Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
DA31720
Teitl y Modiwl
Rheoli'r Amgylchedd Gymreig
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Portffolio  2500 o eiriau  70%
Asesiad Ailsefyll Sgript ar gyfer Cyflwyniad seminar  10 Munud  30%
Asesiad Semester Portffolio  2500 o eiriau  70%
Asesiad Semester Cyflwyniad seminar  10 Munud  30%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

​1. Dangos gwybodaeth am y prosesau ffisegol sydd wedi llunio amgylchedd naturiol Cymru a gwerthfawrogiad beirniadol o ddylanwad gweithgaredd dynol ar amgylchedd a thirwedd Cymru.

2. Trafod yn feirniadol faterion amgylcheddol cyfoes allweddol yng Nghymru, trwy gyfeirio at enghreifftiau a pholisiau.

3. Cyflwyno cysyniadau a modelau daearyddol i esbonio nodweddion a phrosesau yn amgylchedd Cymru, ac arddangos damcaniaethau a dadleuon daearyddol gydag enghreifftiau o Gymru.

4. Dangos dealltwriaeth o bolisi amgylcheddol ac arfer proffesiynol wrth reoli amgylchedd Cymru, a'ch cyfraniad posibl i'r sector.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn wedi'i gynllunio i gyflwyno myfyrwyr i amgylchedd naturiol Cymru, y prosesau a'r dylanwadau sy'n llunio ei esblygiad, a'r materion cyfredol a fydd yn llywio'i ddyfodol.

Cynnwys

Gellir rhannu'r modiwl yn bedair prif thema, a bydd pob thema yn cael ei addysgu trwy ddwy ddarlith, seminar, ac ymweliad yn y gweithle neu alwad cynhadledd gyda pherson proffesiynol sy'n gysylltiedig a'r thema:

Mae'r modiwl yn cloi gyda:
Thema 1: Cynllunio ar gyfer Dyfodol Proffesiynol, a fydd yn rhoi arweiniad i fyfyrwyr ar sut i chwilio a gwneud cais am swyddi yn y sector amgylcheddol yng Nghymru, ac ymchwilio i'r dulliau o gyfathrebu Daearyddiaeth.
Thema 2: Tywydd a Hinsawdd Cymru.
Thema 3: Ffurfio Siâp Tir Cymru.
Thema 4: Defnydd tir yng Nghymru
Thema 5: Ynni ac Amgylchedd Cymru.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Datblygir sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig trwy’r portffolio. Datblygir sgiliau cyfathrebu llafar trwy drafodaeth dosbarth a chyflwyniad seminar.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd pob thema’n cynnwys adran ymarferol fer a fydd yn llywio cynllunio gyrfa myfyrwyr trwy drafod enghreifftiau o broffesiynau sy'n ymwneud â'r thema dan sylw, yn gysylltiedig â gwybodaeth bellach am yrfaoedd perthnasol ar AberLearn / Blackboard. Bydd gan y modiwl hefyd ymweliad yn y gweithle neu alwad gyda gweithiwr proffesiynol mewn maes gysylltiedig. At hynny, bydd myfyrwyr yn datblygu eu gwybodaeth ymhellach yn Thema 1: Cynllunio ar gyfer eich Dyfodol, trwy ddysgu am y swyddi a’r cyfleoedd
Datrys Problemau Bydd y modiwl yn trafod enghreifftiau o sut y gellir defnyddio gwybodaeth ddaearyddol i ddeall, asesu a datblygu ymatebion i broblemau amgylcheddol.
Gwaith Tim Os y bydd niferoedd yn caniatau, mi fydd myfyrwyr yn paratoi cyflwyniad seminar mewn grwpiau / parau.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd presenoldeb myfyrwyr, eu cyfranogiad mewn darlithoedd, a’u gwaith paratoi, yn eu helpu i wella ystod o fedrau dysgu. Mae'r modiwl yn mynnu bod myfyrwyr yn ymgymryd ag astudiaeth hunangyfeiriedig sylweddol.
Rhifedd Datblygir sgiliau rhifedd trwy ddeall tystiolaeth ystadegol yn ymwneud a rhai enghreifftiau a ddefnyddir mewn darlithoedd.
Sgiliau pwnc penodol Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau deallusol pwnc-benodol wrth drafod a chymhwyso cysyniadau daearyddol ac ymgysylltu a dadleuon a llenyddiaeth ddaearyddol.
Sgiliau ymchwil Yn ogystal a darllen academaidd, disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio i enghreifftiau gan ddefnyddio adnoddau llyfrgell ac ar y we ar gyfer darlithoedd a seminarau wythnosol.
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio i enghreifftiau gan ddefnyddio’r we ar gyfer darlithoedd wythnosol a'r seminarau, ac i gynhyrchu sleidiau Pwerbwynt.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6