Prosiect MSc

Cod y Modiwl
FGM5560
Teitl y Modiwl
Prosiect MSc
Blwyddyn Academaidd
2027/2028
Semester
Semester 3
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Dr Dave Langstaff
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Rhagofynion
PHM7220
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
PHM5560
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Professor Huw Morgan

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Cynnydd: 10%
Asesiad Semester Cyflwyniad Llafar: 20 Munud 15%
Asesiad Semester Adroddiad Ffurfiol: 5000 o eiriau 75%
Asesiad Ailsefyll Cynnydd: 10%
Asesiad Ailsefyll Adroddiad Ffurfiol: 5000 o eiriau 75%
Asesiad Ailsefyll Cyflwyniad Llafar: 20 Munud 15%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. Ymchwilio problem wyddonol/beiriannol benodol o fewn arbenigedd y radd MSc.
  2. Dehongli a thrafod canlyniadau ymchwil yn feirniadol yn nhermau gwybodaeth gyfredol o'r testun.
  3. Cyflwyno ac amddiffyn gwaith ar lafar.
  4. Cyflwyno gwaith mewn adroddiad ffurfiol ysgrifenedig.

Disgrifiad cryno

Yn dilyn yr ymchwil i'r llenyddiaeth a chynllunio fel rhan o PHM7220 yn semester 2, mae'r myfyriwr yn cynnal prosiect sydd fel arfer gydag un o grwpiau ymchwil yn y Brifysgol o dan oruchwyliaeth y goruchwylydd prosiect. Mae'r canlyniadau i'w dehongli a'u trafod yng nghyd-destun y wybodaeth gyfredol ar y testun ymchwil, a'r gwaith i'w gyflwyno ar lafar ac mewn adroddiad ffurfiol ysgrifenedig.
Ceir manylion pellach ar dudalen we y prosiect.

Cynnwys

Bydd y testun ymchwil o fewn arbenigedd y radd MSc. Bydd y testun penodol yn wahanol ar gyfer pob prosiect.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Addasrwydd a gwydnwch Mae prosiectau ymchwil angen y gallu i addasu cynlluniau wedi cael tystiolaeth gynnar.
Cydlynu ag erail Er mai prosiect unigol yw'r prosiect, bydd y myfyriwr yn gwneud y gorau o'r amser byr sydd ar gael drwy gydlynu gyda'u goruchwylydd ac, os yn briodol, gyda defnyddwyr eraill o'r labordy.
Cyfathrebu proffesiynol Defnyddio terminoleg briodol a chyflwyniad rhesymegol a thrafod canlyniadau mewn adroddiad ysgrifenedig a chyflwyniad llafar.
Datrys Problemau Creadigol Mae cynllunio ymchwiliad estynedig i gyflawni nodau yn greiddiol i unrhyw brosiect ymchwil.
Gallu digidol Yn ddieithriad, bydd dadansoddi data yn cynnwys defnyddio rhaglenni cyfrifiadurol ac efallai y bydd angen codio.
Meddwl beirniadol a dadansoddol Dadansoddi data ac ystyriaeth o arteffactau posibl ac effeithiau amgylcheddol.
Synnwyr byd go iawn Bydd adroddiadau ysgrifenedig a llafar yn myfyrio ar broblemau technolegol sy'n effeithio cymdeithas ac yn rhoi eu canfyddiadau yng nghyd-destun yr heriau technolegol hyn.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7