Cefn gwlad a'r ddinas: prosesau o newid a gwrthdaro

Cod y Modiwl
DA10520
Teitl y Modiwl
Cefn gwlad a'r ddinas: prosesau o newid a gwrthdaro
Blwyddyn Academaidd
2027/2028
Semester
Semester 1
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Rhys Dafydd Jones
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
GS10220
English version of this module
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Dr Hywel Griffiths

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Traethawd: 1500 o eiriau 50%
Asesiad Semester Asesiad diwedd modiwl: 50%
Asesiad Ailsefyll Asesiad diwedd modiwl: 50%
Asesiad Ailsefyll Traethawd: 1500 o eiriau 50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. Adnabod ac esbonio'r prosesau allweddol sy'n dylanwadu ar newid cyfoes yng nghefn gwlad ac yn y ddinas.
  2. Gwerthuso'r prosesau allweddol sy'n dylanwadu ar newidiadau yng nghefn gwlad ac yn y ddinas.
  3. Cymhwyso ystod o lenyddiaeth ddamcaniaethol a chysyniadol perthnasol er mwyn esbonio newidiadau yng nghefn gwlad ac yn y ddinas.
  4. Gwerthuso'r goblygiadau polisi a goda o'r fath newid.
  5. Arddangos sgiliau darllen, dehongli, a gwerthuso beirniadol.

Disgrifiad cryno

Ystyria'r modiwl y ffyrdd mae daearyddwyr a gwyddonwyr cymdeithasol eraill wedi deall ac archwilio gofodau trefol a gwledig, a'r cysylltiadau rhyngddynt. Archwilir y safbwyntiau hyn yng nghyd-destun newidiadau economaidd, demograffaidd, cymdeithasol, a diwylliannol mewn sefyllfaoedd gwledig a threfol ers diwedd yr Ail Ryfel Byd. Yn aml, arweinia'r newidiadau hyn at wrthdaro ynglŷn ag ystyr gofodau gwledig a threfol, a'r bobl, gwerthoedd, ac ymddygiad sy'n 'perthyn' yno. Ystyria'r modiwl sut y daw tensiynau i'r wyneb mewn gwahanol ffyrdd, a strategaethau ar gyfer cyd-fyw cadarnhaol.

Cynnwys

Rhennir y modiwl yn ddwy ran sylweddol: 'Cefn Gwlad' ac 'Y Ddinas'. Mae pob rhan yn cynnwys 8 x darlith 1 awr a 2 x seminar 1 awr. Bydd ‘Y Wlad’ yn ymdrin â themâu gan gynnwys newid amaethyddol, newidiadau economaidd yng nghefn gwlad, cadwraeth a gwarchodaeth wledig, a newid ac amrywiaeth poblogaeth wledig. Bydd ‘Y Ddinas’ yn ymdrin â themâu gan gynnwys dylunio a chynllunio trefol, newidiadau economaidd trefol, newidiadau poblogaethol a demograffaidd trefol, a llywodraethu trefol. Bydd adrannau rhagarweiniol a chau byr yn cael eu cynnal yn ystod yr wythnosau cyntaf a'r olaf, yn ymdrin â cynefino, diffiniadau a dulliau o ymdrin ag astudiaethau trefol a gwledig, a goblygiadau polisi.

Mae'r modiwl yn cynnwys 20 x darlith 1 awr a seminarau 1 awr bob pythefnos (n=5) i gefnogi ymgysylltiad myfyrwyr â chynnwys, paratoi aseiniadau, a sgiliau.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Cyfathrebu Gwneir; sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig ar gyfer y gwaith cwrs; sgiliau ar lafar mewn trafodaethau dosbarth ac ati.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Gwneir, drwy sesiynau cymhwyso gwybodaeth
Datrys Problemau Gwneir, drwy gynnwys y cwrs (e.e. diffinio gofodau gwledig a threfol; ystyried goblygiadau polisi).
Gwaith Tim Gwneir, drwy trafodaethau mewn grwpiau bychain yn y dosbarth
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Gwneir, drwy sesiynau ymarferol a gysylltir â'r modiwl wedi'u ffocysu ar gefnogi cynnwys a sgiliau astudio.
Rhifedd Ddim yn benodol, er mae'n bosib y daw hwn i mewn i gynnwys y cwrs ar adegau.
Sgiliau pwnc penodol Gwneir, drwy ymwneud â syniadau damcaniaethol cyfoes sy'n sail i ddadleuon cyfredol mewn daearyddiaeth wledig a threfol.
Sgiliau ymchwil Gwneir, drwy ymwneud ag ymchwil cyfredol wrth baratoi'r traethawd a'r asesiad diwedd modiwl.
Technoleg Gwybodaeth Gwneir, drwy gynhyrchu'r gwaith cwrs a defnyddio amgylcheddau dysgu rhithiol

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4