr unigolion sy’n ei ddilyn. |
| Datrys Problemau | Prosesu Gwybodaeth ac ystyried sut i’w throsi i iaith arall ar fyrfyfyr. |
| Gwaith Tim | Ceir sefyllfaoedd torfol sy’n berthnasol i waith cyfieithydd ar y pryd er mwyn cynnig cyfleoedd gwella perfformiad ac ymarfer. |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Cyfieithu ar y pryd trwy gyfres o dasgau gyda chyfle i wrando a myfyrio ar eu perfformiad ac ail recordio. |
| Rhifedd | Rhaid trosi gwybodaeth rifyddol, all fod yn dechnegol ar adegau, o un iaith i iaith arall. |
| Sgiliau pwnc penodol | Mae’n fodwl arbenigol ac ymarferol sy’n gysylltiedig â throsi o un iaith sef y Gymraeg i iaith arall sef y Saesneg. |
| Sgiliau ymchwil | Paratoi ac ystyried geirfa/termau allweddol oddi fewn i derfyn amser penodol i’w trosi o un iaith i’r llall. |
| Technoleg Gwybodaeth | Defnyddir cyfrifiaduron a rhaglenni recordio cydnabyddedig ynghyd ag offer cyfieithu ar y pryd. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7
Welsh and Celtic Studies,Aberystwyth University, Parry-Williams Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622137 : +44 : +44 (0)1970 622021
cymraeg@aber.ac.uk: cymraeg@aber.ac.uk
